Gwella Ysgolion 

Pa gymorth y mae’r GCA yn ei ddarparu? 


Model Rhanbarthol ar gyfer Gwella Ysgolion 

Yn ystod pob blwyddyn academaidd, bydd yr ALl a’r GCA yn cymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol gydag ysgolion i ystyried eu blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer gwella ac i fyfyrio ar y cynnydd y maent yn ei wneud tuag at gyflawni’r rhain. 

Mae’r broses hon wedi’i datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn trafodaethau gyda’r grŵp rhanddeiliaid penaethiaid rhanbarthol. Bwriedir iddi fod yn broses gylchol sy’n cefnogi ysgolion i bennu a/neu adolygu’r blaenoriaethau sy’n deillio o’u prosesau hunanarfarnu.   

Mae hefyd yn gyfle i ysgolion ddangos bod y prosesau hyn yn gywir ac yn effeithiol wrth nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella.  Mae’r drafodaeth hefyd yn helpu i bennu anghenion cymorth parhaus yr ysgol gan yr ALl a’r GCA fel ei gilydd a nodi lle mae’n werth rhannu arfer. 

Mae’r model hwn yn adlewyrchu canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chydweithio fel rhan o ganllawiau gwerthuso a gwella ysgolion. Am ragor o wybodaeth, ewch i Ganllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd - Hwb (llyw.cymru).

NODER: Os nad yw'r drafodaeth wedi'i threfnu ar ddechrau'r cylch Cynllunio Datblygiad Ysgol, bydd y Partner Gwella Ysgol (PGY) eisoes wedi cynnal deialog gyda'r Pennaeth ynghylch blaenoriaethau ar gyfer gwella, cynlluniau grant a chymorth.  Dylai’r broses drafod broffesiynol felly fod yn hyblyg i adlewyrchu cam y cylch cynllunio pan fydd y drafodaeth broffesiynol yn digwydd, er enghraifft, yn ystod tymor y gwanwyn neu’r haf. 

Mae rhaglen beilot genedlaethol yn mynd rhagddi bellach o’r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella. Mae’r Adnodd wedi’i gynllunio i roi modd i ysgolion werthuso a gwella perfformiad dros amser, mewn cytgord â diwygio’r cwricwlwm ac ymagwedd esblygol Estyn at arolygu.