Dysgu Proffesiynol ar gyfer Addysgeg ac Arweinyddiaeth

"Mae addysg yng Nghymru yn newid. Mae rhagolygon a chyfleoedd bywyd ein pobl ifanc yn gwella o ganlyniad i genhadaeth gyffredinol ein cenedl i ddiwygio addysg. Mae’n newid er gwell, o ganlyniad i waith caled miloedd o athrawon, staff ysgolion, penaethiaid a phartneriaid addysg ledled y wlad. "

Y Gweinidog Addysg 

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Diweddariad Hydref 2020 

Mae'r cyfleoedd dysgu proffesiynol a amlinellir isod wedi'u cynllunio i gefnogi ein hysgolion ar draws y rhanbarth. Mae'r cynnig yn gysylltiedig ag Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru ac mae'n cefnogi'r gweithlu cyfan i wireddu pob agwedd ar Ddiwygio Addysg , gan gynnwys Cwricwlwm Cymru.

Mae paratoi pob ysgol ac athro ar gyfer rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith o 2022 yn gofyn am arweinyddiaeth bersonol a phroffesiynol gref ym mhob ystafell ddosbarth ac ystafell staff. Mae angen i’r holl bartneriaid sy’n rhan o addysg Cymru ymrwymo o’r newydd i gydweithio, cydnabod rolau a chyfrifoldebau, a chefnogi ysgolion i gynllunio a gwireddu’r cwricwlwm."

Y Gweinidog Addysg 

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Diweddariad Hydref 2020