Mae Addysgwyr Cymru, a gyllidir gan Llywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod á chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd.
Mae'r porthol swyddi, un o'r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, yn rhoi mynediad i chwilwyr swyddi i'r cyfleoedd gorau sydd ar gael. Yn fwy na hynny, mae'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n hysbysebu eu swyddi gwag drwy eu hawdurdod lleol yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar Addysgwyr Cymru hefyd.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Addysgwyr Cymru, neu gallwch ein gwahodd y tîm i gyfarfod, er mwyn iddynt rannu buddion cofrestru gydag Addysgwyr Cymru gyda chi a'ch cydweithwyr.
Gwyddom fod 7 allan o bob 25 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n effeithio ar eu bywyd pob dydd, eu haddysg a’u cyfleoedd bywyd i’r dyfodol.
Mae’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion yn gasgliad o ganllawiau am ddim i ysgolion sy’n ystyried sut mae gwneud newidiadau BACH mewn 5 maes allweddol o fywyd yr ysgol (Deall Tlodi; Gwisg Ysgol a Dillad, Bwyd a Bod yn Llwglyd; Cyfranogi ym Mywyd yr Ysgol; y Berthynas rhwng y Cartref a’r Ysgol) yn gallu gwneud gwahaniaeth MAWR i fywydau dysgwyr a theuluoedd y mae incwm is a’r cynnydd mewn costau byw yn effeithio arnyn nhw. Mae’r canllawiau hyn ar gael hefyd fel set o Ganllawiau i Lywodraethwyr, a gall llywodraethwyr ysgol weld recordiad o weminar ynghylch y canllawiau yma.
Yn ogystal, gall ysgolion roi eu henw i lawr AM DDIM ar gyfer Rhaglen Taclo Effaith Tlodi ar Addysg er mwyn derbyn adnoddau ychwanegol AM DDIM, gan gynnwys pecyn offer cynhwysfawr a chymorth hyfforddi.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion uchod, cysylltwch â pupilpoverty@childreninwales.org.uk
Hoffai'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol rannu'r rhestr o gyhoeddiadau, cyfryngau a digwyddiadau sydd i ddod y mis hwn. Am fwy o wybodaeth neu i archebu Ile, ewch i www.nael.cymru/cy/events