Mae'r fframwaith yn rhan o'r Pasbort Dysgu Proffesiynol, ac mae'n rhoi cyfle i ymarferwyr gofnodi eu cynnydd o ran datblygu eu sgiliau Cymraeg, o'r cyfnod Addysg Gychwynnol i Athrawon drwy gydol eu gyrfa.
The framework sits within the Professional Learning Passport and enables practitioners to note their progress in developing their Welsh language skills form ITE throughout their careers.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi lansio porth ar-lein newydd i arddangos yr holl opsiynau er mwyn cynorthwyo ymarferwyr i ddod o hyd i gwrs addas.
The National Centre for Learning Welsh has launched a new online portal to showcase all that is available in order to help practitioners find a suitable Welsh language course.
Cymraeg Gwaith - Cyrsiau blasu ar-lein
Mae'r ddarpariaeth yma o fewn y Porth.
Os ydych chi eisoes yn rhugl yn y Gymraeg, dyma gyfle i chi ennill hyder wrth ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg - yn enwedig wrth ysgrifennu. Mae’r cwrs ar gael i bawb, ac yn rhad ac am ddim.
Mae'n cynnwys Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).
10 hours free online taster courses specifically tailored for the education profession. The courses introduce everyday words and phrases for use in everyday situations in schools.
Y Cynllun Sabothol
Dyma Jonny, athro cynradd a anwyd yn Lloegr ond sydd bellach yn Gymro i'r carn! Gwrandewch arnon'n trafod ei brofiad o'r cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn gydag angerdd a brwdfrydedd.
Gwrnadewch ar Angharad, athrawes blwyddyn y yn siarad am ddylanwad y cynllun ar ei gyrfa.
Dyma Simon,, athro blwyddyn 4 yn trafod defnyddio'i sgiliau iaith newydd i hyfforddi eraill yn ei ysgol a'r clwstwr.
Dyma farn pennaeth am effaith y cynllun Sabothol ar ei ysgol a'i staff.
Mae'r GCA yn falch o weithio gyda Llywodreath Cymru a phartneriaid i hyrwyddo'r Cynllun Sabothol. Rydyn ni'n cefnogi ymarferwyr trwy gydol eu lleoliad Sabothol a'r rhai sydd wedi cwblhau'r cynllun ar ôl dychwelyd i'r ysgol.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion a chlystyrau i adeiladu tîm craidd o arweinwyr Sabothol sy'n gweithio, nid yn unig yn eu hysgolion eu hunain, ond o fewn eu clwstwr ac ar draws y rhanbarth i ddatblygu sgiliau addysgu'r Gymraeg a sgiliau iaith ymarferwyr.
Cysylltwch â Siân Tinnuche, cydlynydd Sabothol y GCA, i gael mwy o wybodaeth am y cynllun a chyfleoedd cyfredol i gymryd rhan.
sian.tinnuche@sewaleseas.org.uk
07904 644923