Yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, mae ysgolion a lleoliadau addysgol eraill ledled Cymru yn cynllunio, defnyddio a mireinio eu cwricwlwm i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.
Yma fe welwch ganllawiau, adnoddau a chefnogaeth i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu dulliau ysgol gyfan o ymdrin â thegwch.
Beth sydd ar gael? Cliciwch ar y dolenni isod i lywio at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi!
Darganfyddwch sut mae Ysgol Gynradd Cwmcarn wedi datblygu eu darpariaeth a gwella cyrhaeddiad eu dysgwyr bregus a difreintiedig.
Gweler isod am wybodaeth, arweiniad ac adnoddau i gefnogi ymagweddau eich ysgol at degwch.
Mae'r poster hwn yn rhoi'r holl ddolenni i adnoddau rhanbarthol a chenedlaethol, dysgu proffesiynol rhanbarthol ac arweiniad cenedlaethol i arweinwyr ysgol er mwyn cefnogi ysgolion wrth liniaru effaith tlodi. Mae'r poster yn uno'r holl linynnau ar gyfer dull gwrth-dlodi strategol sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr, teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Bydd Ysgol John Frost (Casnewydd) yn rhannu ei thaith fel ysgol sy'n Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Ddifreintiedig (RADY). Mae uwch-arweinwyr yr ysgol yn archwilio ac yn disgrifio effaith codi cyrhaeddiad ar gyfer pobl ifanc ddifreintiedig, gan ganolbwyntio ar ymgysylltiad, dilyniant a chyrhaeddiad disgyblion, tra’n myfyrio ar y newid diwylliannol ac ethos sydd wedi bod yn sail i'r daith ysgol gyfan hon.
I gael arweiniad, cymorth a dysgu proffesiynol ar liniaru effaith tlodi yn eich ysgol neu glwstwr, gweler y trosolwg isod.
Mae’r set hon o ddeunyddiau dysgu proffesiynol ar gael am ddim i bob athro mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru.
Mae cyllid wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, drwy EAS, GwE, Partneriaeth Canolbarth Cymru a Partneriaeth. Gall holl athrawon Cymru gael mynediad at y deunyddiau yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch trwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb.
Cliciwch isod i ddarganfod sut mae ysgolion wedi defnyddio'r adnodd hwn i gefnogi eu haddysgu a'u dysgu
Canllawiau Cynllunio Grant
Recordiad - Canllawiau Cynllunio Grant
Canllawiau Cynllunio Grant PDG-LAC Clwstwr
Canllawiau Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru
Canllawiau Ysgolion Bro
Templed Datganiad Strategaeth PDG
Ysgolion Gaer a Maesglas
Dull a darpariaeth ysgol ar gyfer mynd i'r afael ag agweddau ar dlodi
Lliswerry Primary
Dull a darpariaeth ysgol ar gyfer mynd i'r afael ag agweddau ar dlodi
Tredegar Comprehensive
Dull clwstwr o liniaru effaith tlodi
Clwster Sir Fynwy
Ysgolion Coed Eva a Blenheim
I gael arweiniad, cymorth a dysgu proffesiynol wrth ddatblygu eich ymgysylltiad Teuluol a Chymunedol yn eich ysgol neu glwstwr, gweler y trosolwg isod.
Wrth gwmpasu eich cwricwlwm ac i gefnogi eich hunanwerthusiad o'r dull ysgol gyfan, bydd y Canllawiau Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn eich cefnogi gyda syniadau, awgrymiadau ac astudiaethau achos.
I gael arweiniad, cymorth a dysgu proffesiynol wrth gefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal (CLA) gweler y wybodaeth isod.
I gael arweiniad, cymorth a dysgu proffesiynol wrth gefnogi amrywiaeth cliciwch yma