Diweddariadau ynghylch Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol

Diweddariadau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu proffesiynol

Taith Dysgu Proffesiynol

Mae’r daith dysgu proffesiynol wedi cael ei datblygu i helpu i gynnig arweiniad i ysgolion ynghylch agweddau strwythurol a phroffesiynol paratoi at Gwricwlwm Cymru. Mae’n eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd trwy’r gwahanol fodelau ar gyfer dysgu proffesiynol, a chynllunio taith eich ysgol eich hun. 

Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC)

Mae'r rhaglen hon yn cefnogi ysgolion yn y broses o gynnal ymholiad. Bydd ysgolion arweiniol yn cefnogi'r rhwydwaith ehangach o ysgolion.

Yn ystod 2022-23 bu 28 o ysgolion o'r rhanbarth yn cymryd rhan yn y prosiect PYPC (NPEP). Bu’r ymholiadau yn canolbwyntio ar un o bedair thema;  'Asesu a chynnydd', 'Ail-greu addysg', 'Cynhwysiant,' 'Addysgeg, dysgu ac addysgu '. Cliciwch yma i ymweld a'n tudalen Ymchwil ac Ymholi.  Fe fydd ysgolion bartner y GCA yn cynnal cyfres newydd o ymchwiliaudau yn ystod 2022-23. 

 Llywodraeth Cymru - Digwyddiadau mewnwelediad polisi

Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal 'Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ddatblygiadau dysgu proffesiynol. Cyflwynir y sesiynau 1 awr ryngweithiol gan ymarferwyr ysgolion ar secondiad i Lywodraeth Cymru.

Cynhelir y digwyddiadau’n rithiol ac maent ar gael ar alw, fel fideo neu restr chwarae Hwb. Cliciwch ar y digwyddiad i weld recordiad a mynediad i’r adnoddau.

29 Mawrth 2023: mewnwelediad polisi: ysgolion bro (ymgysylltu â theuluoedd)

Cyflwyniadau gan  Kirsty Davies-Warner, Suzanne Sarjeant.  Yr Athro Janet Goodall discusses yn cyflwyno pecyn cymorth ymgysylltu â rhieni. 

Cliciwch yma i weld y rhestr chwarae 

24 Tachwedd 2022: mewnwelediad polisi: ysgolion bro

Cyflwyniadau gan Kirsty Warner- (Llywodraeth Cymru Cymru), Lindsey Bromwell (Pennaeth Ysgolion Cymunedol), Dr. Suzanne Sarjeant, ymgynghorydd ysgolion cymunedol (seconiad Llywodraeth Cymru) 

Cliciwch yma i wed y rhestr chwarae

7 Gorffennaf 2022: mewnwelediad polisi: ymholi cydweithredol

Yn y digwyddiad hwn byddwch yma am y rôl hollbwysig ymholi wrth ddatblygu cwricwlwm i Gymru. Cyflwyniadau gan Kevin Palmer (Dirprwy Gyfarwyddwr Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol yn Llywodraeth Cymru) a Rhian Davies. Ysgol y Brenin Harri VIII. Cliciwch isod i gael mynediad i'r rhestr chwarae.

Rhestr Chwarae

14 Mehefin 2022: mewnwelediad polisi: Digital Professional Learning Journey (DPLJ) lansiad swyddogol

Rhestr Chwarae 

26 Ebrill 2022: mewnwelediad polisi: adnoddau dysgu proffesiynol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Cliciwch yma i weld y restr chwarae 

31 Mawrth 2022: mewnwelediad polisi: diweddariad dysgu proffesiynol

Yma byddwch yn dysgu am yr hawl dysgu proffesiynol a SLO/Cymru fel System Dysgu. 

Cliciwch yma i weld y restr chwarae

3 Mawrth 2022: mewnwelediad polisi: dysgu proffesiynol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth

Dysgu proffesinol ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL)

Cliciwch yma i weld y rhestr chwarae

1 Gorffennaf 2021: ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu (YSD) ac arweinyddiaeth strategol addysgeg

Yn y digwyddiad hwn, cewch wybod am ddull sy'n cael ei ddatblygu i gefnogi ein myfyrdodau ar COVID19 yng nghyd-destun YSD ac addysgeg. Byddwch yn clywed gan ysgolion, cydweithwyr a randdeiliaid eraill ar sut y gall yr offeryn hwn gefnogi trafodaethau wrth i ni feddwl am ein taith tuag at gwireddu Cwricwlwm i Gymru.

Rhestr Chwarae 

29 Ebrill 2021: mewnwelediad polisi: siarad addysgeg

Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr archwiliad cenedlaethol o addysgeg. Bydd cyfle i glywed gan rai o'r ysgolion dan sylw a chael amlinelliad o'r gweithgarwch ymgysylltu arfaethedig yn nhymor yr haf. Bydd trosolwg o sut rydym am ddatblygu ein dealltwriaeth o'r 12 egwyddor addysgeg hefyd yn cael ei ddarparu.

Rhestr Chwarae 

Ffurflen gofrestru

I gael mynediad i'r 'Digwyddiadau Mewnwelediad Polisi' yn fyw, cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein.

I weld mwy o ddigwyddiadau mewnwelediad polisi ewch i wefan Llywodraeth Cymru - Cliciwch yma 

Mae Trafod Addysgeg, Meddwl am Ddysgu yn cynnig gofod digidol i rannu arferion a chydweithio o fewn ac ar draws ein hysgolion er mwyn rhannu addysgeg ac arferion.

Gallwch wneud y canlynol:


Mae Trafod Addysgeg, Meddwl am Ddysgu yn ofod:

'.....where people continually expand their capacity to create the results they truly desire, where new and expansive patterns of thinking are nurtured, where collective aspiration is set free, and where people are continually learning to see the whole together.'

The Fifth Discipline by Peter Senge (Doubleday/Currency, 1990).

Podlediad Addysg Cymru 

Cyswllt Arweiniol y GCA - 

Deb Woodward - deb.woodward@sewaleseas.org.uk - Cyfarwyddwr Cynorthwyol 

a Dan Davies daniel.davies@sewaleseas.org.uk - Partner Arweiniol Dysgu Proffesiynol