Mae ein rhaglen tridiau newydd yn arwain ysgolion wrth ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial o fewn Hwb i wella’r broses dylunio cwricwlwm gyfan. Byddwch yn ymgysylltu â chynllunio ymarferol i ddatblygu a gwerthuso dulliau deallusrwydd artiffisial wedi’u teilwra i anghenion eich ysgol. Cadwch eich lle heddiw er mwyn archwilio dyfodol arloesedd y cwricwlwm a’i effaith ar eich dysgwyr.
Caerphilly: https://www.ticketsource.co.uk/booking/t-lnqookv
Newport / Torfaen: https://www.ticketsource.co.uk/booking/t-ojgyogg
Blaenau Gwent / Monmouthshire: https://www.ticketsource.co.uk/booking/t-rpmxxlx
Ymunwch â’n sesiwn dysgu proffesiynol ymarferol, wedi’i dylunio i feithrin eich sgiliau a magu eich hyder wrth ymgorffori sgiliau digidol yn ddilys o fewn y MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn rhoi amrywiaeth o syniadau a strategaethau parod i chi eu defnyddio er mwyn gwella ymgysylltiad a deilliannau dysgwyr. Cadwch eich lle er mwyn archwilio ffyrdd newydd ac ystyrlon o integreiddio technoleg yn eich ymarfer.
Cyrsiau Sabothol Cymraeg – Tymor yr Haf 2026:
Gellir gwneud cais ar gyfer y cyrsiau sabothol canlynol rhwng 16 Tachwedd a 13 Hydref:
Athrawon Ysgol Gynradd: Lefel Sylfaen – 11 wythnos (13 Ebrill – 3 Gorffennaf 2026)
Athrawon Addysg Gorfforol Uwchradd: Lefel Mynediad – 15 diwrnod (1 – 19 Mehefin 2026)
Athrawon Cymraeg (Ail Iaith) Uwchradd: Lefel Rhuglder – 25 diwrnod (20 Ebrill – 9 Gorffennaf 2026)
Gwnewch gais yma: Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys | Dysgu Cymraeg
D.S. Mae ffurflenni cais yn gofyn am enw cyswllt awdurdod lleol. Eich cyswllt yw Sian.Tinnuche@sewaleseas.org.uk