Ymchwil ac Ymholi

Rwyf am i ymarfer ein harweinwyr, athrawon, staff cymorth a staff awdurdodau lleol gael ei lywio gan dystiolaeth ymchwil hygyrch ac ymholiad proffesiynol. Credwn y bydd hyn yn hanfodol i wireddu ein cwricwlwm ysgol newydd 

Jeremy Miles AS 

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Mehefin 2021  

Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol 

Ym mis Mehefin 2021 lansiodd llywodraeth Cymru y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholi Addysgol (NSERE): dogfen weledigaeth.  Nod yr NSERE yw y dylai polisi ac arfer addysgol yng Nghymru gael eu llywio gan y dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael ac ymholiad disgybledig a wneir gan weithwyr addysg proffesiynol.

Bydd y datblygiadau yn canolbwyntio ar alluogi ymarferwyr i fod yn ddefnyddwyr ymchwil o ansawdd uchel ac yn gynhyrchwyr ymholiad proffesiynol sy’n cael ei lywio gan ddulliau ymchwil trwyadl. Dyma pam y dewiswyd cynnwys ‘ymchwil’ ac ‘ymholiad’ yn y strategaeth, fel bod y dull sydd ar waith yng Nghymru yn gynhwysol ac yn ‘agos at ymarfer’


y-strategaeth-genedlaethol-ar-gyfer-ymchwil-ac-ymholiad-addysgol-dogfen-weledigaeth.pdf

Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC)

Mae'r rhaglen hon yn cefnogi ysgolion i yn y broses o gynnal ymholiad.  Yn dilyn y cylch ymholi 20/21, bydd yr ysgolion ymholiadau arweiniol hyn yn gallu cefnogi'r rhwydwaith ehangach o ysgolion.

Yn ystod 2020-21 bu 38 o ysgolion o'r rhanbarth yn cymryd rhan yn y prosiect PYPC (NPEP). Bu’r ymholiadau yn canolbwyntio ar un o bedair thema;  'Asesu a chynnydd', 'Ail-greu addysg', 'Cynhwysiant,' 'Addysgeg, dysgu ac addysgu '. Cliciwch ar yr ysgol i weld crynodeb o'u hymholiad.

Fe fydd ymholiadau NPEP 2021/22 yn cael ei diweddru yn fuan.

Asesu a chynnydd

Ail-greu addysg

Cynhwysiant

Addysgeg, dysgu ac addysgu

Ymchwil ac ymholi. Lle i ddechrau?

Cynnal Ymholiad Proffesiynol - Met Caerdydd

 Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi datblygu canllaw i gynnal Ymchwiliad proffesiynol.  Byddem yn argymell hyn fel lle dda i gychwyn. 

guide-to-undertaking-professional-enquiry-cy.pdf

Spirals of Inquiry: Enghraifft o ddull ymholi proffesiynol

The Cardiff Met guide references ‘spiral of inquiry’ – an approach to professional enquiry developed by teachers and school leaders in British Columbia, Canada.

 Mae’r dull hwn yn tybied y bydd athrawon a fydd â meddylfryd chwilfrydig ac ymholgar yn ymgymryd â gwaith cydweithredol yn eu hysgolion er mwyn ceisio deall a datrys problemau cyffredin neu heriau y byddan nhw’n eu hwynebu.

Ymchwil diddorol cyfredol

Ymchwil ac adnoddau gan ein partneriaid strategol

Cynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynn.pdf

Dolen i weminarau ymchwil  gan Brifysgol Met Caerdydd

Am fwy o fanylion cysylltwch â  : daniel.davies@sewaleseas.org.uk 

Partner Arweiniol Dysgu Proffesiynol (Arweinyddiaeth ac Addysgu)