Llythrennedd: Uwchradd

Newyddion a Chyfleoedd

Mae Tim ILlaCh y GCA yn cynnig ystod eang o gyfleodd dysgu profeesiynol i ymarferwyr.  Trefnir yr arlwy mewn cydweithrediad a'n hysgolion cyfrwng Cymraeg.  Gweler hefyd y Cynnig Dysgu Proffesiynol. 

Adnoddau ac Enghreifftio

Llais y Disgybl: Llythrennedd

Cyfres o gwestiynau at ddefnydd arweinwyr llythrennedd ac arweinwyr dysgu er mwyn casglu llais disgyblion am gryfderau a meysydd i'w datblygu o ran darpariaeth llythrennedd. Mae'r cwestiynau'n cwmpasu ystod o gyd-destunau llythrennedd ac yn ddisgybl-gyfeillgar. 

Dringo'r Ysgol Gwrando 

Poster er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion am bwysigrwydd sgiliau gwrando ac yn dangos ystod o ymatebion sy'n gynyddol heriol er mwyn i'r disgyblion hunanwerthuso eu hymatebion ac adnabod y cam nesaf iddyn nhw. Gellir mabwysiadu'r ysgol gwrando fel strategaeth ysgol gyfan er mwyn hyrwyddo cysondeb ar draws MDPh a disgyblaethau.  

Llafaredd Llwyddiannus 

Mae'r adnodd hwn yn fersiwn symlach o waith arloesol Voice 21 ac yn annog ymarferwyr a disgyblion i ystyried yr ystod o sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn medru cyfathrebu'n effeithiol ar lafar: defnydd o'r corff, meddwl a geirfa yn ogystal ag ymwybyddiaeth o'r gynulleidfa. Mae'r posteri'n cynnwys amrywiaeth o awgrymiadau i'r disgyblion eu hystyried wrth gynllunio eu llafaredd.

Matiau Llafaredd: Trafod!

Adnodd sy’n cefnogi athrawon sy’n chwilio am ddeunyddiau i feithrin sgiliau trafod dysgwyr mewn pedwar cyd-destun: cynnig syniad neu farn; achos ac effaith; pwysleisio; meddwl – ystyried – archwilio – rhagfynegi a rhagdybio. Mae’r matiau yn cynnwys y chwe rôl trafod i gefnogi trafodaeth hefyd.

Darllen fel ... 

Mae'r gyfres hon o bosteri dwyieithog yn cydnabod y sgiliau darllen amrywiol sydd eu hangen ar ddisgyblion er mwyn deall testunau mewn pynciau gwahanol. Maen nhw'n cynnwys strategaethau pwnc-benodol sy'n galluogi disgyblion i ddeall hanfodion y testun dan sylw. Mae effaith y strategaethau ar ei gorau pan gânt eu defnyddio'n gyson ar draws yr ysgol.

Mat bwrdd 

Adnodd syml i hyrwyddo cysondeb disgwyliadau pan fo disgyblion yn creu neu'n myfyrio ar waith ysgrifenedig. Trwy gyfres o gwestiynau, mae'r adnodd yn annog disgyblion i feddwl am eu gwaith trwy eu cyfeirio at ystyriaethau megis atalnodi, mathau o eiriau a geirfa sy'n berthnasol i'r pwnc.

Asesiadau Personol 

Deunyddiau Cyfair  

Dogfen Ganllaw 

Nod yr adroddiad hwn yw helpu ysgolion uwchradd i gryfhau eu darpariaeth ar gyfer llythrennedd disgyblaethol. Mae'n darparu saith argymhelliad yn ymwneud â darllen, ysgrifennu, siarad, datblygu geirfa a chefnogi myfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd. 

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod gofynion llythrennedd yn amrywio o bwnc i bwnc ac mae'n pwysleisio gwerth cefnogi athrawon ym mhob pwnc i ddysgu myfyrwyr sut i ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu'n effeithiol yn eu pynciau.