Mae gan y model hygrededd, gan dynnu ar arbenigedd a sgiliau perthnasol a diweddar.
Mae'n galluogi penaethiaid i ddarparu cymorth a her rhwng cymheiriaid.
Mae bod yn PGY yn gyfle dysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth systemau, gan ddatblygu'r system hunanwella. Mae’n fodel hyblyg ac ystwyth gyda chyllid yn cael ei ddarparu i ysgolion, yn tyfu, ac yn datblygu arweinwyr y dyfodol.
Dim ond ychydig o ysgolion fydd gan bennaeth fel PGY, gan alluogi a darparu cymorth pwrpasol â ffocws, wedi'i alinio â blaenoriaethau gwella ysgol.
Lle mae ysgolion yn cael cymorth dwys, mae'r model yn galluogi'r PGY fel pennaeth i ddefnyddio ei ysgol ei hun i ddarparu cymorth cyfannol, gan ganolbwyntio ar wella ansawdd arweinyddiaeth ac addysgu, yn unol ag angen.
Rhaid bod gan y pennaeth hygrededd arweinyddiaeth profedig.
Ymgymerir ag ymweliadau ysgol gan Brif Bartneriaid Gwella Ysgolion i sicrhau ansawdd darpariaeth a safonau.
Bydd trafodaeth barhaus am y gallu i ymgymryd â'r rôl.
Rhaid cael cytundeb gan y corff llywodraethu i ymgymryd â'r rôl a bydd angen i Gytundeb Partneriaeth PGY fod yn ei le.
Bydd y rhanbarth yn ceisio cytundeb gan ALl cyn ymgysylltu â Phenaethiaid yn rôl y PGY.
Darperir ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer PGY gan gynnwys sesiynau diweddaru tymhorol a gweithdai.
Mae ffocws ar agweddau gweithredol y rôl a chyfleoedd ymarferol i PGY ymgymryd â gweithgareddau hunanwerthuso ar y cyd gan gynnwys edrych ar lyfrau trwy ddull modelu.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau sicrhau ansawdd gan gynnwys ymweliadau ar y cyd ac adroddiadau ysgrifenedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â rôl PGY, cysylltwch â Kirsty Bevan: Kirsty.bevan@sewaleseas.org.uk
‘Mae bod yn PGY yn galluogi ysgolion i rannu arfer gorau er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar ddysgu. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol rhagorol i benaethiaid rwydweithio’.
‘Mae bod yn PGY yn rhoi'r dysgu proffesiynol gorau posibl i mi. Mae'n rhoi cyfleoedd i mi gysylltu â Phenaethiaid o awdurdodau lleol eraill ac adeiladu timau rhwydweithio cefnogol. Caiff holl broses y PGY ei hategu gan rannu arfer ragorol, sy'n cael effaith gadarnhaol ar ysgolion a disgyblion ar draws y Gwasanaeth Cyflawni Addysg.’
‘Mae bod yn PGY yn hybu perthynas symbiotig sy'n cefnogi cyd-welliant, newid effeithiol a dysgu parhaus i bawb.’
Rhoddir trosolwg o weithgarwch y flwyddyn i bob CGY ar ffurf poster a drefnir fesul tymor ac yn benodol i bob ALl. Yn ogystal, bydd ysgolion a lleoliadau yn cael cymorth pwrpasol yn unol â blaenoriaethau gwella ysgolion.