Ieithoedd Rhyngwladol: Uwchradd

Newyddion a Chyfleoedd 

Mae Tim ILlaCh y GCA yn cynnig ystod eang o gyfleodd dysgu profeesiynol i ymarferwyr. Gweler Cynnig Dysgu Proffesiynol y GCA ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol sydd yn cynnwys cyfleoedd a ddarperir gan Ysgolion Partner.  

Adnoddau ac Enghreifftio

Dewch i weld arfer dda ieithoedd rhyngwladol @ Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed


Cyfle gwych i ymweld ag ysgol bartner ieithoedd rhyngwladol Santes Gwladys Bargoed, naill ai ar gyfer sesiwn y bore 9.15 – 12.00 neu sesiwn prynhawn 12.45 – 15.00 ar ddydd Mawrth, 28 Tachwedd 2023.

Gellir gweld ymarfer ieithoedd rhyngwladol yn uniongyrchol yn un o’n hysgolion partner Ieithoedd Rhyngwladol wrth i’w hymarferwyr a’u disgyblion gynnal ‘Taith o gwmpas y byd’, gan aros yn yr Eidal y tro hwn! Bydd yr arweinydd ILlaCh hefyd yn cyflwyno trosolwg o sut mae’r ysgol yn datblygu ei hethos amlieithog ysgol gyfan (a grybwyllwyd yn eu harolwg diweddar gan Estyn), a hefyd yn dangos sut maent yn datblygu eu prif iaith (Ffrangeg) yn CC3 a’r cyfnod pontio. Bydd cyfle hefyd am sesiwn holi ac ateb a thrafodaeth.

I archebu lle, llenwch y ffurflen fer hon:

  https://forms.office.com/e/RZ7HbvneBz

Darllenwch fwy am ethos ysgol gyfan yr ysgol yma: https://addysgcymru.blog.llyw.cymru/2022/12/08/ysgol-gynradd-santes-gwladys-bargod-dull-ysgol-gyfan-o-ymdrin-ag-ieithoedd-rhyngwladol-ein-taith-hyd-yn-hyn/

Syniadau ymarferol yn deillio o ddysgu proffesiynol gan ein hsygolion partner, er mwyn datblygu hyder disgyblion wrth siarad a gwrando:

Siarad Digymell - DP gan Anna Santiago, Ysgol Gyfun Y Coed Duon 

Ailymweld gyda'r sgiliau cynhyrchu iaith - DP gan  Ceri Griffiths, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Ysgol Uwchradd Trefnywn:  Astudiaeth achols ac Astudiaeth achos weledol ar ddatblygu sgiliau siarad dwy dechnoleg : Sanako UK 

Gwrando a Darllen

Weminar dysgu proffesiynol gan Caroline Weber (Ysgol Lewis i ferched) a Jill Snook (Ysgol trefnywy) am strategaethau gwrando a darllen

Mae trawsieithu yn sgil cyfryngu. Mae angen i ddisgyblion gyfieithu hefyd a dyma Emma Muggleton o Ysgol  Caerleon yn arwain DP diweddar ar hyn.

Gem BBC Bitesize 'Festilingo' ar gyfer Bl7 - 9  er mwyn cefnogi cyfieithu. Cliciwch'Festilingo' er mwyn cyrchu'r wefan.

trawsieithu-yn-y-dosbarth.pdf

.Ceisia'r llyfr hwn, gyflwyno ychydig o gefndir i’r cysyniad o drawsieithu fel ymgais i arfogi athrawon gyda gwell dealltwriaeth o’r maes cymhleth hwn er mwyn gallu ystyried pam, sut, a phryd i ddefnyddio dulliau trawsieithu yn effeithiol mewn ysgolion yng Nghymru.