Dysgu Proffesiynol Celfyddydau Mynegiannol
2023 - 2024
Cyfarfodydd Rhwydwaith Uwchradd
Bydd cyfarfodydd rhwydwaith tymhorol ar gyfer ymarferwyr y celfyddydau mynegiannol yn y cyfnod uwchradd yn canolbwyntio ar ymateb i ddatblygiadau mewn addysg wrth iddynt ddigwydd. Bydd ymarferwyr sy’n mynychu yn rhannu arfer rhagorol o bob rhan o’n rhanbarth ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod o drafodaethau proffesiynol gydag ymarferwyr o ysgolion eraill ar faterion cyfoes yn y celfyddydau mynegiannol.
Dydd Mercher 21 Mehefin 15.30 - 17.00
Dydd Mercher 22 Tachwedd 15.30 - 17.00
Dydd Mercher 6 Mawrth 15.30 - 17.00
Cynhelir cyfarfodydd rhithwir yn Nhîm MS y Celfyddydau Mynegiannol.
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd
Bydd cyfarfodydd rhwydwaith tymhorol ar gyfer ymarferwyr y celfyddydau mynegiannol yn y cyfnod cynradd yn canolbwyntio ar ymateb i ddatblygiadau mewn addysg wrth iddynt ddigwydd. Bydd ymarferwyr sy’n mynychu yn rhannu arfer rhagorol o bob rhan o’n rhanbarth ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod o drafodaethau proffesiynol gydag ymarferwyr o ysgolion eraill ar faterion cyfoes yn y celfyddydau mynegiannol.
Tuesday 4th July15.00 - 16.00
Tuesday 17th October 15.30 - 17.00
Wednesday 17th January 15.30 - 17.00
Cynhelir cyfarfodydd rhithwir yn Nhîm MS y Celfyddydau Mynegiannol.
Addysgu Cerddoriaeth yn yr Ysgol Gynradd
Course Code: E0112
Nod y sesiynau hyn yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr cynradd o sut i addysgu cerddoriaeth i gefnogi arferion ystafell ddosbarth gan gynnwys dilyniant amrywiol dechnegau/ffurfiau o fewn y ddisgyblaeth.
Sesiwn 1: Dydd Mercher 8 Tachwedd, 13.00 - 15.30, lleoliad i'w gadarnhau
Sesiwn 2: Dydd Mercher 31 Ionawr, 13.00 - 15.30, lleoliad i'w gadarnhau
Addysgu Celf yn yr Ysgol Gynradd
Course Code: E0113
Nod y sesiynau hyn yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr cynradd o sut i addysgu celf i gefnogi arferion ystafell ddosbarth gan gynnwys dilyniant amrywiol dechnegau/ffurfiau o fewn y ddisgyblaeth.
Sesiwn 1: Dydd Llun 13 Tachwedd 13.00 - 15.30, lleoliad i'w gadarnhau
Sesiwn 2: Dydd Mercher 24 Ionawr, 13.00 -15.30, lleoliad i'w gadarnhau
Addysgu Drama yn yr Ysgol Gynradd
Course Code: E0114
Nod y sesiynau hyn yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr cynradd o sut i addysgu drama i gefnogi arferion ystafell ddosbarth gan gynnwys dilyniant amrywiol dechnegau/ffurfiau o fewn y ddisgyblaeth.
Sesiwn 1: Dydd Gwener 17 Tachwedd, 13.00 - 15.30, lleoliad i'w gadarnhau
Sesiwn 2: Dydd Mercher 7 Chwefror, 13.00 - 15.30, lleoliad i'w gadarnhau
Cwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Gynradd Langstone
Bydd y digwyddiad dysgu proffesiynol hwn yn cael ei rannu’n rhaglen ddwy ran lle bydd Ysgol Gynradd Langstone yn rhannu sut maent wedi cynllunio a dylunio eu cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol. Bydd Rhan B yn rhoi'r cyfle i ymarferwyr arsylwi addysgu a dysgu y Celfyddydau Mynegiannol (Blwyddyn 1 a Blwyddyn 5/6) a sut mae eu cynlluniau cwricwlwm yn cael eu gweithredu yn yr ystafell ddosbarth.
Dylunio a Gweithredu Cwricwlwm Ffilm a Chyfryngau Digidol yn Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd
Bydd y gweithdy dysgu proffesiynol hwn yn cael ei gyflwyno dros ddwy sesiwn: Rhan A a Rhan B. Bydd yn ymgorffori sut mae Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd wedi mynd ati i ymdrin â Ffilm a Chyfryngau Digidol, yn nodi’r gwahanol fathau o Ffilm a Chyfryngau Digidol ac elfennau dull blaengar o ddatblygu gwybodaeth a sgiliau yn yr ysgol gynradd. Cewch gyfle i arsylwi a myfyrio ar sut mae Rhiw Syr Dafydd wedi defnyddio dull trawsgwricwlaidd o addysgu a dysgu a dechrau datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i roi Ffilm a Chyfryngau Digidol ar waith yn eich ysgol.