Cyngor Ymgynghorol Sefydlog
Beth yw CYSAG / CYS?
Bob blwyddyn academaidd, bydd pob Awdurdod Lleol ledled Cymru (a’r Awdurdodau Lleol yn Lloegr) yn cynnal cyfarfodydd tymhorol o Gyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG). Prif swyddogaeth CYSAG yw “Cynghori’r Awdurdod Lleol ar faterion sy’n ymwneud ag addoli ar y cyd mewn ysgolion ac ynghylch yr Addysg Grefyddol a roddir yn unol â’u Maes Llafur Cytunedig”. Maes Llafur a Gytunwyd yn Lleol yw’r cwricwlwm Addysg Grefyddol ar gyfer ysgolion cymunedol a rhai Ysgolion Gwirfoddol a Reolir gan Eglwys mewn Awdurdod Lleol.
Bydd y Maes Llafur Cytunedig yn parhau yn rhan o’r cwricwlwm i ysgolion nes bydd CYSAG yn cynghori’r Awdurdodau Lleol i adolygu neu gyhoeddi Maes Llafur Cytunedig newydd. Mabwysiadwyd y Maes Llafur cytunedig yn 2008 ar sail Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol, a chafodd hynny ei adolygu a’i ail-fabwysiadu gan y CYSAGau yn 2013 a 2018. Ar hyn o bryd, mae’r CYSAGau yn cynghori ac yn cynorthwyo’r Awdurdodau Lleol i lunio Maes Llafur Cytunedig newydd a fydd yn cychwyn pan ddaw’r Cwricwlwm i Gymru yn statudol ym Medi 2022. Mae ymgynghori ynghylch y rhain yn digwydd ar hyn o bryd, a chânt eu cyhoeddi cyn diwedd Tymor yr Haf. O fis Medi 2022 ymlaen, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog (CYSau) fydd enw’r CYSAGau.
Mae CYSAG/CYS bob Awdurdod Lleol yn cynnwys tri phwyllgor.
Pwyllgor A: Cynrychiolwyr gwahanol enwadau Cristnogol a chrefyddau a systemau credoau eraill sy’n adlewyrchu traddodiadau’r ardal honno;
Pwyllgor B: Cynrychiolwyr athrawon;
Pwyllgor C: Aelodau etholedig lleol sy’n cynrychioli’r Awdurdod Lleol.
Bydd CYSAGau yn trafod ystod eang o faterion yn ymwneud ag Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd o safbwynt lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y CYSAGau hefyd yn cael diweddariadau bob tymor am waith Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGC). Rôl CCYSACC yw darparu cyfrwng i gyfnewid arferion da ac i gynrychioli nodau, gwaith a safbwyntiau’r CYSAGau sy’n aelodau ohoni. Defnyddiwch y ddolen uchod i gael y wybodaeth ddiweddaraf a rennir gan CCYSAGC ag athrawon a’r sawl sydd â diddordeb mewn Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd.
Gall CYSAGau/CYSau eich cynorthwyo chi a chynorthwyo â’r gwaith o addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn lleoliadau eich ysgolion trwy gynnig cymorth ac arweiniad, a chyfleoedd i ddysgwyr sgwrsio gydag unigolion sy’n grefyddol ac yn ddigrefydd. Defnyddiwch y manylion isod i fynegi diddordeb mewn ymuno a’ch CYSAG/CYS lleol a/neu ei ddefnyddio: