Cymraeg a Llythrennedd: Cynradd

Newyddion a Chyfleoedd

Mae Tim ILlaCh y GCA yn cynnig ystod eang o gyfleodd dysgu profeesiynol i ymarferwyr. Gweler Cynnig Dysgu Proffesiynol y GCA ar gyfer y Gymraeg a Llythrennedd sydd yn cynnwys cyfleoedd a ddarperir gan Ysgolion Partner.  

Adnoddau ac Enghreifftio

Gweithgareddau Llythrennedd  

Deunyddiau Thematig 

Cyfres o weithgareddau thematig sy'n meithrin sgiliau Meddwl, Llafaredd, Darllen ac Ysgrifennu. Mae'r themâu yn cynnwys Bod yn Gryf, Bod yn Ifanc, Celf, Cymru, Dŵr ac Iechyd Da! 

Siarad a Gwrando 

Matiau Llafaredd: Trafod! 

Adnodd sy’n cefnogi athrawon sy’n chwilio am ddeunyddiau i feithrin sgiliau trafod dysgwyr mewn pedwar cyd-destun: cynnig syniad neu farn; achos ac effaith; pwysleisio; meddwl – ystyried – archwilio – rhagfynegi a rhagdybio. Mae’r matiau yn cynnwys y chwe rôl trafod i gefnogi trafodaeth hefyd.

Cefnogi Llafaredd yn y Cartref 

Mae'r deunyddiau hyn yn enghreifftio nifer o weithgareddau llafaredd ar gyfer dysgwyr. Maen nhw’n fan cychwyn i athrawon gynllunio er mwyn cynnig cyfleoedd i'w dysgwyr ymarfer eu sgiliau rhyngweithio a thrafod. Fe'u cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y cartref ond gellir eu cyflawni fel rhan o fodel dysgu cyfunol neu yn y dosbarth hefyd. Mae croeso i chi eu haddasu!

Darllen 

Darllen Dwyochrog (Reciprocal Reading)

Dull strwythuredig o addysgu strategaethau darllen (cwestiynu, egluro, crynhoi a rhagfynegi) y gall dysgwyr eu defnyddio er mwyn crynhoi eu sgiliau darllen a deall.

Mae’r deunyddiau’n cynnwys esboniad a chanllaw cyffredinol i'r ymarferydd ac amrywiaeth o dempledi.  

Datblygu Ditectifs Darllen 

Casgliad o weithgareddau ymateb i ddarllen a gasglwyd yn wreiddiol i gefnogi athrawon i gynllunio tasgau i enghreifftio gofynion y Fframwaith Llythrennedd. Cynhwysir gweithgareddau ar gyfer dysgwyr iau a hŷn yn yr ysgol gynradd.  

Deunyddiau'r Cliciadur

Amrywiaeth o ymarferion darllen a deall ar gyfer dysgwyr hŷn yr ysgol gynradd. Mae'r gweithgareddau'n seiliedig ar ddeunyddiau darllen digidol a ddarperir yng nghylchgrawn ar-lein Cynnal, sef, Y Cliciadur.  

Ysgrifennu  

Addysgu genres

Pecyn o ddeunyddiau sy'n cefnogi athrawon i addysgu ystod o genres. Mae'r pecyn yn cynnwys deunyddiau addysgu ar gyfer ymarferwyr ac ystod o adnoddau i gefnogi dysgwyr. Mae'r pecyn yn cynnwys un model posibl i ddatblygu genre yn effeithiol. 

Seiliau 'Sgrifennu

Offeryn i gefnogi athrawon i gynllunio ar gyfer dilyniant o ddysgu sy'n arwain at dasg ysgrifennu tra'n sicrhau cyfleoedd cyfoethog i feithrin sgiliau siarad, gwrando, a darllen ar yr un pryd.

Mae’r adnodd yn cynnwys unedau enghreifftiol ar gyfer y chwe math o destun anllenyddol ac ystod o dampledi y gellir eu defnyddio i gynllunio ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg ac ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Mat bwrdd 

Adnodd syml i hyrwyddo cysondeb disgwyliadau pan fo disgyblion yn creu neu'n myfyrio ar waith ysgrifenedig. Trwy gyfres o gwestiynau, mae'r adnodd yn annog disgyblion i feddwl am eu gwaith trwy eu cyfeirio at ystyriaethau megis atalnodi, mathau o eiriau a geirfa sy'n berthnasol i'r pwnc.

Llais y Disgybl: Llythrennedd   

Llais y disgybl

Cyfres o gwestiynau at ddefnydd arweinwyr llythrennedd ac arweinwyr dysgu er mwyn casglu llais disgyblion am gryfderau a meysydd i'w datblygu o ran darpariaeth llythrennedd. Mae'r cwestiynau'n cwmpasu ystod o gyd-destunau llythrennedd ac yn ddisgybl-gyfeillgar.