Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda llawer o ysgolion partner yn eu cymunedau dysgu a'r consortia Rhanbarthol gan sicrhau y bydd myfyrwyr yn cael mynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol, ac yn gwarantu profiadau addysgu o'r radd flaenaf mewn ysgolion cynradd neu golegau addysg bellach.
Mae gennym hanes o gyflwyno cyrsiau o safon, hyfforddi digon o athrawon myfyrwyr a gweithwyr addysg proffesiynol. Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2020, cafodd Hyfforddiant Athrawon yn PDC ei raddio i'r brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn yr Ardaloedd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a chymwyseddau proffesiynol sydd angen i fod yn athro/athrawes arbennig o effeithiol.
Os dewiswch astudio o leiaf 40 credyd o'ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch wneud cais am ysgoloriaeth i dderbyn £500 y flwyddyn o'r Coleg Cymraeg. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Annog athrawon sydd wedi bod allan o'r swydd ers cryn amser i fynd yn ôl i'r ystafell ddosbarth.
Am fwy o wybodaeth ewch i
Lleoedd partneriaeth a ariennir yn llawn ar gyfer y Radd Meistr Cenedlaethol ar y rhaglen MA Addysg (Cymru).
Gall lleoedd partneriaeth fynd i unigolion sydd y tu allan i'r meini prawf 3-6 blynedd. Rydym wedi cael nifer o geisiadau cryf ac wedi gwneud cynigion ond hoffem sicrhau bod unrhyw un sydd â diddordeb yn cael cyfle i wneud cais.
Dylai athrawon a hoffai gael eu hystyried ar gyfer un o'r lleoedd partneriaeth hyn wneud cais uniongyrchol i PDC a nodi'n glir yn eu datganiad personol eu bod yn gwneud cais am le mewn partneriaeth. Mae manylion y rhaglen a sut i wneud cais i'w gweld yma MA Addysg (Cymru) | Prifysgol De Cymru. Nodwch fod pob Partneriaeth A CDY yng Nghymru yn cynnig lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar y rhaglen MA Addysg (Cymru).
Efallai y bydd unrhyw ymgeiswyr nad ydynt yn ennill lle partneriaeth AGIC PDC yn dal i fod yn gymwys i gael lle ar y rhaglen. Yn yr achos hwn, mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon ym mlynyddoedd 3 – 6 eu gyrfa (wrth ddechrau'r cwrs). Bydd cyfarfodydd panel cenedlaethol parhaus i ddyfarnu cyllid i athrawon sy'n gwneud cais i SAU yn uniongyrchol fel hyn, felly ni fydd yn rhaid iddynt wneud cais am gyllid ar wahân.
Os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau am y lleoedd partneriaeth, cysylltwch â Lisa Taylor lisa.taylor@southwales.ac.uk. Am gwestiynau am y rhaglen MA Addysg (Cymru) yn gyffredinol, cysylltwch â Matt Hutt yn PDC matthew.hutt@southwales.ac.uk am ragor o wybodaeth a chefnogaeth.
Am wybodaeth bellach yn ymwneud â Phartneriaeth Caerdydd, cysylltwch a Deb Woodward, Cyfarwyddwr Cynorthwyol : Deb.Woodward@sewaleseas.org.uk neu Hannah.Barry@sewaleseas.org.uk