2025 - 2026
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd
Bydd y cyfarfodydd rhwydwaith hyn bob tymor, ar gyfer ymarferwyr dyniaethau yn y cyfnod cynradd, yn canolbwyntio ar ymateb i'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymarferwyr sy'n mynychu yn rhannu ymarfer rhagorol o bob rhan o'r rhanbarth ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol amrywiol gydag ymarferwyr o ysgolion eraill ar broblemau cyfredol yn y dyniaethau.
Cyfarfod Rhwydwaith Uwchradd
Bydd y cyfarfodydd rhwydwaith hyn bob tymor, ar gyfer ymarferwyr daearyddiaeth yn y cyfnod uwchradd, yn canolbwyntio ar ymateb i'r cymwysterau wrth iddyn nhw ddigwydd. Bydd gan ymarferwyr sy'n mynychu gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol amrywiol a chydweithio i greu adnoddau addysgu a dysgu gydag ymarferwyr o ysgolion eraill i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd.
Bydd y cyfarfodydd rhwydwaith hyn bob tymor, ar gyfer ymarferwyr hanes yn y cyfnod uwchradd, yn canolbwyntio ar ymateb i'r cymwysterau wrth iddyn nhw ddigwydd. Bydd gan ymarferwyr sy'n mynychu gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol amrywiol a chydweithio i greu adnoddau addysgu a dysgu gydag ymarferwyr o ysgolion eraill i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd.
Bydd y cyfarfodydd rhwydwaith hyn bob tymor, ar gyfer ymarferwyr Addysg Grefyddol yn y cyfnod uwchradd yn canolbwyntio ar ymateb i'r cymwysterau wrth iddyn nhw ddigwydd. Bydd gan ymarferwyr sy'n mynychu gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol amrywiol a chydweithio i greu adnoddau addysgu a dysgu gydag ymarferwyr o ysgolion eraill i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd.
2023 - 2024
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd
Hydref 2023
12.10.23
Ffocws: Profiadau Dysgu yn y Dyniaethau
Gwanwyn 2024
17.01.24
Ffocws: Sgiliau Dyniaethau (SWM1 a SWM2)
Haf 2024
13.06.24
Ffocws: Llythrennedd yn y Dyniaethau
Cyfarfod Rhwydwaith Uwchradd
Noder, cynhaliwyd cyfarfodydd rhwydwaith uwchradd yn ystod blwyddyn academaidd 2023 - 2024 wyneb yn wyneb.