Mae ysgolion hynod effeithiol wedi gwella ansawdd yr addysgu ar draws eu sefydliad yn gyson. Maent wedi cyflawni hyn trwy ddull strategol a ystyriwyd yn ofalus i wella ansawdd, sy'n cynnwys dysgu proffesiynol. Nid ydynt yn dibynnu ar ddeunyddiau ‘oddi ar y silff’, yn hytrach maent yn teilwra eu dull gweithredu, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
sut mae arweinwyr yn sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel,
sut mae athrawon yn mireinio ac yn gwella arfer,
sut mae arweinwyr adnabod anghenion dysgu proffesiynol i sicrhau arferion addysgu hynod effeithiol.
Nod y ddogfen yw:
datblygu dealltwriaeth athrawon ac arweinwyr o fframwaith Cwricwlwm i Gymru
darparu arweiniad ar bwysigrwydd ansawdd yr addysgu fel y galluogwr allweddol i ddiwygio’r cwricwlwm
archwilio pwysigrwydd rhannu disgwyliadau am ansawdd yr addysgu a chynllunio’r cwricwlwm
nodi’r elfennau fforensig sy’n effeithio fwyaf ar ansawdd yr addysgu, cynnydd a lles disgyblion, trwy hunanarfarnu effeithiol a chynllunio gwelliant
cyfeirio arweinwyr ac athrawon at ddysgu ac adnoddau proffesiynol perthnasol
cefnogi’r argymhellion a amlinellwyd yn adroddiad ESTYN dyddiedig 2022 “Y Cwricwlwm i Gymru - Sut mae awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion?”
Dylid ystyried y ddogfen hon fel man cychwyn i ystyried sut mae addysgu effeithiol yn fodd o alluogi diwygio’r cwricwlwm. Hynny yw, sut y gall dulliau ysgol gyfan effeithiol o addysgu, ochr yn ochr â chynllunio cwricwlwm effeithiol, gefnogi pob ysgol i ddatblygu ei darpariaeth Cwricwlwm i Gymru. Nod y ddogfen hon yw cefnogi sgyrsiau hyfforddi a mentora gyda staff, a fydd yn eu tro yn cefnogi gwell gwybodaeth a sgiliau i ddeall nodweddion effeithiol addysgu a chynllunio’r cwricwlwm. Mae’r ddogfen hon hefyd yn darparu adnoddau dysgu proffesiynol ategol i helpu arweinwyr ysgol a’u staff i wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn eu hysgol neu leoliad.
Cysylltwch ag aelod tîm perthnasol y GCA am gopi. Mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan rhannu gwybodaeth y GCA ar Hwb yn y ffolder 0 - Resources.
Rhaglen 3 x hanner diwrnod wedi'i hanelu at uwch ddysgwyr/arweinwyr addysgu a dysgu i'w cefnogi i greu / gwerthuso eu strategaeth addysgu a dysgu. Bydd arweinwyr yn cael cyfle i ystyried elfennau addysgu a chwricwlwm sy'n effeithio fwyaf ar gynnydd disgyblion. Bydd arweinwyr yn cael eu cefnogi mewn hunanwerthuso a chynllunio gwella effeithiol sy'n canolbwyntio ar elfennau fforensig addysgu a dysgu.
Adnoddau: Canllaw Addysgu a Dysgu y GCA, gan gynnwys templedi, Canllaw Hunanwerthuso a Gwella, gan gynnwys templedi, Canllaw Ysgrifennu Gwerthusol gydag enghreifftiau ymarferol.
Fe fydd athrawon yn ymgysylltu ag ymchwil ac yna nodi maes i ddatblygu a fydd yn cefnogi cynnydd dysgwyr, cefnogir hwy i droi’r ymchwil yn weithredol.
Rhaglen tri diwrnod (dau ddiwrnod llawn a dau hanner diwrnod) yn ystod Tymor y Gwanwyn a'r Haf 2023-24
Magu hyder wrth fynegi pam a sut mae asesu yn cefnogi cynnydd dysgwyr.
Trwy ddull ymholi, nodi maes i'w ddatblygu a gweithredu arno.
Dyfnhau dealltwriaeth o asesu a chynnydd.
Diwrnod 1 (diwrnod llawn) - Dyfnhau meddwl. Arsylwi dysgu, ymgysylltu ag ymchwil.
Diwrnod 2 (diwrnod llawn) - Datblygu ‘hunch’. Cynllunio ar gyfer newid.
2-4 wythnos o ymarfer bwriadol. Cyfarfod (check in) ar-lein gyda chydweithwyr i gynnal momentwm.
Diwrnod 3a (hanner diwrnod) – Adolygu effeithiolrwydd y newid
Diwrnod 3b (hanner diwrnod) – Tymor yn ddiweddarach cyfle i ystyried yr effaith.
Dyddiadau 25-26 i'w cadarnhau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â – daniel.davies@sewaleseas.org.uk
Cyfle i fireinio eich arfer tra’n arsylwi arfer da.
Rhaglen pedwar diwrnod (un bob hanner tymor) yn ystod Hydref 2023 a Gwanwyn 2024
I ddeall a dangos nodweddion dysgu ac addysgu effeithiol.
Datblygu arfer addysgu yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
I fyfyrio, cydweithio a datblygu arfer arloesol.
I rannu arfer gyda chydweithwyr, o'ch ysgol a thu hwnt.
Dyddiadau 25-26 i'w cadarnhau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â – daniel.davies@sewaleseas.org.uk
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Simon Thompson yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ThompsonS95@hwbcymru.net.
Mae Ysgol Gyfun Heolddu wedi datblygu cysylltiadau â Teaching WalkThrus, ac wedi symud yr ysgol tuag at ddull hyfforddiant i alluogi twf athrawon. Mae’r rhaglen tridiau diwrnod hon yn darparu cyfle cyffrous i ysgolion ystyried eu dulliau dysgu proffesiynol a sut gall y pecyn adnoddau WalkThrus gael ei ddefnyddio i wella deilliannau disgyblion.
Am fwy o fanylion gysylltwch a daniel.davies@sewaleseas.org.uk
Dyddiadau 25-26 i'w cadarnhau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â – daniel.davies@sewaleseas.org.uk