Newyddion a Chyfleoedd
Mae Tim ILlaCh y GCA yn cynnig ystod eang o gyfleodd dysgu profeesiynol i ymarferwyr. Gweler Cynnig Dysgu Proffesiynol y GCA ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol sydd yn cynnwys cyfleoedd a ddarperir gan Ysgolion Partner.
Cofrestrwch eich dosbarth ar gyfer y gyfres yma o sesiynau blasu rhithiol gydag e-sgol a’r Goethe Institut.
Croesewir dosbarthiadau sy’n cynnwys blynyddoedd 5 a 6 i gymryd rhan. Bydd sesiynau’n cymryd lle’n wythnosol o’r 10fed o Fehefin tan yr 1af o Orffennaf ar MS Teams am 9:30yb.
Adnoddau ac Enghreifftio
Er mwyn hwyluso’r broses o gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi datblygu Pecyn Cymorth Cynradd er mwyn rhoi cymorth i athrawon cynradd wrth gyflwyno ieithoedd. Mae’r pecyn cymorth ar gael yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg ac mae’n cynnwys chwe cyd-destun dysgu a fydd yn ysbrydoli dysgwyr cynradd o’r pleser, y creadigrwydd a’r hwyl y mae dysgu ieithoedd yn ei gynnig. Os hoffech dderbyn copi o’r pecyn cynradd, cwblhewch y ffurflen drwy'r ddolen yma: https://routesintolanguagescymru.co.uk/cy/primary-3/
Mae Cerdd Iaith yn adnodd newydd a phwerus sy’n defnyddio cerddoriaeth a drama i helpu disgyblion ysgolion cynradd ddysgu Cymraeg, Saesneg , Sbaeneg a nawr Almaeneg a Ffrangeg. Mae’n llawn dop o weithgareddau unigryw a chyffrous yn ogystal â nifer o ganeuon gwreiddiol a gyfansoddwyd yn arbennig ar ei gyfer. Cafodd yr adnodd dysgu creadigol yma ei ddatblygu gan ieithyddion, cerddorion ac ymarferwyr mewn cydweithrediad agos gydag athrawon ysgolion cynradd yng Nghymru. Bydd dulliau dysgu’r adnodd, sy’n defnyddio gweithgareddau celfyddydol ynghyd â hanes Patagonia, yn cynnig profiad dysgu cyfannol a thraws-gwricwlaidd a fydd yn ysgogi a thanio brwdfrydedd y plant i ddysgu’n weithredol a mwynhau siarad ieithoedd newydd. https://cerddiaith.com
Mae'r rwydwaith hwn yn darparu mynediad i wersi parod a ysgrifennwyd ar y cyd ac a dreialwyd yn Ysgol Gyfun Gwyr. Mae pob gwers yn cynnwys pwyntiau pwer o'r wers, cynllun gwers a thaflen waith i ddisgyblion. Mae gwersi wedi’u cynllunio i annog disgyblion i ymgysylltu’n weithredol â’u dysgu, gan archwilio ac adeiladu ar gysylltiadau rhwng ieithoedd. Eglurir rhesymeg pob cam, ynghyd â'i le yn y pecyn cyffredinol. Mae angen ymuno gyda'r rhwydwaith: https://hwb.gov.wales/networks/f98a4bf9-5b90-4f3c-8207-e60ca33aabbb/overview
WAM CAM: Adnoddau cynradd amlieithog Prifysgol Caergrawnt yn archwilio amlieithrwydd. Mae'r deunyddiau ond ar gael yn y Saesneg ar hyn o bryd. I dderbyn y deunyddiau, ewch i'r tab cofrestru ar frig y dudalen a dewiswch y Deunyddiau Cynradd. Dylech dderbyn y deunyddiau ar unwaith. Addaswch i adlewyrchu eich lleoliad a'ch cyd-destun yn ôl yr angen.
Crëwyd adnoddau a chynnwys gwersi er mwyn annog plant i fod yn chwilfrydig am ieithoedd, i ddeall y cysylltiadau a gweld y patrymau rhwng ieithoedd, ac i'w helpu i feddwl am sut mae iaith yn gweithio. Rydym eisiau i ddisgyblion ar y rhaglen WoLLoW garu geiriau a charu sut mae eu hiaith eu hunain yn gweithio. Y nod yw i ddisgyblion WoLLoW gael eu llenwi â rhyfeddod sut mae ieithoedd yn cydblethu, sut maen nhw wedi adeiladu ar ei gilydd a sut maen nhw'n cyfoethogi ein bywydau. Ar gael yn y Saesneg yn unig ar hyn o bryd. I wneud cais am yr adnoddau rhad ac am ddim, dilynwch y ddolen hon: https://theworldoflanguages.co.uk/request-resources/
Mae llwyfan Powerlanguage https://powerlanguage.school/yn adnodd a ddyluniwyd yn benodol i gefnogi ymarferwyr cynradd anarbenigol yn ogystal ag arbenigol i gyflwyno ieithoedd (Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg) yn yr Alban. Mae llawer o ysgolion cynradd yn y GCA yn ogystal â ledled Cymru yn defnyddio adnoddau PowerLanguage gydag adborth cadarnhaol iawn gan ymarferwyr Mae’r cynllunwyr a’r ffeiliau sain hawdd eu dilyn yn ddefnyddiol ac yn gefnogol, tra bod deunyddiau thematig yn galluogi athrawon i ddatblygu ieithoedd ar hyd trywydd thema. £100 am ddwy iaith. Cysylltwch â: info@powerlanguage.net
Mae'r tîm yr Institut Français wedi creu cwrs cynradd ar gyfer Ffrangeg yn y cyfnod cynradd. Rhwydd hynt i chi bori yn y deunyddiau am syniadau ac adnoddau perthnasol.
Cofrestrwch er mwyn lawrlwytho’r holl adnoddau yn rhad ac am ddim o’r wefan: http://www.culturetheque.com/EXPLOITATION/GBR/primary-french.aspx
Y llynedd, darparodd yr IF hyfforddiant am ddim ar yr adnodd hwn gydag Ariane Laumonier. Mae hwn ar gael i'w wylio yma:
Mae dau byped llaw atyniadol, broga o'r enw Felix Frosch a hwyaden o'r enw Franzi Ente, ar ganol y llwyfan. Maen nhw'n byw mewn blwch llythyrau Almaeneg arbennig. Wedi symud i’r DU yn ddiweddar o’r Almaen, mae’r ddau gymeriad yn profi sawl antur sy’n ffurfio thema pob pennod. Mae pob pennod yn cyflwyno gwersi geirfa a gramadeg newydd ac yn cyd-fynd ag ystod eang o weithgareddau a deunydd ychwanegol megis caneuon, fideos a chymwysiadau bwrdd gwyn. Gellir lawrlwytho'r cynlluniau gwersi yn ogystal â'r holl nodweddion eraill yn rhad ac am ddim.
https://www.goethe.de/ins/gb/en/spr/unt/kum/dfk/dff.html
Gall unrhyw glystyrau sydd am ddatblygu Almaeneg trwy adnoddau Felix und Franzi gael hyfforddiant am ddim gan y Goethe Institut. Cysylltwch â sioned.harold@sewaleseas.org.uk am ragor o fanylion.
Adnoddau cynradd Rachel Hawkes (Ffrangeg a Sbaeneg).
Mae Dr Rachel Hawkes yn athrawes ITM o fri. Mae hi wedi cynhyrchu a rhannu ei chynlluniau gwersi o safon a llyfrynnau disgyblion sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y sector cynradd yn rhad ac am ddim. Gellid defnyddio’r adnoddau hyn i gefnogi ac ategu eich gwersi: http://www.rachelhawkes.com/
Mae Light Bulb Languages yn wefan sy'n llawn dros 8000 o adnoddau iaith a ysgrifennwyd gan athrawon iaith ar gyfer athrawon iaith ar gyfer Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Lladin. Mae yna lawer o dempledi a modelau defnyddiol i gefnogi cyflwyno gwersi iaith.
https://www.lightbulblanguages.co.uk/index.htm
Mae gan y Cyngor Prydeinig adnoddau ardderchog i archwilio ieithoedd a diwylliannau e.e. Pwyleg, Arabeg ac India. Mae rhai adnoddau megis 'The Great Languages Challenge' hefyd ar gael yn y Gymraeg:
https://www.britishcouncil.org/sites/default/files/india_education_pack.pdf https://www.britishcouncil.org/school-resources/find/classroom/arabic-language-and-culture-education-pack
https://www.britishcouncil.org/school-resources/find/classroom/year-of-the-rabbit
Mae adnoddau iaith BBC Bitesize yn darparu llu o adnoddau gwerthfawr o fideos diwylliannol difyr i ganeuon, straeon a gweithgareddau rhyngweithiol a ffeiliau sain.
French: https://www.bbc.co.uk/bitesize/subjects/z39d7ty
Spanish: https://www.bbc.co.uk/bitesize/subjects/zxsvr82
Adnoddau fideo: Cyfres weminarau Haf y GCA. Mae'r cyflwyniadau ar gael yn y Saesneg yn unig ar hyn o bryd ond darperir llu o syniadau ac adnoddau difyr a pherthnasol gan yr ysgolion sy'n cyflwyno.
Weminar 1: Datblygu ieithoedd rhynglwadol yn y Cynradd
Weminar 2: Dulliau ymarferol ac atyniadol i ieithoedd rhyngwladol yn y cynradd
Weminar 3: Dulliau amlieithog a phontio effeithlon ieithoedd rhyngwladol