Diweddariadau Llywodraeth Cymru
Recriwtio, Adfer, a Chodi safonau
Ymgynghoriad Ceisio Safbwyntiau ar y Flwyddyn Ysgol
Mae Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi agor ymgynghoriad yn ceisio barn ar y flwyddyn ysgol. Rydym yn ceisio’ch barn ar gynigion i ddiwygio dyddiadau’r tymhorau ysgol fel bod y tymhorau’n fwy cyfartal o ran hyd, gyda'r gwyliau wedi’u dosbarthu’n fwy cyson, ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad: https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol yn dechrau heddiw, 21 Tachwedd 2023 a bydd ar agor hyd 12 Chwefror 2024. Hoffem ddenu amrywiaeth eang o ymatebion, felly byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon y neges hon at unrhyw un yn eich rhwydweithiau a allai fod â diddordeb.
Os yw’n well gennych ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae neges ar gael ar ein cyfrif Twitter (@LlC_Addysg / @WG_Education) a Facebook (@AddysgCymru / @EducationWales).
Dealltwriaeth a Rennir o Gynnydd – Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod angen i gynlluniau ar gyfer sicrhau dealltwriaeth a rennir o gynnydd dysgwyr fod ar waith erbyn mis Medi 2023, ond gall ysgolion ddarlunio’r trefniadau hyn o fewn cynlluniau cyfredol e.e. y Cynllun Clwstwr. Gweler y ddolen isod, sy’n nodi cyfeiriad llawn y manylion.
Casgliad Data Cenedlaethol 2023
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ddata Cyfnod Allweddol 3 (CA3) gael ei ddychwelyd yn unig ar ôl dileu’r gofynion ar gyfer data Asesiad Sylfaenol eleni, ac ar ôl dileu’r gofynion ar gyfer data Deilliannau’r Cyfnod Sylfaen (FO) a Chyfnod Allweddol 2 (CA2) yn flaenorol yn 2021/2022. Yn ogystal, gan fod gofynion CA3 hefyd wedi'u dileu ar gyfer Ysgolion Arbennig yng nghasgliad data 2021/2022, mae hyn yn golygu oherwydd dileu data Asesiad Sylfaenol ar gyfer 2022/2023 ni ddisgwylir unrhyw ddata gan Ysgolion Arbennig eleni. O ganlyniad, dylai’r datganiad CDC ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023 sy’n digwydd ar hyn o bryd gynnwys data CA3 yn unig a disgwylir hyn gan bob ysgol a gynhelir sydd yn addysgu CA3 gan eithrio Ysgolion Arbennig. Mae Nodiadau Cwblhau Technegol ar gyfer y casgliad parhaus sy’n rhoi rhagor o fanylion i’w gweld yn https://www.llyw.cymru/casglu-data-cenedlaethol-nodiadau-cwblhau-technegol-ar-gyfer-ysgolion-ac-awdurdodau-lleol.
O ran data CA3 sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, fel mewn blynyddoedd blaenorol, rhaid i hyn gynnwys data asesiad athro diwedd CA3 y dysgwr unigol ar gyfer unrhyw ddisgybl ar gofrestrir yn yr ysgol ar y dyddiad cofrestru, sef 9 Mai 2023 ar gyfer casgliad eleni. Rhaid i bob dysgwr ym mlwyddyn olaf CA3 gael asesiad athro ym mhob targed cyrhaeddiad mewn pynciau craidd a di-graidd perthnasol. Ar gyfer asesiadau athrawon ar ddiwedd CA3, maent yn seiliedig ar grŵp blwyddyn y cwricwlwm cenedlaethol y caiff y disgybl ei addysgu ynddo, yn hytrach na dyddiad geni’r disgybl sy’n nodi a yw’n gymwys i’w asesu, a dylid eu cynnwys o fewn data’r ysgol ar gyfer y CDC fel yr amlinellwyd yn adran 3 o'r Nodiadau Cwblhau Technegol. Nid yw'r dull hwn wedi newid ers blynyddoedd blaenorol pan gasglwyd y data hwn.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar drefniadau asesu parhaus o haf 2022 ac yn ystod y cyfnod pontio i’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/trefniadau-asesu/cefnogi-r-broses-o-drosglwyddo-o-r-trefniadau-presennol-i-gwricwlwm-i-gymru/.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni yn IMS@llyw.cymru.
Creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol
Gwybodaeth ar sut i ddefnyddio hyfforddiant mewn swydd (HMS) a'r Grant Dysgu Proffesiynol i greu amser i ymarferwyr ymgysylltu â dysgu proffesiynol - Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Rheoli perfformiad mewn ysgolion – newid y diwylliant
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau rheoli perfformiad diwygiedig er mwyn dod â threfniadau yn unol â newidiadau eraill ym myd addysg.
Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth o ymarferwyr (athrawon, arweinwyr, a staff cymorth) o bob cyfnod, drwy gyfarfodydd Teams ar lein ym mis Mai.
Os hoffech ymuno, cwblhewch y ffurflen hon https://forms.office.com/e/UuLRNsNrsZ
Asesiadau Personol 2023 - Nodyn Atgoffa Llywodraeth Cymru
Gellir cynnal yr asesiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ysgol. Nid oes cyfnod asesu penodol. Mae'r asesiadau personol at ddibenion ffurfiannol, gydag amrywiaeth o adborth ar unigolion a sgiliau’r grŵp sy'n helpu i sicrhau dealltwriaeth o gryfderau a meysydd i'w gwella. Ni ddylai’r canlyniadau gael eu defnyddio at ddibenion mesuro perfformiad. Mae cynnal asesiadau personol yn statudol eleni. Mae'r llawlyfr gweinyddu ar gyfer 2022 i 2023 yn nodi'r gofynion.
Diweddariadau tymor yr haf 2022
13 Gorffennaf 2022
Rheoliadau ynghylch adrodd am wybodaeth am ysgolion a disgyblion
Crynodeb o'r gofynion o ran adrodd ar wybodaeth ysgolion a disgyblion.
Gwelwyd nifer o newidiadau polisi sydd wedi effeithio ar y gofynion adrodd mewn ysgolion. Mae’r gwaith diwygio yn parhau, ond mae’r wybodaeth isod yn amlinellu’r gofynion rheoliadol cyfredol ar gyfer adrodd am wybodaeth ysgolion a disgyblion.
Rheoliadau ynghylch adrodd am wybodaeth am ysgolion a disgyblion [HTML] | LLYW.CYMRU
16 Mehefin 2022
Gweithredu Anghenion Dysgu Ychwanegol – Diweddariad Mehefin 2022
Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018: canllaw i ymarferwyr
CYHOEDDWYD HEDDIW: Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018: canllaw i ymarferwyr
Mae canllaw newydd i ymarferwyr wedi'i gyhoeddi i gefnogi awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), staff addysgu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (ADYCau) i ddeall y trefniadau ar gyfer gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY).
Mae'r canllaw hwn yn nodi'r trefniadau ar gyfer symud plant o'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) dros y cyfnod gweithredu o dair blynedd (1 Medi 2021 i 31 Awst 2024).
Animeiddiad sy’n egluro’r system ADY i blant a phobl ifanc
Mae'r animeiddiad fideo hwn wedi'i anelu at blant a phobl ifanc. Mae'n esbonio'r system ADY newydd, sut mae'n gweithio a sut y bydd yn cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Rhannwch hyn ar draws eich sianeli os gwelwch yn dda - https://youtu.be/RGCz5c23Cag
Diolch am barhau i ddarparu'r wybodaeth, y cymorth arbenigol a'r adnoddau ychwanegol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.
Dysgwch fwy am y Rhaglen Trawsnewid ADY
Ar-lein Anghenion dysgu ychwanegol | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Twitter #angheniondysguychwanegol #ADYCymru #DeddfADY
E-bost GweithreduADY@llyw.cymru
10 Mehefin 2022
Yr wybodaeth ddiweddaraf am Asesiadau Personol – Mehefin 2022
Mae’r bumed a’r olaf o’r gweminarau datblygiad proffesiynol a recordiwyd ymlaen llaw ar gyfer asesiadau personol wedi'i chyhoeddi, a byddem yn ddiolchgar pe gallech gyfeirio eich ysgolion atynt.
Mae nifer fach o ysgolion ledled Cymru nad ydynt wedi cofrestru i ddefnyddio'r system asesu hyd yma. Roeddem am i chi wybod y byddwn yn gweithio gyda'r llinell gymorth asesu i fynd ar drywydd yr ysgolion hyn. Bydd y ddesg gymorth yn cysylltu â'r ysgolion yn uniongyrchol ac yn cynnig cymorth a chyngor iddynt, gan eu hatgoffa bod y gofynion statudol i gynnal yr asesiadau yn eu lle eleni. Byddem yn ddiolchgar pe gallech sicrhau bod pob ysgol berthnasol yn eich rhanbarth yn ymwybodol o'r gofynion a nodir yn y Llawlyfr Gweinyddu.
Roeddem am dynnu eich sylw at y newid deddfwriaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar sydd â dau reoliad mewn perthynas ag asesiadau personol: darpariaethau trosiannol ar gyfer asesiadau personol i barhau i fod yn gymwys i Flynyddoedd 2 i 9 wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (Rheoliad 5), ac eithrio canlyniadau asesiadau personol o'r wybodaeth y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ei hanfon at awdurdod lleol (Rheoliad 10.2)
Bydd ein cyfarfod nesaf ar 7 Gorffennaf, ond os bydd gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
28 Mawrth 2022
Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella
Bydd yr Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella yn cael ei lansio ar 11 Mai am 1pm gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Bydd manylion y digwyddiad lansio rhithwir cenedlaethol yn dilyn - Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella - Hwb (gov.wales)
14 Mawrth 2022
Asesiadau personol – Rhanbarthol - Mawrth 2022
Nod asesiadau personol yw helpu i sicrhau dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr unigol fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r asesiadau at ddibenion ffurfiannol, gydag amrywiaeth o adborth ar unigolion a grwpiau sy'n helpu i sicrhau dealltwriaeth o gryfderau a meysydd i'w gwella.
Mae cynnal asesiadau personol yn statudol yn ystod blwyddyn ysgol 2021-22. Maent ar gael i'w defnyddio'n hyblyg drwy gydol y flwyddyn, fel y bydd modd i ysgolion drefnu i'w cynnal ar yr adeg a fyddai'n fwyaf buddiol iddynt.
Rhaid i bob pennaeth ysgol fewngofnodi a derbyn y cytundeb rhannu data ar gyfer ei ysgol er mwyn i staff yr ysgol allu trefnu asesiadau a chael gafael ar adroddiadau i'w helpu gyda’u gwaith cynllunio.
Mae asesiadau personol ym maes Rhifedd (Rhesymu) ar gael bellach. Dyma'r asesiad olaf i fynd yn fyw. Mae angen defnyddio offer sain ar gyfer yr asesiadau hyn; dosbarthwyd clustffonau i ysgolion yn ystod haf 2022.
Ar ôl i athrawon gynnal yr asesiadau Rhifedd (Rhesymu), bydd casgliad o adnoddau dysgu ar gael iddynt i gefnogi'r camau nesaf ac i helpu i ddatblygu sgiliau rhesymu. Rydym yn annog ysgolion i ddefnyddio'r asesiadau mor gynnar â phosibl yn y flwyddyn ysgol er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau rhesymu rhifyddol cysylltiedig.
Dylai athrawon ddarllen yr adrannau perthnasol yn y Llawlyfr Gweinyddu ar gyfer asesiadau personol a nodi'r canllawiau ar asesiadau Rhifedd (Rhesymu) mewn perthynas â dysgwyr Blwyddyn 2, a'r ffaith bod modd i ysgolion fod yn hyblyg ac arfer barn broffesiynol wrth benderfynu p'un a fydd dysgwyr Blwyddyn 2 yn ymgymryd â'r asesiadau hyn ai peidio.
Gofynnir i ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio'r asesiadau ymgyfarwyddo i weld y mathau o gwestiynau a ofynnir cyn iddynt ymgymryd â’r asesiadau byw. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer asesiadau Rhifedd (Rhesymu) sy'n cynnwys elfen sain. Gall dysgwyr weld yr asesiadau ymgyfarwyddo drwy fewngofnodi drwy Hwb.
Wrth gynllunio ar gyfer gwneud cynnydd, rydym yn annog athrawon i ystyried yn llawn y sgiliau a nodir gan yr asesiadau (nid y sgoriau yn unig), yn ogystal ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall sy'n deillio o'r ystafell ddosbarth.
Diweddariadau tymor yr gwanwyn 2022
10 Chwefror 2022
Wrth i ni gyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru gyda’n gilydd, gan godi safonau mewn ymdrech genedlaethol yr ydym i gyd yn ei rhannu, bydd PISA 2022 yn cymryd sampl o’n system addysg ac yn ein helpu i nodi’r camau nesaf mwyaf priodol ar y cyd. Mwy o wybodaeth
Digwyddiad i bennaethiaid gyda'r Gwenidog Addysg a'r Gymraeg, 17 Chwefror 2022
Gweler isod dolen ar gyfer y sesiwn i benaethiaid ar 17 Chwefror.
Tuag at Cwricwlwm i Gymru Medi 2022: beth sydd angen gwybod a gwneud
Nid oes angen cofrestru, ewch i'r dudalen ar y diwrnod.
I'r rhai na allant fod yn bresennol, bydd y sesiwn yn cael ei recordio.
Gellir cyflwyno cwestiynau ar y diwrnod, eu hanfon ymlaen llaw neu os hoffech ofyn eich cwestiwn yn uniongyrchol i'r Gweinidog ar y diwrnod y mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Cysylltwch â dysg@llyw.cymru
19 Ionawr
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022
Gweler ynghlwm llythyr gan Huw Owen, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion, ar gyfer Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022.
27 Ionawr 2022
Diwygio’r flwyddyn ysgol
Mae arweinwyr ysgol a llywodraethau ledled y byd yn edrych ar rythm y flwyddyn ysgol i weld a all newidiadau gynorthwyo i osgoi plant rhag “colli” dysgu yn ystod gwyliau hir, sicrhau gwell adferiad o effeithiau'r pandemig a chreu strwythur sy'n gweithio'n well ar gyfer athrawon a staff ysgolion.
A fydd newid yn cyd-fynd yn well â phatrymau gwaith / teulu ac yn darparu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc? A fydd newid yn cael effaith ar sectorau eraill o'r economi a gwasanaethau cyhoeddus, a sut gallai newidiadau gynorthwyo i wella lles a hyder disgyblion, a gwella recriwtio a chadw staff o fewn gweithlu'r ysgol?
Er mwyn llywio datblygiad polisi Llywodraeth Cymru, rydym ar hyn o bryd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys y gweithlu addysg, rhanddeiliaid tu allan i fyd addysg fel cyflogwyr, diwydiannau penodol (e.e. twristiaeth) a hefyd plant a phobl ifanc i gasglu safbwyntiau, syniadau a barn.
Un elfen allweddol o'r cam ymchwil ac ymgysylltu hwn yw arolygon ar-lein – un i’r gweithlu addysg ac un i bobl ifanc (dan 18). Fel un o randdeiliaid gwerthfawr Llywodraeth Cymru, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eich help i ledaenu'r gair am yr arolygon yma i’r gynulleidfaoedd perthnasol: po fwyaf o bobl sy’n cael cyfle i ddweud eu dweud, y gorau fydd yr ystod o syniadau a chryfaf fydd yr ymchwil a'r ymgysylltu.
Gallwch ddod o hyd i’r arolygon drwy’r dolenni isod:
Arolwg gweithlu addysg – bit.ly/33u226m
Arolwg pobl ifanc - bit.ly/3If3Q1H
Beth sydd yn y pecyn hwn?
Rydym wedi creu pecyn er mwyn darparu rhai dulliau syml i'ch cynorthwyo i rannu'r cyfle hwn gyda'ch rhwydweithiau, cydweithwyr a chynulleidfaoedd eich hun. Mae’r cynnwys wedi ei deiwra i dargedu dwy gynulleidfa’r arolygon a grybwyllir uchod. Mae hyn yn cynnwys:
- Enghreifftiau o negeseuon cyfryngau cymdeithasol
- Testun enghreifftiol ar gyfer ebost, cylchlythyr a gwefan
- Delweddau ac animeiddiad byr
Mae croeso i chi drydar a golygu'r testun i weddu i'ch anghenion, eich dewisiadau a'ch cynulleidfaoedd eich hun.
Gallwch ddod o hyd i'r holl ddeunyddiau trwy’r dolenni isod:
Google Drive – cliciwch yma
Dropbox – cliciwch yma
WeTransfer: https://we.tl/t-46ESjkyK5G
Diweddariadau tymor yr hydref 2021
22 Hydref 2021
Cynllun newydd i recriwtio mwy o athrawon Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno cymhellion ariannol i helpu i recriwtio mwy o athrawon ethnig lleiafrifol.
Bydd y Cynllun yn cynnwys targedu hyrwyddo addysgu fel gyrfa i fwy o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol. Bydd hefyd yn ofynnol i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon weithio tuag at recriwtio canran o fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Darllen mwy - Cynllun newydd i recriwtio mwy o athrawon Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol | LLYW.CYMRU
Trefniadau Adrodd ar Berfformiad Ysgolion – 2021-2022
O ran datganiadau data, dyma beth mae LlC wedi'i gyhoeddi ar Adrodd ar Berfformiad Ysgolion, mae'r Diweddariad Covid-19 diweddaraf (o 21 Mehefin 2021) yma:
Trefniadau adrodd ar berfformiad ysgolion: Diweddariad COVID-19 | LLYW.CYMRU
Rydym wedi gohirio cyfrif a chyhoeddi Cyfnod Allweddol 4 a mesurau perfformiad chweched dosbarth gwaddol ar gyfer blynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2021 i 2022.
Ni fydd data dyfarniadau cymwysterau yn cael eu defnyddio i adrodd ar ganlyniadau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol neu gonsortiwm rhanbarthol ac ni ddylid eu defnyddio i ddal ysgolion i gyfrif am ganlyniadau eu dysgwyr.
Ar gyfer mesurau perfformiad ôl-16, byddwn yn ystyried y dull gorau o weithredu, o ystyried yr ystod o ddarparwyr a’r gwahanol fathau o raglenni yr effeithir arnynt mewn gwahanol ffyrdd. Ymgynghorir â'r sector cyn gwneud unrhyw benderfyniad cadarn, er mwyn ystyried beth fyddai'n ddefnyddiol i helpu eu prosesau monitro a sicrwydd ansawdd eu hunain.
Bydd yn ofynnol o hyd i bob ysgol a darparwr ôl-16 gynnal hunanarfarniad effeithiol i gefnogi gwelliant parhaus. Mae ein trefniadau arfarnu, gwella ac atebolrwydd yn gofyn am ystyried ystod eang o wybodaeth sy'n berthnasol i gyd-destun yr ysgol ei hun wrth ymgymryd â hunanarfarnu ac adnabod blaenoriaethau gwella. Bydd hyn yn cynnwys ysgolion, gyda chefnogaeth gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, yn defnyddio'r wybodaeth ar lefel dysgwr sydd ganddynt am gyrhaeddiad a chanlyniadau eraill i adlewyrchu ar eu trefniadau presennol a'u gwella.
Daeth Rheoliadau Llacio Gofynion Adrodd Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i rym ar 18 Mehefin 2021. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Reoliadau eraill, sy'n gosod dyletswyddau ar benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i lunio adroddiadau dysgwyr ac ysgolion, fel y crynhoir isod. (Dirymwyd Rheoliadau Targedau Perfformiad ac Absenoldeb Ysgolion (Cymru) 2011 yn 2020, mae hyn yn golygu nad yw'n ofynnol i ysgolion bennu a chyhoeddi targedau mwyach.)
Hefyd mae LlC wedi cyhoeddi calendr strategaeth rheoli gwybodaeth ar gyfer 2021.
Calendr strategaeth Rheoli Gwybodaeth 2021/22 e (llyw.cymru)
Mae Mai 2022 yn cynnwys gofyniad i ddata asesu CA3 gael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru, ond rydym yn gwybod na ddylid defnyddio CA3 at ddibenion atebolrwydd (ers 2018)
22 Medi 2021
Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r Cwricwlwm
Heddiw (22 Medi 2021) rydym wedi cyhoeddi Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm sy’n nodi disgwyliadau, blaenoriaethau a dulliau cyffredin clir i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm. Neges fideo gan y Gweinidog
Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach, rydym hefyd yn lansio'r Rhwydwaith Cenedlaethol newydd heddiw. O dan arweiniad ymarferwyr addysgu, ac yn agored i bob ysgol a lleoliad, bydd yn dwyn ynghyd athrawon o bob rhan o ysgolion, arbenigwyr cwricwlwm ac ystod o randdeiliaid i gydweithio i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ddiwygio.
Blog Cwricwlwm i Gymru: Lansio’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer y Cwricwlwm
Hefyd wedi ei gyhoeddi heddiw gan wasanaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yw’r adroddiad interim ar yr arolwg o baratoadau ysgolion ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi Adnewyddu a Diwygio: Diweddariad Medi 2021.
Cynhadledd i benaethiaid
Rydym hefyd yn cyhoeddi'r dyddiad ar gyfer ein cynhadledd - Y Daith i weithredu’r cwricwlwm ar 14 Hydref 2021, 16:00-17:30
Cynhelir y gynhadledd eleni ar-lein gyda chyfraniadau gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru, ysgolion, consortia rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a’r Academi Arweinyddiaeth.
Er mwyn deall y materion sy'n effeithio ar daith cyflwyno'r cwricwlwm, gofynnwn i benaethiaid gwblhau'r arolwg canlynol erbyn 30 Medi, a rhannu gyda ni y meysydd sy'n peri pryder. Bydd hyn yn llywio agenda'r gynhadledd, lle bydd y tri phrif bryder yn cael sylw gan ein cyfranwyr.
Bydd cyfarwyddiadau ymuno ar gyfer y gynhadledd yn cael eu rhannu drwy law Gyfarwyddwyr Addysg a rheolwr gyfarwyddwyr y consortia rhanbarthol.
Diweddariadau tymor yr haf 2021
21 Mehefin 2021
Datganiad Ysgrifenedig: Trefniadau gwybodaeth, gwella ac arolygu ysgolion – cefnogi adnewyddu a diwygio
Annwyl gydweithwyr
Gweler ynghlwm y cynllun Adnewyddu a Diwygio: Cefnogi lles a chynnydd dysgwyr a’r Datganiad Ysgrifenedig sydd ill dau wedi eu rhannu gyda’r Senedd.
Yn gywir,
Lisa Wall
https://gov.wales/renew-and-reform-supporting-learners-wellbeing-and-progression
https://llyw.cymru/adnewyddu-diwygio-cefnogi-lles-chynnydd-dysgwyr
Argymhellion terfynol ar addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o fewn y cwricwlwm.
Diweddariadau tymor yr gwanwyn 2021
Diweddariad asesiadau
Ymgeiswyr preifat
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer ymgeiswyr preifat a cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o ganolfannau ar gyfer ymgeiswyr preifat yr wythnos hon.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch i roi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth i ymgeiswyr preifat.
A dolen i'r canllawiau i ymgeiswyr preifat – rydym yn gwneud ymgyrch gymdeithasol y telir bellach sydd wedi'i thalu hefyd
Mae CBAC wedi pedoli tudalennau gwe Haf 2021:
Mae CBAC wedi cyhoeddi Canllaw i fyfyrwyr.
Wythnos nesaf
Bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru gwybodaeth am ymgeiswyr preifat yn gynnar yr wythnos nesaf i gynnwys cymorth pellach sydd ar gael i ymgeiswyr preifat sy'n dilyn cymwysterau heblaw am rhai CBAC. Bydd Adran Addysg Llywodraeth y DU yn diweddaru eu canllawiau i adlewyrchu hyn hefyd.
Bydd CBAC yn sicrhau bod y deunyddiau canlynol sy'n ymwneud â'u Cymwysterau Galwedigaethol ar gael yr wythnos nesaf - drwy Wefan Ddiogel CBAC.
Llinell amser ar gyfer canolfannau
Canllawiau i ganolfannau
Hen bapurau a chynlluniau marcio
Deunyddiau hyfforddi ac enghreifftiol
15 Ebrill 2021
Asesiadau Personol yn 2020/21 - Diweddariad pwysig
Asesiadau personol - Hwb (gov.wales)
Yn 2020/21, mae asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) a Darllen ar gael i’w gwneud unrhyw bryd. Oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan Covid-19, mae’r gofyniad i ysgolion gynnal yr asesiadau yn ofyniad ar sail ‘ymdrech resymol’. Mae’r newidiadau i’r gofynion wedi’u nodi yn yr Adendwm i Lawlyfr Gweinyddu’r Asesiadau Personol 2020/21. Adendwm i Lawlyfr Gweinyddu’r Asesiadau Personol 2020/21.
Mae CBAC, yn gweithio mewn partneriaeth ag AlphaPlus ar ran Llywodraeth Cymru, wedi datblygu cyfres o ddeunyddiau dysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion ac athrawonwrth iddynt ddefnyddio’r Asesiadau Personol. Gellir gweld crynodeb o’r tair gweminar ryngweithiol wedi’u recordio ymlaen llaw isod. Mae canllawiau pellach ar gyrchu wedi'u hatodi.
8 Ebrill 2021
Trefniadau asesu: tymor yr haf 2021
Canllawiau i ysgolion a lleoliadau ar asesu dysgwyr ar gyfer tymor yr haf 2021, gan gynnwys ystyriaethau allweddol o ran cefnogi cynnydd dysgwyr a chefnogi astudiaethau achos. Mae hyn yn ymwneud ag arferion asesu arferol, nid y trefniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer cymwysterau cyffredinol eleni: Trefniadau asesu: tymor yr haf 2021 | LLYW.CYMRU
11 Mawrth 2021
Yn nogfen Llywodraeth Cymru, Gwybodaeth ategol ar gyfer dysgu mewn ysgolion a lleoliadau o 15 Mawrth ymlaen (https://gov.wales/supporting-information-learning-schools-and-settings-15-march-html), ceir dau baragraff bach ond pwysig yn ymwneud â Threfniadau Cymedroli ac Asesiadau Personol.
Trefniadau Cymedroli: "Er mwyn creu mwy o le a hyblygrwydd ar gyfer y dull mwy unigol hwn o asesu, byddwn yn datgymhwyso'r gofynion ar gyfer asesiadau diwedd cyfnod allweddol (y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2 a 3) a'r gofynion cymedroli cysylltiedig."
Asesiadau Personol: "Ein polisi ar gyfer gofynion sy'n ymwneud ag asesiadau personol ac asesiad parhaus o'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a 3 yw y byddant yn parhau ar sail ymdrechion rhesymol i alluogi athrawon i ddeall a chefnogi anghenion dysgwyr unigol. Bydd rhagor o wybodaeth am ddisgwyliadau ar gyfer asesiadau parhaus ac asesiadau personol yn cael ei darparu."
3 Mawrth 2021
Dychwelyd i addysg- datganiad i'r wasg, llythyr at ysgolion ac amseru
Twitter
https://twitter.com/wgmin_education/status/1367006828081520641 (English)
https://twitter.com/wgmin_education/status/1367006832745533448 (Cymraeg)
Datganiad i'r Wasg
https://gov.wales/more-pupils-have-opportunity-return-schools-easter (English)
2 Mawrth 2021
Y wybodaeth ddiweddaraf am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi heddiw bod y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rheoliadau cysylltiedig wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru.
Gallwch weld y Cod, Memorandwm Esboniadol a’r Asediad Effaith Integredig yma a'r rheoliadau cysylltiedig yma:
Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen drawsnewid ADY a chanllawiau ar y system AAA gyfredol yma gan gynnwys ein cwestiynau cyffredin a'n canllaw rhaglen trawsnewid ADY.
Danfonwch eich ymholiadau i SENReforms@llyw.cymru
27 Ionawr 2021
20 Ionawr 2021
Trefniadau asesu ar gyfer graddau TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2021
14 Ionawr 2021
Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu
Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ym mis Mai 2020 yn wreiddiol gyda'r teitl Ffrydio byw – arferion ac egwyddorion diogelu i ymarferwyr addysg yn ystod pandemig COVID-19 pan oedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn gweithio gartref. Roedd y ddogfen hon yn rhan o'r rhaglen parhad dysgu 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ ac fe'i bwriedir ar gyfer ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru.
Ym mis Medi 2020 cafodd y canllawiau eu diweddaru a'u hail-gyhoeddi i adlewyrchu achosion lle mae ymarferwyr a dysgwyr yn ôl yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, mae'n dal i gadw canllawiau ar weithio a dysgu o amgylchedd cartref. Maent wedi eu hymestyn hefyd i gynnwys canllawiau ar gyfer ymarferwyr eraill a sefydliadau allanol sy'n cefnogi ysgolion a lleoliadau a gynhelir a'u dysgwyr.
9 Ionawr 2021
Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu
Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ym mis Mai 2020 yn wreiddiol gyda'r teitl Ffrydio byw – arferion ac egwyddorion diogelu i ymarferwyr addysg yn ystod pandemig COVID-19 pan oedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn gweithio gartref. Roedd y ddogfen hon yn rhan o'r rhaglen parhad dysgu 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ ac fe'i bwriedir ar gyfer ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru.
Ym mis Medi 2020 cafodd y canllawiau eu diweddaru a'u hail-gyhoeddi i adlewyrchu achosion lle mae ymarferwyr a dysgwyr yn ôl yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, mae'n dal i gadw canllawiau ar weithio a dysgu o amgylchedd cartref. Maent wedi eu hymestyn hefyd i gynnwys canllawiau ar gyfer ymarferwyr eraill a sefydliadau allanol sy'n cefnogi ysgolion a lleoliadau a gynhelir a'u dysgwyr.
Diweddariadau tymor yr hydref 2020
Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd
Mae’n ymwneud â phrofion darllen a rhifedd ar-lein (blynyddoedd 2 – 9). Mae’r asesiadau rhesymu yn cael eu treialu ar hyn o bryd ac ni fyddant yn statudol tan 2021-22.
Mae asesiadau yn dal yn ofyniad statudol, ond ar sail ‘ymdrechion rhesymol’ ar hyn o bryd, fel rhan o addasu gofynion y cwricwlwm ac asesu.
Mae’r asesiadau yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd dysgwyr, ac ni ddylid eu defnyddio at ddibenion sy’n ymwneud â pherfformiad yr ysgol neu atebolrwydd.
Ni ddylai asesiadau personol fod yn destun pryder i ddysgwyr, ac mae’n bwysig i ysgolion ystyried sut caiff yr asesiadau eu cyflwyno.
Gall ysgolion ddewis cynorthwyo i ddefnyddio’r asesiad ddwywaith yn ystod y flwyddyn academaidd os byddant yn dymuno.
Rôl y consortia o ran cynorthwyo ag Asesiadau Personol
Gwaith monitro a wneir ar ran yr Awdurdod Lleol.Bellach, bydd monitro yn golygu cynnal a hyrwyddo arferion da mewn perthynas â’r defnydd o asesiadau ac adroddiadau.
Gofyniad cyfreithiol i fonitro 10% o ysgolion. Fodd bynnag, mae amseru hyblyg yn golygu y bydd yn rhaid gwneud hyn trwy gydol y flwyddyn. Caiff monitro ei gynnwys mewn ymweliad ag ysgolion ac fel rhan o gyswllt ag ysgolion trwy gydol y flwyddyn.
Yn flaenorol, gofynnwyd i benaethiaid anfon dogfennaeth i gadarnhau fod profion wedi cael eu gweinyddu’n briodol. Bellach, caiff hyn ei ddatgan trwy’r system ar-lein.
Yn flaenorol, roedd gan y consortia rôl mewn perthynas â chymeradwyo penderfyniadau ynghylch datgymhwyso. Oherwydd fformat addasol yr asesiadau personol, rhagwelir y bydd llawer llai o achosion o ddatgymhwyso. Gofynnwyd i ysgolion gynnal rhestr o achosion o ddatgymhwyso, a bydd y consortia rhanbarthol (yn gweithredu ar ran awdurdodau lleol) yn gofyn am y rhestr honno ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Yn flaenorol, er mwyn monitro, gofynnwyd i ysgolion am amserlen o brofion, yn ystod cyfnod cynnal y profion, fel y gellid cynllunio ymweliadau. Caiff y gofyniad hwn ei ystyried a darperir diweddariad ym mis Ionawr 2021.
25 Tachwedd 2020
Y wybodaeth ddiweddaraf am y system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ddoe cymeradwyodd y Senedd 'Rheoliadau Drafft: Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020' ("Rheoliadau ADY 2020") a ddaw i rym ar 4 Ionawr 2021. Mae hyn yn gam arwyddocaol arall tuag at weithredu'r system ADY; a'n nod o drawsnewid y disgwyliadau, y profiadau a'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae’r Rheoliadau CADY 2020 yn rhagnodi cymwysterau a phrofiad rôl y Cydlynydd ADY ac fe fyddant yn helpu i sicrhau mwy o gysondeb o ran sut y bydd ysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yn arfer eu dyletswydd i ddynodi Cydlynydd ADY.
Sylwch, fel y nodwyd yn ei datganiad ar 3 Tachwedd, fod y Gweinidog Addysg wedi cychwyn trwy Orchymyn, y gofynion yn y Ddeddf ADY ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysg bellach; byrddau iechyd; ac awdurdodau lleol i ddynodi, yn y drefn honno, Cydlynydd ADY; Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig (SACDA) a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SADYBC) ar 4 Ionawr 2021.
Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canllawiau anstatudol ar ddyletswyddau gweithredol y tair rôl statudol ADY. Bydd hyn yn seiliedig ar destun terfynol arfaethedig y Cod ADY sydd wedi'i ddatblygu a'i ddiwygio yn dilyn ymgynghoriad cod 2018-19 ac sydd i'w osod gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2021.
Mae gan gydlynwyr ADY rôl hanfodol i'w chwarae o ran helpu ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach i baratoi i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf ADY 2018. Cyn i'r dyletswyddau hyn ddechrau fesul cam o fis Medi 2021, mae gan gydlynwyr ADY mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach ledled Cymru gyfle i sefydlu systemau ac arferion; meithrin cydberthnasau effeithiol a chydweithredol; ac arwain y lleoliad addysg cyfan wrth gyflwyno'r system ADY yn effeithiol.
Er mwyn cefnogi rôl y Cydlynydd ADY rydym yn datblygu Rhaglen Dysgu Proffesiynol Genedlaethol ADY. Mae hon yn rhaglen hyfforddi a datblygu wedi'i thargedu lle bydd hyfforddiant penodol, sy'n berthnasol i'r unigolyn, ar gael i’w helpu i adeiladu ar ei wybodaeth a'i sgiliau presennol. Y bwriad yw galluogi'r Cydlynydd ADY i gyflawni ei gyfrifoldeb i gynllunio, cydgysylltu a darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn strategol.
Mae hyn yn cefnogi un o nodau allweddol y system ADY, sef sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn cael cymorth i oresgyn ei rwystrau unigol i ddysgu a chyflawni ei botensial yn llawn.
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar y rhaglen ddysgu a'r pecyn hyfforddi gweithlu a ddatblygwyd gennym i gefnogi Cydlynwyr ADY sydd newydd eu sefydlu a'r SENCos presennol sy'n trosglwyddo i rôl newydd fel Cydlynydd ADY.
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen drawsnewid ADY a chanllawiau ar y system AAA gyfredol yma gan gynnwys ein cwestiynau cyffredin a'n canllaw rhaglen trawsnewid ADY.
Danfonwch eith ymholiadau i SENReforms@llyw.cymru 19 Tachwedd 2020
Cyhoeddi adroddiad cyntaf y gweithgor ar adnoddau addysg ynghylch Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd EthnigYm mis Gorffennaf, cyhoeddwyd Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd er mwyn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu a nodi’r bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol mewn perthynas â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
19 Tachwedd 2020
12 Tachwedd 2020
12 Tachwedd 2020
Caiff yr e-bost hwn ei ddanfon atoch gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys diweddariadau ar gyfer pob lleoliad gofal plant ac addysg gan gynnwys Dysgu’n Seiliedig ar Waith.
18 Tachwedd 2020
4 Tachwedd 2020
Gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ddoe fod y ‘Drafft: Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020’ (“rheoliadau cydlynydd ADY”) wedi’u gosod gerbron y Senedd.
Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi cymwysterau a swyddogaethau rôl Cydlynydd ADY ac maent i'w trafod gan y Senedd ar 24 Tachwedd. Mae rôl Cydlynydd ADY yn rhan sylfaenol o'r system ADY a ddyluniwyd i sicrhau mwy o gysondeb wrth ddynodi Cydlynydd ADY; a chydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Ar 29 Hydref gwnaeth y Gweinidog Orchymyn i gychwyn:
o 2 Tachwedd, amryw bwerau yn y Ddeddf, gan gynnwys y pŵer i wneud rheoliadau Cydlynydd ADY; a
o 4 Ionawr 2021, y gofynion ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysg bellach; byrddau iechyd; ac awdurdodau lleol i ddynodi Cydlynydd ADY yn y drefn honno; Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA) a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC)
Mae'r gofynion i ddynodi pob un o'r rolau statudol a gosod y rheoliadau Cydlynydd ADY yn nodi carreg filltir arwyddocaol yng nghynnydd y diwygiadau ADY hanfodol hyn, er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru sydd ag ADY.
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen drawsnewid ADY a chanllawiau ar y system AAA gyfredol yma gan gynnwys ein cwestiynau cyffredin a'n canllaw rhaglen trawsnewid ADY.
Danfonwch eith ymholiadau i SENReforms@llyw.cymru
19 Hydref 2020
Diweddariad ADEW
Byddwch am fod yn ymwybodol for Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi cyfnod clos dros dro o ddydd Gwener yma tan 9 Tachwedd.
Atodaf lincs i ddatganiad i’r wasg Llywodraeth Cymru a chwestiynau cyffredinol, can gynnwys sut mae hyn yn effeithio ar ofal plant, ysgolion, ein colegau addysg bellach a’n prifysgolion.
https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin
13 Hydref 2020
Education Reforms: updated action plan for education reform. In a written statement, the education minister said the new plan considers the response to the pandemic and an OECD report on the new curriculum. Ms Williams also published shared expectations for the sector.
12 Hydref 2020
Arolwg Estyn o ddulliau mewn addysg o ganlyniad i darfu yn sgil COVID-19 -Cau 2yp Dydd Gwener 23 Hydref.
Mae Estyn yn adolygu pa mor dda y mae ysgolion / UCDau a’u cymunedau yn cael eu cefnogi ers dechrau’r tymor.
Maen nhw eisiau i arweinwyr, athrawon, staff cymorth, llywodraethwyr, dysgwyr a rhieni / gofalwyr rannu eu safbwyntiau mewn arolwg byr dienw.
Cymerwch ran - https://www.estyn.llyw.cymru/adborth-arolygu/arolwg
22 Medi 2020
Llywodraeth Cymru: e (10 August 2020) Trefniadau adrodd ar berfformiad ysgolion: diweddariad pwysig (10 Awst 2020)
https://gov.wales/school-performance-reporting-arrangements-important-update-0
Fel nodwyd yn y Datganiadau Ysgrifenedig dyddiedig 18 Mawrth 2020 a 3 Gorffennaf 2020, mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi newidiadau i drefniadau cyhoeddi data dyfarnu cymwysterau a mesurau perfformiad yn sgil y coronafeirws.
Ar ben hynny, gwnaedRheoliadau Llacio Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020 er mwyn lleihau'r baich ar ysgolion ac awdurdodau lleol ar gyfer 2019/20.
Gweler y ddogfen gryno wedi’i hatodi isod
15 Medi 2020
Gweminar Estyn: Rhannu arfer effeithiol i gyflwyno Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch
Os ydych chi’n gysylltiedig ag addysgu Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch, yna cofrestrwch ar gyfer y weminar fer hon. Gall eich helpu i wella cynllunio, cyflwyno a marchnata’r pwnc pwysig hwn.
Cewch wrando ar awdur adroddiad diweddar Estyn a chlywed am arfer dda gan arweinwyr mewn ysgolion a choleg addysg bellach.
Archebwch eich lle https://www.eventsforce.net/estyn/270/home?language=20
4 Medi 2020
NODYN ATGOFFA: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - ymgynghoriad
Annwyl gyfaill
Fel y gwyddoch, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa bod y Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ynghylch y Bil.
O ystyried faint o wybodaeth yr ydym yn disgwyl ei chael, a’r amserlen benodol ar gyfer cyflwyno’r adroddiad, gofynnwn i chi gyflwyno’r holl wybodaeth drwy borth ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyfrannu ar gael ar y wefan.
Mae croeso i chi anfon yr e-bost hwn at unrhyw sefydliad neu unigolyn yr ydych yn credu yr hoffai gyfrannu at yr ymgynghoriad.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 17:00 ddydd Mawrth 29 Medi 2020. Sylwer na fydd yn bosibl ystyried ymatebion sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Mae ymgynghoriad sy’n addas i blant hefyd ar gael. Byddwn yn annog pob plentyn a pherson ifanc i ddweud ei ddweud, felly gofynnwn ichi rannu’r e-bost hwn fel y bydd lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ynghylch sut maen nhw am gael eu dysgu.
Noder: mae dyddiad cau’r fersiwn hon wedi cael ei ymestyn tan 20 Medi 2020.
Cofion cynnes,
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
3 Medi 2020
Gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Heddiw mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi datganiad yn rhoi diweddariad ar y rhaglen drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Trwy gydol y pandemig Covid-19, mae'r gwaith i gwblhau'r Cod a rheoliadau ADY wedi parhau. Bydd y rhain yn cael eu gosod i'w cymeradwyo gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2021, cyn i'r system ADY gychwyn dros gyfnod o dair blynedd fesul cam o fis Medi 2021. Gweler llinell amser yma.
Bydd rolau statudol ADY yn cychwyn ym mis Ionawr 2021, a chyhoeddir canllawiau i gefnogi ein partneriaid cyflenwi. Bydd y canllaw hwn, yn seiliedig ar destun o'r Cod diwygiedig, yn darparu eglurder pellach ar y rolau statudol trwy ehangu ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Fel rhan o'n gwaith parhaus i gefnogi plant a phobl ifanc, teuluoedd, eu cynrychiolwyr ac ymarferwyr addysg, gan gynnwys yng nghyd-destun y pandemig cyfredol, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gefnogi dysgwyr bregus a difreintiedig, gan gynnwys y rhai ag ADY, wrth i ysgolion a lleoliadau ddychwelyd yn llawn.
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen drawsnewid ADY a chanllawiau ar y system AAA gyfredol yma gan gynnwys ein cwestiynau cyffredin a ddiweddarwyd yn ddiweddar a'n canllaw rhaglen trawsnewid ADY.
Hefyd rydym yn lansio ymgynghoriad yfory ar gynigion i ganiatáu cynrychiolwyr i weithredu ar ran pobl ifanc, a rhieni plant, nad oes ganddynt alluedd meddyliol, wrth arfer eu hawliau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018. Er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad yn cyrraedd y bobl y bydd y cynigion yn cael yr effaith fwyaf, byddwn yn gweithio gyda Phlant yng Nghymru i sicrhau bod pobl ifanc nad oes ganddynt alluedd yn cael eu targedu a'u cefnogi i ymgysylltu â'r ymgynghoriad. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r gwaith ar y cod a'r rheoliadau ADY.
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at SENReforms@llyw.cymru
Canllawiau gorchuddion wyneb
Dolenni ar gyfer y dogfennau diweddara:
Operational guidance for schools and settings from the autumn term - https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19
Guidance for safe operation in post-16 learning from September 2020 - https://llyw.cymru/canllawiau-ar-weithredun-ddiogel-yn-addysg-ol-16-o-fis-medi-2020-ymlaen?_ga=2.146248893.863497650.1599125092-718576988.1578406412
Diweddariadau tymor yr haf 2020
14 Gorffennaf 2020
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ar hyn o bryd.
Mae ymgynghoriad wedi'i lansio i lywio gwaith y Pwyllgor. O ystyried faint o wybodaeth yr ydym yn disgwyl ei chael, a’r amserlen benodol ar gyfer cyflwyno’r adroddiad, gofynnwn i chi gyflwyno’r holl wybodaeth drwy borth ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyfrannu ar gael ar y dudalen we.
Anfonwch yr e-bost hwn i unrhyw sefydliad neu at unrhyw unigolyn y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymgynghoriad.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 17:00 ddydd Mawrth 29 Medi 2020. Sylwer na fydd yn bosibl ystyried ymatebion sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd ymgynghoriad addas i blant ar gael maes o law.
Isod mae dolen i’r canllawiau dysgu a gweithredol i gefnogi ysgolion a lleoliadau yn eu paratoadau i groesawu pob dysgwr yn ôl yn nhymor yr hydref.
https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19
https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddysgu-mewn-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19
Diweddariad ynghylch Covid-19 ar gyfer Rhanddeiliaid Addysg, 13 Gorffennaf 2020 (atodwyd isod)
7 Gorffennaf 2020
Annwyl Aelodau,
Mae'r Mesur Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol heddiw wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru.
Cyfeiriwch at y bwletin atodedig i gael mwy o wybodaeth am y Bil a'r broses ddeddfwriaethol.
Rydym yn diolch ichi am eich cefnogaeth hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu â chi wrth i'r Bil fynd trwy'r Senedd.
Datganiad Ysgrifenedig: System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion 2020/21
18 Mehefin 2020
Mae diweddariad wedi’i atodi i’r Cwestiynau Cyffredin a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 17eg Mehefin.
Prif dudalen: https://gov.wales/education-coronavirus
Ysgolion yn Cynyddu Gweithrediadau o 29ain Mehefin ymlaen: https://gov.wales/schools-increasing-operations-29-june-coronavirus#section-43683
Hefyd mae cyfarwyddyd a Chwestiynau Cyffredin wedi’u diweddaru i Gyrff Llywodraethu yn cael eu cyhoeddi heddiw ar y wefan.
10 Mehefin 2020
Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau Addysg: Diogelu Addysg (COVID-19) - Canllawiau i ysgolion a lleoliadau gynyddu eu gweithrediadau ar y safle yn ddiogel ar gyfer staff a dysgwyr - https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-i-ysgolion-lleoliadau-addysg-diolgeu-addysg-covid-19
Canllawiau ar ddysgu dros dymor yr haf: Diogelu Addysg (COVID-19) - Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar y dysgu a’r addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno eu darparu dros weddill tymor yr haf - https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddysgu-dros-dymor-yr-haf-diogelu-addysg
3 Mehefin 2020
“Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi”** - **Bydd pob plentyn yn cael cyfle i “Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi”, cyhoeddodd Kirsty Williams heddiw wrth iddi gyhoeddi manylion am y cam nesaf i ysgolion yng Nghymru - https://cyfryngau.gwasanaeth.llyw.cymru/newyddion/bydd-pob-plentyn-yn-cael-cyfle-i-dod-ir-ysgol-dal-ati-i-ddysgu-paratoi-ar-gyfer-yr-haf-a-mis-medi
19 Mai 2020
Diweddariad polisi - Adroddiadau penaethiaid ac ysgolion - Rwyf wedi atodi rhagor o wybodaeth am y dull gweithredu mae Llywodraeth Cymru am ei roi ar waith gydag adroddiadau penaethiaid ac ysgolion eleni. Cyngor ymlaen llaw yw hwn, yn amodol ar newidiadau deddfwriaethol yn cael eu gwneud, i gynorthwyo gyda chynllunio gan ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol.
18 Mai 2020
Dogfennau cyfarwyddyd wedi’u diweddaru
Cadw'n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu: cefnogi'r system addysg - https://llyw.cymru/cadwn-ddiogel-dal-ati-i-ddysgu-cefnogir-system-addysg
Ffrydio byw arferion ac egwyddorion diogelu i ymarferwyr addysg - https://hwb.gov.wales/parthau/diogelwch-ar-lein/ffrydio-byw-arferion-ac-egwyddorion-diogelu-i-ymarferwyr-addysg/
Datblygu dulliau i gefnogi dysgu o bell - https://hwb.gov.wales/dysgu-o-bell/datblygu-dulliau-i-gefnogi-dysgu-o-bell/
Cameos a syniadau o ysgolion ac UCDau ar barhau â busnes ysgol. Y ddogfen wedi’i hatodi.
28 Ebrill 2020
Heddiw, bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn nodi ei phum egwyddor allweddol a fydd yn pennu sut y bydd addysg yn cael ei chyflwyno'n raddol mewn ysgolion yng Nghymru.
Bydd y Gweinidog Addysg yn nodi pum egwyddor ganllaw a fydd yn cael eu dilyn i bennu pryd a sut y bydd ysgolion yn dychwelyd at ddarparu addysg ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion ysgol:
Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol myfyrwyr a staff
Cyfraniad parhaus i’r ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19
Hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant gynllunio ymlaen llaw
Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig
Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.
Mwy yma: https://llyw.cymru/y-gweinidog-addysg-yn-nodi-pum-egwyddor-allweddol-ar-gyfer-ailgychwyn-ysgolion
20 Ebrill 2020
Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi heddiw ddatganiad polisi o’r enw Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu sy’n ceisio cefnogi dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ddelio ag effaith y coronafeirws (COVID-19).
Lansiodd y Gweinidog y cyfarwyddyd ar y diwrnod sy’n nodi dechrau tymor yr haf sy’n golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i ddarparu cyfarwyddyd ac adnoddau cenedlaethol mewn ffordd gydlynol.
Mae datganiad y Gweinidog yn nodi’n glir y bydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn parhau fel a ganlyn:
diogelwch ac iechyd corfforol a meddyliol yr holl ddysgwyr a’r gweithlu addysg yng Nghymru,
gallu’r dysgwyr i gyd i ddal ati i ddysgu,
a symud y dysgwyr yn ôl i’r ysgol ac ymlaen i gam nesaf eu dysgu pan mae’n ddiogel gwneud hynny.
Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu: datganiad polisi parhad dysgu - https://llyw.cymru/cadwn-ddiogel-dal-ati-i-ddysgu
Dolen fideo – Kirsty Williams: https://twitter.com/i/status/1252163048200196096
Dogfennau ategol:
Llythyr at Benaethiaid a Llywodraethwyr – gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Gweler yr atodiad.
ESTYN: Parhad Dysgu – Cyflwyniad PowerPoint o’r seminarau ar gyfer Penaethiaid Uwchradd.
Cyfarwyddyd ategol i rieni, gofalwyr, athrawon a dysgwyr ar sut i gael adnoddau - Mae Arweinwyr Digidol y Consortia wedi bod yn cydweithredu i ddatblygu fideos i gefnogi’r holl randdeiliaid yn ystod y cyfnod yma. Mae’r fideos wedi cael eu creu i gefnogi gwahanol sefyllfaoedd ar gyfer dysgu o bell digidol. Mae gan y ddolen isod dabiau sefyllfa unigol i gefnogi Ymarferwyr, Rhieni a Gofalwyr ac Arweinwyr a gellir ei rhannu i ddarparu cefnogaeth ddigidol i’r holl randdeiliaid - https://hwb.gov.wales/distance-learning/
Dogfennau wedi’i chyhoeddi gan Estyn a phartneriaid gyda ffocws ar ‘Busnes Ysgol’
Arweiniad i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion ac UCDau ar sut i barhau â busnes ysgol ac UCD yn ystod pandemig Covid-19 - https://www.estyn.llyw.cymru/dogfen/cyngor-i-arweinwyr-llywodraethwyr-ysgolion-ac-ucdau-ar-sut-i-barhau-a-busnes-ysgol-ac-ucd
Egwyddorion allweddol i gynorthwyo â pharhau â busnes ysgol ac UCD, gan ddefnyddio technoleg lle y bo’n briodol - https://www.estyn.llyw.cymru/dogfen/egwyddorion-allweddol-i-gynorthwyo-a-pharhau-a-busnes-ysgol-ac-ucd-gan-ddefnyddio-technoleg
Cyfarwyddyd Dysgu o Bell – Dyma gam cyntaf y cyfarwyddyd sydd ar gael i chi ei rannu gyda rhieni a gofalwyr. Y bwriad yw rhannu gwybodaeth ychwanegol yn ystod yr wythnosau nesaf - https://llyw.cymru/canllawiau-covid-19-i-rieni-gofalwyr-i-gefnogi-teuluoedd-i-aros-yn-ddiogel-yn-iach-ac-i-ddal-ati-i
Adnoddau i gefnogi myfyrwyr B13 sy’n mynd i Brifysgol fel eu cam nesaf - https://hwb.gov.wales/dysgu-o-bell/adnoddau/ol-16 Twitter: pic.twitter.com/sx7G44Tffm