Trefnu’r dysgu

Trefnu’r dysgu – Lefel Cenedlaethol

Yn gam nesaf, mae’n bosibl y bydd ysgolion yn dymuno creu delwedd sy’n adlewyrchu eu dealltwriaeth o’r canllawiau, delwedd y gellir ei defnyddio wedyn yn fan cychwyn ar gyfer trefnu’r dysgu yn eu lleoliadau, ac sy’n adlewyrchu gweledigaeth y pedwar diben.

Mae’r cynrychioliad hwn yn rhoi’r pedwar diben ar frig y triongl, gan gyfleu’r neges mai nhw yw gweledigaeth y cwricwlwm a’r dyhead ar gyfer pob dysgwr.

Mae’r 27 o ddatganiadau o’r Hyn Sy’n Bwysig, sydd yng nghanol y triongl, yn statudol, a byddant yn sicrhau cysondeb a disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Mae’r Disgrifiadau Dysgu yn ymgorffori sut ddylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o'r Hyn Sy'n Bwysig wrth iddynt symud tuag at y pedwar diben.

Yn cyd-fynd â’r canllawiau y mae’r ddogfen Cynllunio Eich Cwricwlwm, sy’n darparu egwyddorion ac ystyriaethau allweddol ar gyfer ymarferwyr wrth iddynt ddewis y cyd-destunau, y cynnwys a’r addysgeg fwyaf addas ar gyfer eu dysgwyr. Rhaid i’r dewisiadau hyn greu cyfleoedd i’r dysgwyr feithrin nodweddion y pedwar diben.

Trefnu’r dysgu – Lefel Lleol

Mae’r pedwar diben yn llywio pob lefel o’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm, gan mai dyma weledigaeth y Cwricwlwm i Gymru ac felly dylent dreiddio i’r holl broses o wneud penderfyniadau a chynllunio.

Bwriad y ddelwedd yw enghreifftio’r gwaith cynllunio y dylai ysgolion ei wneud er mwyn adeiladu eu cwricwlwm lleol. Mae angen i ysgolion feithrin dealltwriaeth a rennir o’r lefel uchel o ddysgu cysyniadol a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gynllunio’r holl weithgareddau dysgu ar lefel ysgol gyfan a thrwy’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd arweinwyr ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi i wneud hyn gan y dogfennau Cynllunio Eich Cwricwlwm, sy’n darparu’r egwyddorion a’r ystyriaethau allweddol wrth ddewis y cyd-destunau, y cynnwys a’r addysgeg fwyaf addas.

Wrth iddynt wneud y penderfyniadau hyn, mae angen i ysgolion ddeall bod y cwricwlwm yn cwmpasu’r holl ddysgu a phrofiadau, a mynd ati i ddefnyddio’r Disgrifiadau Dysgu wrth gynllunio dilyniant ar gyfer pob dysgwr. Bydd y gwaith cynllunio hwn yn cynnwys penderfyniadau nid yn unig ynghylch y cynnwys, ond hefyd ynghylch y ffordd y mae’r dysgu’n digwydd a’r modd y mae’n cefnogi cynnydd tuag at y pedwar diben.

Trefnu’r dysgu – Lefel Dosbarth

Mae’r pyramid hwn yn gosod hanfod y dysgu ar y gwaelod, yn sail i’r holl weithgareddau dysgu. Mae hanfod y dysgu yn cyfleu yn fras y cysyniadau sydd ym mhob MDPh, ac yn pwyntio at graidd yr hyn sy’n bwysig.

Mae’n darparu cyfleoedd i drosglwyddo ac ailadrodd, gyda chysylltiadau â phrofiadau bywyd a dealltwriaeth flaenorol. Dysgu ei hun yw’r cynnyrch, sy’n gorwedd ar frig y pyramid, fel y dyhead sydd wedi’i ymgorffori yn y pedwar diben.

Mae hanfod y dysgu yn ysgogi dealltwriaeth newydd, cwestiynau newydd, trafodaethau, meddwl dwfn ac ymholiad. Mae’n sbarduno cysylltiadau ystyrlon â dysgu blaenorol a phrofiadau personol. Ni ellir cyrraedd hanfod y dysgu mewn tasgau a gweithgareddau untro, gan ei fod yn cymryd amser i feithrin dysgu dwfn a throsglwyddadwy.