Trosolwg o’r adnodd Cyn Cychwyn
Gall yr adnodd Cyn Cychwyn eich cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu’r deunyddiau cwricwlwm a ryddhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio’r ddogfen hon gyda staff, ymgynghorwyr her a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo trafodaeth am daith eich ysgol tuag at Gwricwlwm i Gymru 2022. Gellir eich cefnogi i gynllunio strategaethau a fydd yn eich galluogi i wneud cynnydd tuag at greu cwricwlwm lleol sy’n darparu mynediad i a chyfleoedd i gaffael ar y profiadau, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithredol ac i gyflawni’r pedwar diben.
Dilynir yr adnodd Cyn Cychwyn y trywydd fel amlinellwyd yn y ddogfen ERW ‘Gweddnewid Eich Cwricwlwm’:
GWELEDIGAETH
EGWYDDORION CYNLLUNIO
METHODOLEG
Y CYD-DESTUN AR GYFER DYSGU
Gall fod o gymorth i gydnabod cryfderau eich ysgolion a’r blaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt wrth symud tuag at 2022. Gellir defnyddio’r wybodaeth mewn dogfennau perthnasol eraill, fel eich cynllun hunanwerthuso a gwelliant.
Adnodd:
Ar y tudalennau canlynol mae dogfennau cyn-cychwyn a gwblhawyd gan amrywiaeth o ysgolion o fewn rhanbarth ERW. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r penaethiaid am roi o'u hamser ac am eu caniatâd i rannu eu syniadau.