Cydraddoldeb a Lles
Beth a olygwn wrth degwch?
Ystyr tegwch yw sicrhau bod anghenion gwahanol pawb yn cael eu diwallu fel y gallant fod yn llwyddiannus a gwireddu eu potensial llawn.
Beth a olygwn wrth les?
Mae lles yn ymwneud â chreu’r amodau i unigolion a chymunedau ffynnu. Mae’n cwmpasu ein hiechyd emosiynol, corfforol a meddyliol, ac mae’n gwbl sylfaenol i ddysgu digwydd.
Egwyddorion Allweddol
Dylai meithrin amgylchedd diogel a chefnogol i bawb ffynnu fod yn rhan annatod o weledigaeth yr ysgol.
Mae darparu tegwch yn ein hysgol yn gam pwysig tuag at leihau anghydraddoldebau a darparu’r cyfleoedd gorau posibl i bawb.
Gall ymagwedd ysgol gyfan gytunedig o ran lles a thegwch arwain at gymuned ddysgu lewyrchus sydd, ar y cyd, yn rhannu ymdeimlad o ystyr a diben.
"Rwyf wedi dysgu y bydd pobl yn anghofio’r hyn a ddywedoch, bydd pobl yn anghofio beth wnaethoch chi, ond ni fydd pobl byth yn anghofio sut gwnaethoch chi iddyn nhw deimlo."
Maya Angelou
Ystyriaethau allweddol:
A oes gennym ddealltwriaeth gytûn o anghenion ein staff ac anghenion pob dysgwr mewn perthynas â thegwch a lles?
Sut yr ydym yn cefnogi ein staff i ddeall ac ymateb i’r cysylltiad cynhenid sydd rhwng lles a dysgu?
A yw ein hymrwymiad i lles ein staff a’n dysgwyr yn amlwg ar bob lefel ac ym mhob cyd-destun yn ein hysgol?
Sut y gallwn sicrhau bod ein strategaethau i hyrwyddo tegwch a lles yn ein hysgol yn rhai effeithlon?