Cwricwlwm i Gymru – Deddfwriaeth
Deddfwyd ar gyfer yr agweddau canlynol o’r cwricwlwm newydd a dylid eu hystyried pan fydd ysgolion yn datblygu eu harfer wrth inni symud ymlaen.
Dynodir meysydd lle mae ysgolion yn cael eu hannog yn gryf i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr gan *.
Y Pedwar Diben
Unigolion iach, hyderus
Dinasyddion egwyddorol, gwybodus
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
Cyfranwyr mentrus, creadigol
Meysydd Dysgu a Phrofiad a’r datganiadau o’r Hyn Sy’n Bwysig
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mathemateg a Rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Y Dyniaethau
Elfennau Gorfodol Cwricwlwm
Crefydd, gwerthoedd a moeseg
Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Cymraeg
Saesneg
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd digidol
Cod Cynnydd
Adlewyrchu’r datganiadau cynnydd ar gyfer pob MDaPh
Gofynion Cyffredinol
Galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
Bod yn eang a chytbwys.
Bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau.
Darparu ar gyfer dilyniant priodol i ddysgwyr.
Gofynion Ychwanegol
Bydd gofyn i bob Ysgol gyhoeddi crynodeb o’i chwricwlwm mabwysiedig gan adolygu’r cwricwlwm hwn. Rhaid sicrhau y bydd y cwricwlwm hwnnw yn cael ei gynnal gan drefniadau asesu a fydd yn asesu:
Cynnydd a wnaed gan ddysgwyr mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol
Y camau nesaf yn natblygiad dysgwyr, a’r dysgu a’r addysgu sydd eu hangen i wneud y cynnydd hwnnw.
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi dysgwyr a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 *
Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswyddau penodol ar ysgolion. Fodd bynnag, mae’n ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol (ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill) weithredu datblygu cynaladwy.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn *
Dysgu am hawliau dynol
Dysgu drwy hawliau dynol
Dysgu ar gyfer hawliau dynol