Themâu Trawsbynciol: Confensiynau y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Addysg hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng Nghwricwlwm i Gymru 2022

Hawliau dynol yw’r rhyddid a’r amddiffyniadau y mae gan bawb yr hawl iddynt. Mae gan y dysgwyr yn ein hysgolion hawliau dynol penodol sydd wedi’u hymgorffori yng Confensiynau y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Y confensiwn yw’r datganiad mwyaf cyflawn o hawliau plant a luniwyd erioed, a hwn yw’r cytundeb hawliau dynol rhyngwladol sydd wedi’i gadarnhau’n fwyaf eang yn ein hanes. Cafodd ei fabwysiadu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1989 ar ôl 60 mlynedd o eiriolaeth, a daeth i gyfraith y Deyrnas Unedig yn 1992.

Yng Nghymru, mae’r Confensiwn wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac, o 2014, daeth yn anghenraid i bob Gweinidog roi sylw dyledus iddo wrth wneud pob penderfyniad. Llywiodd egwyddorion y CCUHP ddatblygiad y pedwar diben, ac fel galluogwr allweddol ar gyfer cwricwlwm sy’n cael ei yrru gan y dibenion hyn, cefnogwch y dysgwyr i wybod eu hawliau ac i barchu hawliau eraill.

Mae addysg hawliau dynol yn y Cwricwlwm i Gymru yn cwmpasu:

  • dysgu am hawliau dynol – deall hawliau dynol, a ffynonellau’r hawliau hynny, gan gynnwys y CCUHP

  • dysgu trwy hawliau dynol – datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy’n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol

  • dysgu ar gyfer hawliau dynol – cymhelliant gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol i hyrwyddo parch at hawliau pawb.


"Mae hawliau dynol yn dechrau mewn lleoedd bach, yn agos at gartref – mor agos ac mor fach fel na ellir eu gweld ar unrhyw fapiau o’r byd. Ac eto, nhw yw byd y person unigol; y gymdogaeth y mae’n byw ynddi; yr ysgol neu’r coleg y mae’n ei mynychu/fynychu ...

Dyna’r lleoedd y mae pob dyn, menyw, a phlentyn yn ceisio cyfiawnder cyfartal, cyfle cyfartal, urddas cyfartal heb wahaniaethu.

Oni bai bod gan yr hawliau hyn ystyr yno, nid oes fawr o ystyr iddynt yn unman."

Anna Eleanor Roosevelt (1958)

Egwyddorion Allweddol

  • Wrth ddylunio, mabwysiadu a gweithredu eu cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau geisio ymgorffori cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am, trwy ac ar gyfer hawliau dynol.

  • Dylai fod gan bob aelod o staff yn yr ysgol neu’r lleoliad ddealltwriaeth dda o iaith hawliau.

  • Dylai pob aelod o gymuned yr ysgol sicrhau bod ganddo’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ddeall hawliau dynol a ffynonellau’r hawliau hynny. Bydd hyn yn cefnogi’r broses o ddatblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy’n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol, yn ysbrydoli gweithredu cymdeithasol, ac yn grymuso dinasyddiaeth weithredol, a hynny er mwyn hyrwyddo parch at hawliau pawb.

  • Bydd cyd-greu’r cyfleoedd hyn a chynnwys y dysgwyr yn hynny o beth, yn rhoi perchnogaeth i bawb dros eu profiadau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn gwybod bod ganddyn nhw ac eraill hawliau, ac y bydd yr hawliau hyn yn eu cefnogi i ymgorffori’r pedwar diben dros eu hunain ac eraill.

  • Mae’r thema drawsbynciol hon yn y Cwricwlwm i Gymru yn ennyn diddordeb plant mewn archwilio cysyniadau sy’n bwysig iddynt ac sy’n effeithio arnynt. Mae’n eu galluogi i ystyried y byd y maent yn byw ynddo trwy lensys gwahanol, ac yn rhoi profiadau perthnasol a theg iddynt seilio eu dysgu arnynt, a hynny’n agos at adref ac ymhellach i ffwrdd. Mae dylunio eich cwricwlwm yn eich ffordd eich hun, o amgylch eich anghenion mewn ymateb i fyd sy’n newid yn barhaus, yn eich galluogi i feddwl am yr hyn y mae angen i ddysgwyr ddysgu amdano yn eu cenhedlaeth.

  • Mae creu ethos sy’n meithrin iaith hawliau yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau teg, pwrpasol ac ystyrlon i bob plentyn.

Ystyriaethau allweddol:

  1. Pa gyfraniad y mae’r CCUHP yn ei wneud i ethos ein hysgol neu ein lleoliad?

  2. Pa mor gadarn yw ein gwybodaeth am addysg hawliau dynol, ac i ba raddau yr ydym wedi ymrwymo i’r gofyniad i roi sylw dyledus?

  3. Sut yr ydym yn sicrhau bod ‘llais y disgybl’ yn realiti ac yn grymuso’r dysgwr i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a chynllunio? Pa effaith y mae hyn yn ei chael ar bolisïau ac ymarfer?

  4. I ba raddau yr ydym wedi meddwl am le addysg hawliau dynol wrth ddylunio cwricwlwm wedi’i gyd-lunio, gan gynnwys dulliau asesu, dysgu ac addysgu?

  5. Ym mha ffyrdd y mae CCUHP yn cysylltu â phrofiadau cwricwlwm dilys sy’n adeiladu tuag at y pedwar diben, ac yn darparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer dysgu trwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, gan arwain at y dysgwyr yn dod yn ddinasyddion byd-eang gweithgar?