Sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben
Mae sgiliau cyfannol yn sail i’r pedwar diben a dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu. Wrth wraidd y sgiliau hyn y mae pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn cydnabod, yn defnyddio ac yn creu gwerth o wahanol fathau. Yn y cyd-destun hwn, mae gwerth yn golygu pwysigrwydd mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys gwerth ariannol, diwylliannol, cymdeithasol ac o ran dysgu. Nodir y sgiliau hyn isod.
Creadigrwydd ac arloesi
Dylid rhoi lle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig ac yn ymholgar, ac i greu llawer o syniadau. Dylen nhw gael eu cefnogi i gysylltu gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau, a gweld, archwilio a chyfiawnhau datrysiadau amgen. Dylen nhw allu adnabod cyfleoedd a chyfleu eu strategaethau. Dylai hyn gefnogi dysgwyr i greu gwerth o wahanol fathau.
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Dylai dysgwyr gael eu cefnogi i ofyn cwestiynau ystyrlon, ac i werthuso gwybodaeth, tystiolaeth a sefyllfaoedd. Dylen nhw allu dadansoddi a chyfiawnhau datrysiadau posibl, gan adnabod materion a phroblemau posibl. Dylai dysgwyr ddod yn wrthrychol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau, gan adnabod a datblygu dadleuon. Dylen nhw allu cynnig datrysiadau sy’n creu gwerth o wahanol fathau.
Effeithiolrwydd personol
Dylai dysgwyr feithrin deallusrwydd ac ymwybyddiaeth emosiynol, gan ddod yn hyderus ac yn annibynnol. Dylen nhw gael cyfleoedd i arwain dadleuon a thrafodaethau, gan ddod yn ymwybodol o oblygiadau cymdeithasol, diwylliannol, egwyddorol a chyfreithiol eu dadleuon. Dylen nhw allu gwerthuso eu dysgu a’u camgymeriadau, gan adnabod meysydd i’w datblygu. Dylen nhw ddod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy, gan allu adnabod a chydnabod gwerth o wahanol fathau ac yna ddefnyddio’r gwerth hwnnw.
Cynllunio a threfnu
Lle y bo’n ddatblygiadol briodol, dylai dysgwyr allu gosod nodau, gwneud penderfyniadau a monitro canlyniadau interim. Dylen nhw allu myfyrio ac addasu, yn ogystal â rheoli amser, pobl ac adnoddau. Dylen nhw allu gwirio cywirdeb a chreu gwerth o wahanol fathau.
Drwy feithrin y sgiliau hyn, bydd dysgwyr yn gallu gweithio ar draws disgyblaethau, gan roi cyfleoedd iddyn nhw syntheseiddio a dadansoddi. Mae potensial penodol i arloesi wrth wneud a defnyddio cysylltiadau rhwng gwahanol ddisgyblaethau a Meysydd.
Wrth feithrin y sgiliau hyn, dylai dysgwyr:
feithrin gwerthfawrogiad o ddatblygiad cynaladwy a’r heriau sy’n wynebu dynoliaeth.
meithrin ymwybyddiaeth o ddatblygiadau technolegol sy’n dod i’r amlwg.
cael eu cefnogi a’u herio er mwyn iddyn nhw fod yn barod i fodloni’r galwadau sy’n gysylltiedig â gweithio mewn sefyllfa oedd ansicr yn hyderus, wrth i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang arwain at heriau newydd a chyfleoedd i lwyddo.
cael lle i ddatblygu syniadau creadigol a gwerthuso dewisiadau amgen mewn modd beirniadol. Mewn byd sy’n newid yn gyson, bydd hyblygrwydd a’r gallu i ddatblygu mwy o syniadau yn galluogi dysgwyr i ystyried ystod ehangach o datrysiadau amgen pan fydd pethau’n newid.
meithrin eu gwydnwch a datblygu strategaethau a fydd yn eu helpu i reoli eu lles. Dylen nhw fod yn cael profiadau lle y gallan nhw ymateb yn gadarnhaol wrth wynebu heriau, ansicrwydd neu fethiant.
dysgu i weithio’n effeithiol gydag eraill, gan werthfawrogi’r gwahanol gyfraniadau y maen nhw eu hunain ac eraill yn eu gwneud. Dylen nhw hefyd ddechrau cydnabod cyfyngiadau eu gwaith eu hunain a chyfyngiadau pobl eraill wrth iddyn nhw feithrin dealltwriaeth o’r ffordd y mae gwahanol bobl yn chwarae gwahanol rolau mewn tîm.gynllunio a chyflawni cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a, lle ceir cyfleoedd i wneud hynny, eu hymestyn a’u cymhwyso ym mhob Maes. Felly, mae datblygu’r sgiliau hyn yn ystyriaeth i bob ymarferydd.
Rhaid rhoi cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i ddysgwyr:
ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
bod yn hyderus wrth ddefnyddio ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd.
Yn hytrach na chynllunio ar gyfer y sgiliau hyn ar wahân, dylai’r ysgol gyfan ymroi i ymwneud ag ymgorffori’r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm. Felly bydd datblygu ac atgyfnerthu’r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm yn gyfrifoldeb ar bob ymarferydd ym mhob Maes, nid dim ond ymarferwyr sy’n arbenigo mewn mathemateg, iaith a chyfrifiadureg.