Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae’r cyfleoedd ar gyfer dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru wedi’u trefnu’n chwe Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn darparu profiadau eang a rhyng-gysylltiedig ar gyfer y dysgwyr wrth iddynt sicrhau cynnydd tuag at y pedwar diben. Er bod natur bendant pob disgyblaeth yn bwysig, mae cydweithredu o fewn ac ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn hanfodol er mwyn llunio cwricwlwm cyfannol ar gyfer pob dysgwr.

Egwyddorion Allweddol

  • Cyn ymgysylltu â’r MDPh, mae angen dealltwriaeth o ‘ganllawiau’r Cyflwyniad i’r Cwricwlwm i Gymru’ er mwyn gwerthfawrogi’r weledigaeth o ymagwedd gyfannol at ddysgu, addysgu a chynnydd. Os bydd ysgolion yn ymgysylltu â chanllawiau’r MDPh yn unig, byddant yn methu egwyddorion allweddol y Cwricwlwm i Gymru a’r cyd-destun ehangach ar gyfer dysgu.

  • Mae dysgu o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn galluogi dysgu dwfn trwy ailadrodd a throsglwyddo i gyd-destunau gwahanol. Dylid archwilio cysylltiadau ystyrlon o fewn a rhwng y chwe MDPh, a dylid cynllunio ar eu cyfer wrth ddewis y cyd-destunau, y cynnwys a’r addysgeg.

  • Dylai ysgolion roi’r dysgwr wrth galon yr holl waith cynllunio a defnyddio dull cydweithredol o fewn ac ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad er mwyn galluogi pob dysgwr i wireddu nodweddion y pedwar diben.

  • Mae’r datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yn crynhoi’r dysgu sy'n hanfodol i wireddu'r pedwar diben. Mae’r Disgrifiadau Dysgu yn ymgorffori sut ddylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig.


Ystyriaethau Allweddol:

  1. A ydym ni, y MDPh, wedi ymgyfarwyddo â ‘chanllawiau’r Cyflwyniad i’r Cwricwlwm i Gymru’?

  2. A ydym wedi trafod pam y mae datblygu nodweddion y pedwar diben yn bwysig i’n MDPh, a sut y gallwn ddarparu cyfleoedd i wneud hynny?

  3. A oes gennym ddealltwriaeth a rennir o’r sail resymegol ar gyfer pob datganiad o’r Hyn Sy’n Bwysig?

  4. A ydym wedi archwilio’r hyn sy’n ddysgu hanfodol yn y MDPh hwn ar gyfer y dysgwyr yn ein cyd-destun?

Wrth fynd i’r afael â’r ystyriaethau allweddol, efallai y bydd ysgolion yn dymuno gwneud y gweithgareddau canlynol.

Gweithgaredd 1

Darllenwch ‘ganllawiau’r Cyflwyniad i’r Cwricwlwm i Gymru’ ac ewch ati i greu cynrychiolaeth weledol o’r model o’r Cwricwlwm i Gymru sy’n crynhoi ei gynnwys. Dyma ddolenni i’r canllawiau, ynghyd â dwy enghraifft.

Gweithgaredd 2

Trafodwch pam y mae nodweddion y pedwar diben yn bwysig i’ch MDPh, a sut y gallwch gydweithredu i gynllunio cyfleoedd i’w datblygu. Gall y dogfennau ar y dde fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich trafodaethau.

Gweithgaredd 3

Darllenwch y sail resymegol ar gyfer pob datganiad o’r Hyn Sy’n Bwysig yn eich MDPh, ac ewch ati i lunio diagram sy’n crynhoi eich dealltwriaeth o’r dysgu hanfodol y mae’n ei gynnwys.


Gweithgaredd 4

Trafodwch yr hyn sydd wir yn bwysig i’ch dysgwyr yn eich cyd-destun yn y MDPh hwn.

Gofynnwch i chi eich hun beth yr ydych am i’ch dysgwyr ei gofio am eich MDPh yn eu bywydau yn y dyfodol, ac ewch ati gyda’ch gilydd i daflu syniadau yn barod i’w defnyddio fel man cychwyn pan fyddwch yn creu gweledigaeth ar gyfer eich MDPh yn eich ysgol.