Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol
Mae Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, lle mae gweithwyr proffesiynol creadigol yn gweithio gydag athrawon ac uwch-arweinwyr mewn ysgolion i gydadeiladu’r cyfleoedd addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac amgylchedd ehangach yr ysgol.
Mae’r cynllun yn cyfateb yn gryf i werthoedd a gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru. Mae’r pedwar diben wedi’u hymgorffori mewn prosiectau, ffactor y mae athrawon wedi’i nodi drwyddi draw, a dangosir hyn yn yr astudiaethau achos isod.
Mae’r Cynllun, o ran ei natur, yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn seiliedig ar ymholi. Mae wedi rhoi’r cyfle i athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol gydgynllunio eu cyfleoedd dysgu eu hunain yn yr ystafell ddosbarth a’r ysgol yn ehangach, gyda’r dysgwyr wrth galon y cynllun. Mae hyn yn galluogi’r dysgwyr i gynyddu eu cymhelliant, eu diddordeb a’u hyder – gan feithrin sgiliau a thueddfryd gydol oes y gallant eu trosglwyddo i fyd gwaith a chymdeithas.
Egwyddorion Allweddol
Dull ymholi, sy’n ystyried heriau ac anghenion unigol yr ysgol.
Yr athro a gweithiwr proffesiynol creadigol yn cydweithio – cydadeiladu’r dysgu.
Datblygiad proffesiynol ar y safle wedi’i gyfuno â deialog myfyriol parhaus.
Syniadau, llais a diddordebau’r dysgwyr yn ganolog i gyfeiriad y dysgu.
Y nod yw cynyddu cymhelliant, ymgysylltiad a chyrhaeddiad wrth feithrin ac ymgorffori sgiliau a thueddfryd y dysgwyr er mwyn gwireddu’r pedwar diben.
Ystyriaethau Allweddol:
Pa un o flaenoriaethau datblygu yr ysgol neu pa gohort o ddysgwyr a allai fod yn ffocws i ddull creadigol o addysgu a dysgu?
Ydyn ni’n rhoi caniatâd i’n staff amrywio ac addasu addysgeg i ennyn diddordeb eu dysgwyr?
Sut yr ydym yn mynd ati i gynnwys syniadau, meddyliau a diddordebau’r dysgwyr mewn modd dilys wrth i ni fynd ati i gynllunio eu dysgu?
A oes gennym gyfle i gydweithredu â gweithwyr proffesiynol creadigol i ddefnyddio eu profiad ehangach a’u hymagwedd wahanol at ddysgu creadigol i gydadeiladu’r dysgu yn yr ystafell ddosbarth?
A oes gennym gyfle i ddefnyddio ardaloedd gwahanol o’r ysgol ar gyfer dysgu – yr awyr agored, neuadd yr ysgol, coridorau?
A ydym yn annog y dysgwyr i fod yn chwilfrydig, yn ddychmygus, yn gydweithredol, yn ddyfal ac yn ddisgybledig?
A ydym yn annog amgylchedd o ddeialog myfyriol ynghylch natur dysgu mewn amgylchedd dysgu cydweithredol agored a gonest?