Cynnig dysgu proffesiynol traws-ranbarthol


Pam bod angen Rhaglen Ddysgu ar Gymru?

Ar hyn o bryd mae Cymru yn cynnal cyfres o ddiwygiadau eang, ond integredig, sydd â’r pŵer i drawsnewid byd addysg. Ar adegau o newid mor sylweddol, mae’n hanfodol bod pob ymarferydd yn cael y cyfle i weithio ar y cyd, i wneud synnwyr o sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eu rolau a sut y gall ysgolion gael y budd mwyaf o’r diwygiadau hyn er lles eu dysgwyr. Dyluniwyd y rhaglen draws-ranbarthol i ddarparu’r cyfle hwn.

Egwyddorion Allweddol

  • Rhaglen integredig yw hon sy’n cynnwys ystyried y dull Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a’n hymrwymiad ar y cyd i’r agenda Rhagoriaeth, Tegwch a Lles.

  • Datblygwyd set gyffredin o ddeunyddiau dysgu proffesiynol yn genedlaethol, trwy broses o gyd-adeiladu rhwng ysgolion, Consortia rhanbarthol a Sefydliadau Addysg Uwch.

  • Bydd pob rhaglen yn rhad ac am ddim wrth ei chyflwyno ac yn hygyrch trwy e-ddysgu ar blatfform Hwb.

  • Bydd y rhaglen yn ymdrin â modiwlau ar Arwain Newid, Datblygu Gweledigaeth a Rennir, Cynllunio ar gyfer Newid: Dulliau o Ddylunio Cwricwlwm, Gwneud Amser a Gofod ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac Arwain Addysgeg .

Ystyriaethau allweddol:

  1. Beth yw’r ffordd orau i arweinwyr ysgolion gysylltu theori Rheoli Newid â’r arferion addysgol mewn ysgolion i gefnogi diwygio.

  2. Sut y gall arweinwyr ysgol harneisio ymddangosiad cwricwlwm sy’n cael ei yrru gan ddibenion fel cyfle euraidd i ailedrych ar y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm a dysgu mewn ysgolion gyda’i holl randdeiliaid?

  3. Ar ôl sefydlu gweledigaeth o’r newydd, efallai y bydd cyfle i ail-ystyried y ffordd y mae ysgolion yn trefnu eu dysgu. Sut gallai arweinwyr ysgol ddefnyddio gwahanol fodelau ac archwilio’r arfer sy’n dod i’r amlwg mewn ysgolion ledled Cymru a thu hwnt?

  4. Sut y gall arweinwyr ysgol sicrhau bod yr holl staff yn cael amser i wneud synnwyr o’r cwricwlwm newydd, i fyfyrio a chynllunio ar y cyd?

  5. Sut mae arweinwyr ysgolion yn defnyddio canlyniadau yr arolwg YSD a’r Safonau Addysgu ac Arweinyddiaeth i adnabod meysydd i’w datblygu mewn dysgu proffesiynol athrawon?