Sgiliau Trawsgwricwlaidd

Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru fel y sylfaen sy’n hanfodol i ddysgu, sgiliau gydol oes ac er mwyn gwireddu’r Pedwar Diben. Wrth i ddysgwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth a meithrin cymhwysedd wrth ddefnyddio’r sgiliau hyn, maent yn cyrchu ac yn ehangu eu gwybodaeth o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad ac ar draws y cwricwlwm, gan ddatblygu sgiliau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’n rhaid i ysgolion gynllunio a darparu cwricwlwm dilys sy’n galluogi dysgwyr i feithrin cymhwysedd a galluogrwydd yn y sgiliau hyn a, lle bo yna gyfleoedd, i’w hymestyn a’u gweithredu ar draws pob Maes.

Y FfLlRh a’r FfCD

Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi eu diwygio a’u haddasu yn unol â’r cyfarwyddyd, ac er nad yw’r fframweithiau bellach yn statudol, maent yn darparu canllaw a strwythur cefnogol er mwyn sicrhau bod yna gyfleoedd rheolaidd i ddatblygu, i ymestyn ac i weithredu’r sgiliau trawsgwricwlaidd hanfodol hyn.

Asesir cynnydd dysgwyr ar draws y cwricwlwm ac nid mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd yn benodol. Mae angen rhoi ystyriaeth i:

  • y cynnydd a wneir gan y dysgwyr

  • y camau nesaf yn eu cynnydd, ac

  • yr addysgu a’r dysgu y bydd eu hangen i sicrhau’r cynnydd hwnnw.

Egwyddorion allweddol

  • Rhaid i’r tri sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, gael eu hymgorffori a’u datblygu ledled pob Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn galluogi dysgwyr i gael mynediad i’r cwricwlwm cyfan ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y dyfodol.

  • Mae cyd-destunau dilys ac ystyrlon yn darparu’r cyfrwng i feistroli llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol er mwyn bod o gymorth i ddysgwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth ac i ddod yn hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau ar draws y cwricwlwm.

  • Nid cyfres o bynciau unigol ar wahân yw’r cwricwlwm erbyn hyn, ond tapestri dysg cyfannol lle mae’r cysyniadau, y sgiliau a’r wybodaeth wedi eu plethu i mewn i wead bywyd bob dydd yr ysgol, ochr yn ochr â’r sgiliau trawsgwricwlaidd.

  • Mae dull gweithredu ysgol gyfan yn allweddol ar gyfer addysgu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm er mwyn bod yna ddull gweithredu cyson a rennir.

  • Mae gan bob aelod o gymuned yr ysgol gyd-ddealltwriaeth ynglŷn â pham y mae sgiliau trawsgwricwlaidd yn sylfaenol i ddysgwyr wireddu’r Pedwar Diben ac i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Ystyriaethau Allweddol:

  1. Pam y mae’n bwysig bod pob ymarferydd yn ei ystyried ei hun yn addysgwr llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol?

  2. Sut y gallwn sicrhau bod gan yr ysgol gyfan ddisgwyliadau cyffredin a chyd-ddealltwriaeth ynglŷn â phwysigrwydd a pherthnasedd sefydlu a meithrin y sgiliau trawsgwricwlaidd?

  3. Sut yr ydym yn datblygu proses o gynllunio cwricwlwm sy’n nodi cyfleoedd buddiol i ddatblygu a chymhwyso llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol?

  4. Sut yr ydym yn sicrhau bod gan bob ymarferydd yr wybodaeth a’r gallu priodol i gynllunio ar gyfer y sgiliau trawsgwricwlaidd a’u hymgorffori yn y dosbarth?

  5. Ym mha ffyrdd y mae staff yn ystyried dulliau addysgegol amrywiol wrth gynorthwyo pob dysgwr i feithrin y sgiliau trawsgwricwlaidd?

Cross curricular skills provision Cym.pdf