Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (YSD)

Rhaid i ysgolion heddiw baratoi myfyrwyr i lwyddo fory trwy roi iddynt yr wybodaeth a’r sgiliau fydd eu hangen arnynt mewn byd ansicr a chyfnewidiol. Mae’r gwaith a wnaed gan yr OECD ar y cyd â Llywodraeth Cymru yn ein dysgu bod angen i ysgolion – os ydynt i fod yn barod i wynebu gofynion y cwricwlwm newydd - allu addasu i newid, ymateb i anghenion amrywiol, cofleidio arloesedd a datblygu’r gallu i ddysgu. Mae’r egwyddorion hyn yn sail i’r Model Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu (SLO).

Egwyddorion Allweddol

  • Mae yna 7 “dimensiwn” sy’n canolbwyntio ar weithredu’r nodweddion sylfaenol, y cyfeirir atynt fel “elfennau”.

  • Mae yna 4 thema drawsdoriadol :Ymddiriedaeth, Amser, Technoleg a Meddwl Ynghyd.

  • Mae’r 7 dimensiwn (Gweledigaeth a Rennir, Dysgu Parhaus, Cydweithio, Diwylliant o Ymchwilio, Cyfnewid Gwybodaeth, Amgylchedd Allanol, Arweinyddiaeth Dysgu) wedi’u halinio’n agos â’r Safonau Proffesiynol (Addysgeg, Arweinyddiaeth, Dysgu Proffesiynol, Arloesi, Cydweithio)

  • Mae arolwg ar-lein ar gael i ysgolion archwilio eu cynnydd ym mhob un o’r dimensiynau wrth symud tuag at ddod yn Sefydliad sy’n Dysgu

  • Mae’r graff gwe yn mapio’r 7 dimensiwn ac yn adlewyrchu barn gwahanol grwpiau o ymatebwyr: athrawon, staff cymorth addysgu ac arweinwyr ysgolion.

Ystyriaethau allweddol:

  1. Sut gallai cwblhau’r arolwg helpu i gyfrannu at hunanarfarnu ysgol?

  2. I ba raddau y mae’r holl randdeiliaid yn deall ac yn ymgysylltu â’r model SLO?

  3. Gan ddefnyddio canlyniadau’r arolwg, a yw’n bosibl adnabod elfennau penodol o fewn y dimensiynau sydd angen eu datblygu?

  4. Sut allwn i ddefnyddio astudiaethau achos ysgolion eraill sy’n ceisio datblygu fel sefydliadau sy’n dysgu i gynorthwyo gyda strategaethau ymarferol ar gyfer arwain newid?

  5. Sut gallai ailadrodd yr arolwg fy helpu i olrhain twf ein hysgol fel sefydliad sy’n dysgu?