Hanfod y Dysgu
Beth yr ydym yn ei olygu wrth hanfod y dysgu?
Mae hanfod y dysgu yn crynhoi’r dysgu dwfn a pharhaol sy’n rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r gwerthoedd sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer dysgu parhaus, bywyd a gwaith. Mae’n ymwneud â’r broses o ddysgu, a’i chymhwyso, a hynny wrth i ddysgwyr fyfyrio a datblygu tuag at y pedwar diben.
Pam ei bod yn bwysig cael dealltwriaeth gytûn o hanford y dysgu?
Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm sy’n cael ei yrru gan ddibenion, lle mae’r holl ddysgu yn arwain at y pedwar diben. Mae deall hanfod y dysgu yn bwysig er mwyn galluogi pob un o’n dysgwyr i ddatblygu nodweddion y pedwar diben.
Mae'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i ddysgu, ac maen nhw’n darparu'r un disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.
Mae Hanfod y Dysgu ...
yn eang ei gwmpas ond heb fod yn gaeth i gyd-destunau penodol
yn mynegi’r cysyniadau craidd, y syniadau a’r ymholiadau mewn disgyblaeth neu faes
yn ysgogi meddwl dwfn,trafodaeth, ymholiad, dealltwriaeth newydd a chwestiynau newydd
yn galluogi ailadrodd a throsglwyddo i gyd-destunau eraill
yn gofyn am ddysgu dros gyfnod o dair blynedd a sawl dull asesu.
Nid yw Hanfod y Dysgu ...
yn gyfyngedig i bynciau cul, unigol
yn cael ei gyflawni mewn tasgau a gweithgareddau unigol
yn ymarfer ticio bocsys
yn cynnwys gwybodaeth arwynebol
yn ddysgu y gellir ei asesu mewn un ffordd yn unig.
Cwestiynau i’w trafod ynghylch hanfod y dysgu
Bydd trafodaethau ynghylch hanfod y dysgu yn hollbwysig ar bob lefel ysgol er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl o egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a pharatoi ar gyfer cwricwlwm ysgol a fydd yn cael ei lywio gan y pedwar diben.
A oes gennym gyd-ddealltwriaeth o’r hyn yr ydym yn ei olygu wrth hanfod y dysgu?
Beth yr ydym yn credu sy’n ddysgu hanfodol ar gyfer y dysgwyr yn ein hysgol?
Beth yr ydym am i’n dysgwyr ei wybod a’i ddeall?
Pa sgiliau a gwerthoedd yr ydym am i’n dysgwyr eu datblygu?
Pa ddysgu a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen tuag at y pedwar diben?
Pa ddysgu a fydd yn eu helpu i gyfrannu’n well at eu cymunedau?
Sut yr ydym yn cynllunio ar gyfer y dysgu hwn ledled ein hysgol?
Sut y byddwn yn gwybod bod ein dysgwyr wedi amlygu cynnydd yn y sgìl hwn?
Sut y gallwn sicrhau bod pob un ohonom yn gwybod beth sydd wrth wraidd y dysgu hwn?
Sut y gallwn gyfathrebu’r rheswm pam dros ddewis cyd-destunau a’r addysgeg?
Sut y mae dod o hyd i hanfod y dysgu?
Dechrau gyda chyd-destun
Cyd-destun dewisol : Nadolig o gwmpas y byd
Mae’r thema hon yn rhoi digon o gyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol. Mae ganddi hefyd gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae’n cynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio trawsgwricwlaidd.
Ond beth yw hanfod y dysgu yma?
Pam y dylid addysgu’r thema hon?
A yw’n ymwneud â rhywbeth dyfnach na’r ffaith bod gwledydd gwahanol yn dathlu’r Nadolig mewn ffyrdd gwahanol?
Mae yna lawer o atebion posibl. Gallai hanfod y dysgu gynnwys dod i ddeall bod pob un ohonom yn cyfrannu at y gymuned fyd-eang, neu ein bod i gyd yr un fath ond yn wahanol. Mae’r negeseuon hyn yn arwain yn uniongyrchol at y pedwar diben. Gellir eu dysgu a’u trosglwyddo i lawer o gyd-destunau gwahanol ledled pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Gallent hyd yn oed fod yn sail i gwricwlwm yr ysgol gyfan. Dyma’r hyn yr ydym yn ei olygu wrth hanfod y dysgu. Felly, byddai’r thema ddewisol, sef Nadolig o gwmpas y byd, yn gyd-destun addas ar gyfer y dysgu hwn.
Dechrau gyda hanfod y dysgu
Dysgu dewisol: Empathi
Mae empathi yn sgìl sy’n ein galluogi i ddeall a rhannu teimladau pobl eraill. Byddai llawer ohonom yn cytuno bod datblygu’r sgìl hwn yn ymgorffori rhywfaint o’r dysgu hanfodol sy’n ofynnol i symud ymlaen tuag at y pedwar diben. Mae empathi yn cael ei gynnwys yn y Disgrifiadau Dysgu sydd i’w gweld o dan y Datganiadau o’r Hyn Sy’n Bwysig, felly mae cynnydd mewn perthynas â’r sgìl hwn yn statudol.
Gellir darparu cyfleoedd ar bob lefel mewn ysgolion i feithrin sgiliau empathi, a hynny o ymagwedd ysgol gyfan i wersi unigol. Dyma gwestiynau defnyddiol i’w gofyn wrth gynllunio:
Sut y gallwn ddarparu cyfleoedd i feithrin empathi ymhlith ein dysgwyr?
Sut y gallwn gynllunio ar gyfer cynnydd yn y sgìl hwn?
Pwy a ddylai gydweithredu i sicrhau bod dysgu am empathi yn cael ei ailadrodd a’i drosglwyddo ledled amrywiaeth o gyd-destunau a phrofiadau dysgu?