Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth

Rhaglen Dysgu Proffesiynol Ar-lein

Ysgrifennwyd y rhaglen Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth i gefnogi athrawon yng Nghymru gyda’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

“Er ei bod yn bwysig bod athrawon yn cadw mewn cysylltiad â’u myfyrwyr, bydd yr argyfwng yn mwyhau’r angen i athrawon gadw mewn cysylltiad â’i gilydd.”

Andreas Schleicher

Y Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau yn yr OECD

Bwriad y rhaglen Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth yw galluogi athrawon i gadw mewn cysylltiad â’u cyd-weithwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion eraill tra eu bod yn gweithio gartref. Mae Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth yn galluogi staff, ar y cyd, i archwilio pwnc sydd o ddiddordeb cyffredin, myfyrio ar yr ymchwil sylfaenol, a thrafod y modd y gallwch ei ddefnyddio yn eich addysgu eich hun yn y dosbarth neu o bell.

  • Mae’r rhaglen yn bodloni nifer o feini prawf DPP effeithiol (Cordingley et al, 2015)

  • cael ei gynnal dros gyfnod hir (o leiaf ddau dymor)

  • cynnwys cyfarfodydd rheolaidd (pob pythefnos neu bob mis)

  • cynnwys sesiynau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion yr athrawon

  • cynnwys dysgu gan gyfoedion

  • trafod yn fanwl y broses o drosglwyddo ymchwil i’r ystafell ddosbarth

  • rhoi amser i’r athrawon weithredu’r hyn y maent wedi’i ddysgu

  • trafod effaith gweithredu ymarfer newydd/wedi’i addasu â chyd-weithwyr.



Nodau Egwyddorion Rhagoriaeth

Darparu athrawon â’r canlynol:

  • Y sgiliau i amlygu lefel uwch o ddealltwriaeth o’r 12 o Egwyddorion Addysgeg a nodir yn nogfen canllawiau Cwricwlwm i Gymru.

  • Y ddealltwriaeth i gydweithredu’n effeithiol â chyd-weithwyr yn eu hysgol eu hunain ac mewn ysgolion eraill er mwyn codi safonau.

  • Y gallu i greu ethos rhagweithiol yn yr ysgol, lle mae dealltwriaeth ddyfnach o werthoedd ac egwyddorion sylfaenol addysgeg yn llywio arfer ystafell ddosbarth ac yn dylanwadu ar ein holl ddulliau o addysgu ar gyfer ein dysgwyr.

I gael mynediad i’r PfE

Gellir gweld y wefan PfE drwy ‘Dolen’ wrth chwilio PfE.

I gymryd rhan yn y cwrs, cysylltwch â ni drwy:

anna.bolt@erw.cymru

admin@erw.org.uk