Y Rhaglen Dysgu ar gyfer Rhagoriaeth

Rhaglen Dysgu Proffesiynol Ar-lein

Ar hyn o bryd, mae Cymru ar fin profi newid addysgol; rydym yn ceisio darparu ein dysgwyr â chwricwlwm wedi’i gynllunio gennym ni, yr athrawon a’r arweinwyr. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i greu athroniaeth holistaidd ar gyfer addysg, sy’n canolbwyntio ar y disgybl ac yn rhoi’r plentyn wrth galon pob penderfyniad academaidd, ac sy’n ceisio cynyddu potensial pob unigolyn. Mae addysg ragorol yn parhau i fod yn sail i’r newid hwn.

Cynlluniwyd y Rhaglen Dysgu ar gyfer Rhagoriaeth i roi i athrawon da a rhagorol ddealltwriaeth lefel uchel o’r hyn y gall addysgu ei gyflawni yn yr ystafell ddosbarth, ynghyd â strategaethau sy’n eu galluogi i fod yn rhagorol yn gyson ac yn barhaus.

Amcanion Dysgu ar gyfer Rhagoriaeth

Darparu athrawon â’r canlynol:

  • Y sgiliau i amlygu dealltwriaeth lefel uwch o addysgu a gwella’r dysgu ar gyfer eu disgyblion.

  • Y ddealltwriaeth i gydweithredu’n effeithiol â chyd-weithwyr a disgyblion yn eu hysgol eu hunain ac mewn ysgolion eraill er mwyn codi safonau.

  • Y gallu i greu ethos rhagweithiol yn yr ysgol, lle mae ansawdd y dysgu yn cael ei weld, ei drafod, ei archwilio a’i gryfhau mewn modd agored.

Mae’r Egwyddorionar gyfer Rhagoriaeth yn werthfawr iawn fel rhaglen dysgu proffesiynol unigol, ond mae hefyd yn rhaglen sylfaen ragorol cyn dechrau ar y Rhaglen ‘Dysgu ar gyfer Rhagoriaeth’ gydag ERW.

I gymryd rhan yn y cwrs, cysylltwch â ni drwy:

anna.bolt@erw.cymru

admin@erw.org.uk