Themâu Trawsbynciol: Amrywiaeth
Mae amrywiaeth yn cydnabod ac yn parchu’r gwahaniaethau mewn pobl. Mae’n ymwneud â deall fod pob dysgwyr yn unigryw a’i fod yn dod â rhywbeth newydd i amgylchedd yr ysgol. Dylai’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm adlewyrchu hyn er mwyn sicrhau dull gweithredu sy’n ymatebol ac yn sensitif i gredoau ac arferion ei ddysgwyr, gan eu haddysgu a’u grymuso hefyd, i sicrhau tosturi, empathi, dealltwriaeth a thegwch.
Dylai dysgwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o amrediad o nodweddion penodol a all ddiffinio ein hunaniaeth, gan gynnwys rhyw, rhywedd, hil, crefydd, oed, anabledd a rhywioldeb. Mae gan gymuned yr ysgol gyfan ran allweddol i’w chwarae wrth feithrin dinasyddion yng Nghymru a’r byd ehangach, sy’n foesegol wybodus, a thrwy hynny, creu cyfranogwyr gwerthfawr i’n cymunedau ar yr un pryd.
Egwyddorion allweddol
Mae ein gweledigaeth yn cydnabod bod amrywiaeth yn gwella sgiliau meddwl yn feirniadol, yn meithrin empathi ac yn annog dysgwyr i feddwl yn wahanol.
Mae profiadau dysgu yn cynrychioli ac yn dathlu’r amrywiaeth gyfoethog yn y byd.
Mae’r addysgegau a ddefnyddir yn arwain at gydnabod a deall ein byd amrywiol ac yn ennyn parch at ei bobl a’i leoedd.
Mae gan ddysgwyr ymdeimlad o berthyn ac o werth yn amgylchedd y dosbarth a’r ysgol, a thu hwnt.
Mae gan ddysgwyr gyfleoedd i gydnabod ac i ddathlu amrywiaeth.
Ystyriaethau allweddol:
A yw gweledigaeth ein hysgol yn adlewyrchu ac yn parchu natur amrywiol ein holl ddysgwyr a’u teuluoedd?
Sut yr ydym yn annog dysgwyr i deimlo’n hyderus wrth fynegi eu credoau, eu rhywioldeb, eu diwylliant a’u hunaniaeth?
Pa mor aml yr ydym yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr rhyngweithio â’u cyfoedion ar lefel gymdeithasol, ac yn rhoi’r sgiliau iddynt eu defnyddio am weddill eu bywydau mewn ysgol, cymuned a gwlad amrywiol?
I ba raddau y mae dyluniad ein cwricwlwm yn annog dysgwyr i gydnabod, i drafod, i barchu ac i ddeall amrywiaeth?
Pa gyfleoedd a gynigiwn i ddysgwyr rhannu eu safbwyntiau ac i fyfyrio ar bwysigrwydd amrywiaeth?
Ym mha ffordd y mae’r broses o ddiwygio ein cwricwlwm yn cydnabod amrywiaeth ddiwylliannol cymdeithas gan alluogi dysgwyr i ddathlu natur pob cymdeithas, gan felly hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant, cydlyniant cymdeithasol ac ymdeimlad o werthfawrogiad?
Sut yr ydym yn cefnogi dysgwyr i ystyried sut beth yw rhoi eu hunain yn sefyllfa rhywun arall, a meithrin eu perthnasoedd o ganlyniad i hynny?