Rhowch yr arf o ddwyieithrwydd i’ch disgyblion

Iaith i bawb

Pa bynnag iaith y mae plant yn ei siarad gartref, gall dysgu Cymraeg roi sgiliau ychwanegol a mwy o gyfleoedd iddynt ar gyfer y dyfodol.

Mae’r llyfryn hwn yn ganllaw syml i’ch galluogi i gyflwyno a datblygu’r Gymraeg yn eich ysgol.

“Symudon ni i Sir Benfro ychydig cyn i’n mab gael ei eni ac mae e a fi wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda ‘Cymraeg i Blant’ ers hynny. Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod ein mab yn tyfu i fyny gyda’r Gymraeg a’r Saesneg i adlewyrchu’r diwylliant lle rydyn ni’n byw ac i ddysgu sgiliau gydol oes.”

Kate, rhiant o Aberteifi

“Nid yw’r Gymraeg yn iaith ryngwladol o bwys ac weithiau mae’n teimlo fel nad oes ots a yw’ch plentyn yn ei siarad ai peidio. Ond mae ots yma yng Nghymru. Dyma gyfle gorau eich plentyn i allu dod adref. Mae bod yn siaradwr Cymraeg yn agor cyfleoedd yn eu bywyd gwaith, gan eu galluogi i gael mynediad at swyddi da a byw a gweithio yn yr ardal y cawsant eu magu ynddo.

Mae cyflwyno’r Cymraeg i’ch plentyn, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, yn werthfawr ac yn hawdd. Ceisiwch fynd i glybiau a chymryd llyfrau syml yn Gymraeg o’r llyfrgell. Rydym yn siarad Saesneg gartref gyda chymaint o Gymraeg ag y gallwn. Mae fy mab yn 2 ond gall gyfrif i 10 ac enwi’r rhan fwyaf o’i anifeiliaid yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae’n gallu ynganu holl brif synau’r Gymraeg, sy’n rhoi sylfaen gwych iddo.

Mae cael ail iaith yn arfogi plant â’r gallu cynhenid i weld y byd mewn dwy ffordd wahanol. Rwy’n credu bod hyn yn eu gwneud yn naturiol yn fwy creadigol, sensitif a diplomyddol, gan eu helpu i dyfu i fod yn oedolion mwy crwn.”

Katherine, rhiant o Drefin


Bilingual Edge booklet - f11 - cymraeg - wefan.pdf


Click on the image to download the complete document.