Model y Cwricwlwm i Gymru

Curriculum on a Page Cymraeg.pdf

Crynodeb o fodel y cwricwlwm newydd

Cyn dechrau cynllunio’r cwricwlwm, mae angen i ysgolion feddu ar ddealltwriaeth glir o ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru. Gallai rhai ysgolion ddewis creu fersiwn gryno, un dudalen, sy’n crynhoi cynnwys y canllawiau. Mae hwn yn ymarfer defnyddiol ynddo’i hun, a gellir wedyn ei rannu â’r staff a rhanddeiliaid eraill.

Mae’r ddelwedd ar y chwith yn enghraifft o’r fath, sy’n crynhoi natur rhyng-gysylltiedig cynnwys allweddol canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn bwysig ar gyfer yr ymagwedd holistaidd sy’n ofynnol gan y Cwricwlwm i Gymru, ac oherwydd bod y canllawiau trosfwaol yn amlinellu egwyddorion allweddol sy’n berthnasol i bob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.