"Os byddwn yn addysgu yfory fel y gwnaethom heddiw, byddwn yn amddifadu ein plant o’u dyfodol."

John Dewy

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm sy’n seiliedig ar ddibenion ac sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Ei nod yw arfogi holl blant a phobl ifanc Cymru â’r sgiliau a’r gwerthoedd y bydd eu hangen arnynt i baratoi ar gyfer heriau a gofynion ein byd sy’n newid yn gyflym.

Mynegir gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru trwy’r pedwar diben ac mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn ymgorffori’r dysgu a’r ddealltwriaeth hanfodol ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Fodd bynnag, penderfynir ar gyd-destunau’r dysgu hwn, a’r dull gweithredu a’r addysgeg a ddefnyddir, yn lleol. Dylid edrych ar Gwricwlwm i Gymru felly fel fframwaith sy’n cynnig ymreolaeth i ysgolion ddylunio eu cwricwlwm eu hunain ar gyfer eu dysgwyr eu hunain.

Dylai’r cwricwlwm yn eich ysgol chi adlewyrchu uchelgeisiau a dyheadau gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru yng nghyd-destun Cenhadaeth ein Cenedl a bydd iddo oblygiadau i ddysgu proffesiynol pob aelod o staff wrth iddo ddatblygu. Lluniwyd yr adnodd hwn i fod yn ganllaw ac yn gymorth wrth i chi gynllunio ar gyfer newid ac fe’i cynlluniwyd i gael ei ddefnyddio ar y cyd â’r ddogfen Dylunio Eich Cwricwlwm.

GEC Cymraeg V5.pdf



Mae'r wybodaeth ar y wefan hon ar gael fel PDF rhyngweithiol ar gyfer athrawon a fyddai'n hoffi cael dewis arall yn lle'r wefan, neu fersiwn all-lein a chopi argraffadwy.


📄 Lawrlwythwch Trawsnewid eich Cwricwlwm V5.0

GEC Cyn Cychwyn Tool V3.pdf



Gall yr adnodd Cyn Cychwyn eich cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu’r deunyddiau cwricwlwm a ryddhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.


📄 Lawrlwythwch Cyn Cychwyn V3.0