Addysgu a Dysgu
Newydd rhaglen dysgu proffesiynol i Athrawon – Cefnogi Cynnydd Dysgwyr
Cefnogi Cynnydd Dysgwyr
Fe fydd athrawon yn ymgysylltu ag ymchwil ac yna nodi maes i ddatblygu a fydd yn cefnogi cynnydd dysgwyr, cefnogir hwy i droi’r ymchwil yn weithredol.
Rhaglen tri diwrnod (dau ddiwrnod llawn a dau hanner diwrnod) yn ystod Tymor y Gwanwyn a'r Haf 2023-24
Meini prawf llwyddiant
Magu hyder wrth fynegi pam a sut mae asesu yn cefnogi cynnydd dysgwyr.
Trwy ddull ymholi, nodi maes i'w ddatblygu a gweithredu arno.
Dyfnhau dealltwriaeth o asesu a chynnydd.
Strwythur y rhaglen
Diwrnod 1 (diwrnod llawn) - Dyfnhau meddwl. Arsylwi dysgu, ymgysylltu ag ymchwil.
Diwrnod 2 (diwrnod llawn) - Datblygu ‘hunch’. Cynllunio ar gyfer newid.
2-4 wythnos o ymarfer bwriadol. Cyfarfod (check in) ar-lein gyda chydweithwyr i gynnal momentwm.
Diwrnod 3a (hanner diwrnod) – Adolygu effeithiolrwydd y newid
Diwrnod 3b (hanner diwrnod) – Tymor yn ddiweddarach cyfle i ystyried yr effaith.
Newydd rhaglen dysgu proffesiynol i Athrawon – Addysgeg Byw
Addysgeg Byw
Cyfle i fireinio eich arfer tra’n arsylwi arfer da.
Rhaglen pedwar diwrnod (un bob hanner tymor) yn ystod Hydref 2023 a Gwanwyn 2024
Meini prawf llwyddiant
I ddeall a dangos nodweddion dysgu ac addysgu effeithiol.
Datblygu arfer addysgu yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
I fyfyrio, cydweithio a datblygu arfer arloesol.
I rannu arfer gyda chydweithwyr, o'ch ysgol a thu hwnt.
Am wneud cais? Ewch i Cynnig Dysgu Proffesiynol y GCA
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â – daniel.davies@sewaleseas.org.uk
Grŵp Datblygu Addysgu a Dysgu Cwricwlwm i Gymru
Mae’r grŵp datblygu dysgu ac addysgu cwricwlwm i Gymru yn croesawu ymarferwyr o ranbarth y GCA i fod yn rhan o'r broses o rannu arfer da
Bydd ymarferwyr sy'n ymuno â'r rhwydwaith cydweithredol yn :
cael y diweddariadau mwyaf cyfredol am ddatblygiadau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n gysylltiedig ag addysgu Cwricwlwm i Gymru
dysgu sut y mae ymarferwyr yn datblygu eu dulliau o addysgu ac addysgeg o fewn cyd-destun Cwricwlwm i Gymru
rhannu syniadau a datrys problemau yn ymwneud â addysgu Cwricwlwm i Gymru
cyfrannu at adnoddau a rennir ac offer dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad Cwricwlwm i Gymru
archwilio ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol i gefnogi addysgu a darpariaeth cwricwlwm
Bydd dyddiadau 2023 -24 yn cael ei diweddaru yn fuan.
Grŵp Datblygu Asesu a Chynnydd
Mae ein grŵp asesu a chynnydd yn cwrdd trwy TEAMS . Os hoffech ymuno â'r sgwrs yna cliciwch y ddolen i ymuno â'r tîm.
Dyma dyddiadau'r cwrdd ar gyfer 2023-24. Fe fydd pob sesiwn yn cychwyn am1:30pm. I gael mynediad ewch i'r tim neu cliciwch ar y ddolen yn Cynnig Dysgu Proffesiynol y GCA (course code E0099)
4/10/23, 22/11/23, 24/10/24, 20/03/24, 1/05/24, 12/06/24