Meet the Curriculum Partner
Our Partner Schools
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Siarter Iaith Uwchradd
Ysgol Gymraeg Caerffili
Cymraeg a Llythrennedd
Ysgol Gymraeg Penalltau
Cymraeg a Llythrennedd
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon
Siarter Iaith Cynradd
Professional Learning Offer
Mae’r cynnig dysgu proffesiynol llawn a mwyaf diweddar bellach i’w weld yn: Cefnogi ein Hysgolion GCA - Cynnig Dysgu Proffesiynol y GCA (google.com)
Resources and Exemplification Materials
Literacy Activities
Speaking and Listening
Adnodd sy’n cefnogi athrawon sy’n chwilio am ddeunyddiau i feithrin sgiliau trafod dysgwyr mewn pedwar cyd-destun: cynnig syniad neu farn; achos ac effaith; pwysleisio; meddwl – ystyried – archwilio – rhagfynegi a rhagdybio. Mae’r matiau yn cynnwys y chwe rôl trafod i gefnogi trafodaeth hefyd.
Mae'r deunyddiau hyn yn enghreifftio nifer o weithgareddau llafaredd ar gyfer dysgwyr. Maen nhw’n fan cychwyn i athrawon gynllunio er mwyn cynnig cyfleoedd i'w dysgwyr ymarfer eu sgiliau rhyngweithio a thrafod. Fe'u cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y cartref ond gellir eu cyflawni fel rhan o fodel dysgu cyfunol neu yn y dosbarth hefyd. Mae croeso i chi eu haddasu!
Spelling
Reading
Pecyn cynhwysfawr a luniwyd gan staff yr ysgol er mwyn dangos sut maen nhw'n mynd ati i ysbrydoli ac ysgogi darllen, ymgysylltu â rhieni ac asesu darllen. Mae'r pecyn yn cynnwys agweddau eraill megis hyfforddiant a rhannu arfer da, strategaethau ar lawr y dosbarth ac amrywiaeth o adnoddau.
Cyfle i ddysgu sut mae'r ysgol yn cynllunio'n strategol i ddatblygu sgiliau darllen ei disgyblion. Ceir cyflwyniad i'r chwe sgil allweddol mae'r ysgol yn canolbwyntio arnyn nhw a'r mathau o weithgareddau sy'n cael eu defnyddio mewn grwpiau dysgu gwahanol er mwyn sicrhau bod cydbwysedd addas rhwng y sgiliau a bod y disgyblion yn meithrin y sgiliau mewn cyd-destunau dilys.
Addasiad Tîm y Gymraeg y GCA o’r deunyddiau oedd wedi’u datblygu gan Bartner Cwricwlwm ac ysgolion Partner Cwricwlwm Saesneg a Llythrennedd Cynradd ILlCh y GCA yw’r adnodd hwn. Mae'r adnodd yn disodli’r hen Top Ten Reading Responses ac wedi eu diweddaru i amlygu'r sgiliau darllen a deall posibl y gellir eu datblygu trwy ddefnyddio'r gweithgareddau dysgu hyn. Mae’r pecyn yn cynnwys templedi y gellir eu haddasu ar gyfer athrawon a disgyblion a gobeithir medru enghreifftio’r gweithgareddau yn ystod y flwyddyn.
Dull strwythuredig o addysgu strategaethau darllen (cwestiynu, egluro, crynhoi a rhagfynegi) y gall dysgwyr eu defnyddio er mwyn crynhoi eu sgiliau darllen a deall.
Mae’r deunyddiau’n cynnwys esboniad a chanllaw cyffredinol i'r ymarferydd ac amrywiaeth o dempledi.
Amrywiaeth o ymarferion darllen a deall ar gyfer dysgwyr hŷn yr ysgol gynradd. Mae'r gweithgareddau'n seiliedig ar ddeunyddiau darllen digidol a ddarperir yng nghylchgrawn ar-lein Cynnal, sef, Y Cliciadur.
Writing
Offeryn i gefnogi athrawon i gynllunio ar gyfer dilyniant o ddysgu sy'n arwain at dasg ysgrifennu tra'n sicrhau cyfleoedd cyfoethog i feithrin sgiliau siarad, gwrando, a darllen ar yr un pryd.
Mae’r adnodd yn cynnwys unedau enghreifftiol ar gyfer y chwe math o destun anllenyddol ac ystod o dampledi y gellir eu defnyddio i gynllunio ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg ac ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Pupil Voice: Literacy
Recent Reports
Personalised Assessments