Sut i ddysgu llafaredd?

Cynllunio canlyniad sgwrs

Er mwyn gallu strwythuro a gweithredu gweithgareddau llafar yn effeithiol, dylid ystyried y pedwar cam canlynol:

1. Pwrpas siarad a Deilliannau Siarad

Er mwyn ennyn diddordeb disgyblion a chefnogi eu nodau dysgu, mae'n hanfodol eich bod yn ystyried yr hyn rydych chi'n gofyn i'ch disgyblion siarad amdano.

Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried: ysgogiad y sgwrs; y pwrpas; y canlyniad a ddymunir (amcanion dysgu allweddol a llinynnau i'w datblygu); a chymhelliant disgyblion.

Dylid sicrhau fod y canlyniadau dysgu a fwriadwyd yn ennyn diddordeb disgyblion mewn ffordd sy'n hyrwyddo eu sgiliau ar draws pedair llinyn llafar: corfforol; ieithyddol; gwybyddol; ac emosiynol a chymdeithasol.

Cwestiynau i'w hystyried:

  • Beth yw pwrpas y siarad? A sut gall hyn eich cynorthwyo i ddewis y dasg neu ysgogiad priodol?

  • A oes bwriad i'r siarad? A oes angen i ddisgyblion wneud penderfyniad neu ddod i gonsensws?

  • Sut mae'r deilliant yn datblygu sgiliau eich disgyblion o fewn y fframwaith llafar?

  • A yw'r ysgogiad ar gyfer siarad yn berthnasol i fywydau eich disgyblion? A yw'n werth siarad amdano?

  • A yw canlyniad y sgwrs yn annog siarad archwiliadol neu gyflwyniadol?

Dylid sicrhau fod y deilliannau yn gofyn i'r disgyblion ymgysylltu ag o leiaf un o'r dibenion/deilliannau canlynol:

2. Strwythur siarad

Wrth gynllunio strwythur tasg lafar, ystyriwch y canlynol:

· sut y rhoddir y disgyblion mewn grwpiau a beth yw effaith hynny

· disgwyliadau a rôl y disgyblion o fewn y grŵp neu’r dasg

· Sefyll neu eistedd? Pa un sydd fwyaf addas?

· A ellir trefnu gweithgareddau mewn dilyniant?

· Grwpio disgyblion e.e. parau, trioedd, grwpiau, rolau, protocoliau ayb

Canllawiau grwpio

Parau:

  • Trafodaeth gyflym

  • Annog sgiliau gwrando da

  • Dod yn gyfarwydd â wynebu ei gilydd a gwneud cyswllt llygad.

Triawdau:

  • Annog trafodaeth ehangach

  • Annog disgyblion tawelach i gymryd rhan a magu hyder

  • Annog pawb i gyfrannu

Cylch:

  • Gwych ar gyfer trafodaethau grŵp

  • Annog cyfraniadau hafal gan y disgyblion

  • Mwy o gyfleoedd i rannu syniadau

  • Cyfle i adeiladu, egluro, herio a chrynhoi

Cyferbyn:

  • Cyfle i drafod efo amrywiaeth o bartneriaid yn rhwydd a chyflym

  • Defnyddiol wrth ymwreiddio geirfa ac agoriadau brawddegau

Powlen pysgodyn:

  • Gwych ar gyfer myfyrio ar lafaredd

  • Datblygu sgiliau gwrando astud

Winwnsyn:

  • Annog siarad â nifer o bartneriaid gwahanol

3. Scaffaldau

Dylid sicrhau bod gan y disgyblion y sgiliau a’r iaith briodol er mwyn cymryd rhan a gwella eu llafaredd yn effeithiol.

a. Canllawiau Trafod

Er mwyn i drafodaethau fod yn bwrpasol ac o ansawdd uchel, dylid annog disgyblion i ystyried cynhwysion trafodaeth wych. Dylai'r rhain gynnwys a chyfeirio at bob llinyn o'r fframwaith llafar. Mae Prifysgol Caergrawnt yn darparu awgrymiadau a gweithgareddau i ddatblygu'r rhain ar eu gwefan https://thinkingtogether.educ.cam.ac.uk/resources/.

Dylai canllawiau trafod fod yn berthnasol i'ch lleoliad ac i ddatblygiad y disgyblion. Ar ôl eu creu, dylai'r rhain fod yn set o feini prawf llwyddiant y gellir eu haddasu i wahanol weithgareddau. Efallai y byddwch hefyd am ganolbwyntio ar ganllawiau unigol yn ystod tasgau penodol er mwyn sicrhau bod disgyblion yn deall sut lwyddo ym mhob un.


Rheolau sylfaenol ar gyfer siarad neu drafod :

o Parchwch syniadau eich gilydd bob amser

o Gwahodd eraill i gyfrannu

o Dangoswch eich bod yn gwrando'n astud

o Byddwch yn barod i newid eich meddwl

o Ceisiwch ddod i gytundeb

Mae canllawiau trafod yn bwerus pan byddent yn cael eu trafod gyda'r disgyblion. Fodd bynnag, mae'n anhebygol y bydd y disgyblion yn gallu cynnig awgrymiadau priodol os nad oes ganddynt brofiad blaenorol o siarad mewn grŵp. Yn yr un modd os nad ydynt wedi arsylwi neu wedi derbyn engreifftiau/sgaffaldiau o siarad sydd o ansawdd da.

b. Protocoliau

Canllawiau ydy protocoliau sydd yn arwain disgyblion ar sut i gymryd tro yn deg tra'n trafod. Dylech anelu at sefydlu'r protocoliau gyda'ch disgyblion, neu efallai hoffech chi addasu neu sefydlu rhai eich hun. Mae poster 'Voice 21' ar gael sy'n nodi tair o'r enghreifftiau a ddefnyddir amlaf.

c. Brawddegau Agoriadol

‘Providing students with sentence stems to help them structure their ideas during a discussion or when answering a teacher's question is a good idea for all students, but is particularly important for reluctant speakers’ Amy Gaunt and Alice Stott.

Mae cyflwyno brawddegau agoriadol yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol sy’n cefnogi siarad disgyblion. Wrth gynllunio a pharatoi brawddegau agoriadol sy’n addas ac yn berthnasol i’ch disgyblion, ystyriwch y math o drafod neu siarad bydd yn digwydd ar lawr y dosbarth yn ystod gweithgaredd:

• Sut ydych chi eisiau’r sgwrs i swnio?

• Beth ydych chi eisiau i’ch disgyblion feddwl amdano, ac felly beth fyddent yn ei ddweud?

• Sut gall eich disgyblion fynegi eu hunain fel arbenigwyr?

Clicwch ar y lluniau isod i weld copi

ch. Rolau siarad

Pan fydd y disgyblion yn gyfarwydd gyda’r cyfarwyddiadau trafod, gallwch ddechrau cyflwyno y rolau trafod (chwith) sef yr amrywiaeth o gyfraniadau y gallant eu gwneud mewn trafodaeth. Bydd hyn yn sichrhau bod y drafodaeth yn datblygu eu meddwl, eu rhesymu ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r pwnc dan sylw.

Rhaid pwysleisio bod angen i bob cyfraniad o fewn y grwp adeilau neu gysylltu gyda’r hyn ddywedwyd gan y person blaenorol. Mae hyn yn sicrhau bod y drafodaeth yn fwy na dim ond rhannu syniadau syml. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y drafodaeth yn datblygu, yn llifo ac yn ehangu ar syniadau eraill. Pan fydd disgyblion yn deall bod trafodaeth yn mynd y tu hwnt i rannu eu syniadau eu hunain, maen't yn deall bod angen iddynt ryngweithio â syniadau eraill. Gallwch nawr eu cyflwyno i'r rolau siarad unigol.

4. Myfyrio

Ditectif Siarad Cymraeg.pptx

Mae myfyrio ar weithgareddau llafaredd yn rhan allweddol o ganllawiau Llais 21. Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn adnabod eu cryfderau a’u gwendidau wrth ddatblygu eu sgiliau llafaredd. Gallwn hybu disgyblion i fyfyrio mewn sawl ffordd, unai yn gyflym a chryno, neu drwy gynnal gweithgaredd estynedig sy’n cynnig mwy o fanylder.

Enghreifftiau o sut i strwythuro'r broses o fyfyrio:

· Adborth athro ar lafar

· Ditectif Siarad