CANLLAWIAU
•Rhoi geirfa allweddol i’r disgyblion.
•Un disgybl i ddisgrifio gair/cysyniad heb ddefnyddio’r gair allweddol.
•Unwaith bod y gair wedi ei ddyfalu, maent yn symud ymlaen at y nesaf.
Athro:
•Creu’r cardiau gyda’r eirfa/cysyniad
•Grwpio’r disgyblion
•Esbonio’r rheolau i’r disgyblion.
Dysgwr:
•Disgrifio’r geiriau yn glir ac gryno.
•Gwrando yn ofalus.
1. Dyniaethau- Democratiaeth. CA4. Rhoddir geirfa yn debyg i Pleidlais, Protestio, Etholiad, Canfasio. Gellid defnyddio hwn fel modd o gyflwyno’r eirfa ar ddechrau pwnc neu i atgyfnerthu’r eirfa yn ystod neu ar ddiwedd y pwnc.
2. Bioleg- Celloedd. CA3. Rhoddir geirfa yn debyg i Cell, Cloroplast, Niwclews, Wal y gell. Gellid defnyddio hwn fel modd o gyflwyno’r eirfa ar ddechrau pwnc neu i atgyfnerthu’r eirfa yn ystod neu ar ddiwedd y pwnc.