I archwilio a chyflwyno syniadau gan godi hyder.
Canllawiau
Dyma weithgaredd sydd posib ei wneud fel par neu grwp er mwyn archwilio a chyflwyno syniadau. Mae'r dasg yn codi hyder y disgyblion wrth siarad mewn grwp. Athro i amlinellu'r dasg. Disgyblion i nodi syniadau ar bapur gludiog bach. Mae gan ddisgyblion funud i archwilio eu syniadau neu i gyflwyno eu syniadau. Mae'r athro yn amseru munud er mwyn annog y disgyblion i siarad am funud cyfan. Dylid annog y disgyblion i drafod am funud cyfan er mwyn adeiladu hyder a gwytnwch.
Dylid annog y defnydd o ddechrau brawddegau i strwythuro'r dasg.
Enghreifftiau:
Athro: A ddylai bobl prynu nwyddau masnach deg?
Mae gyda chi 30 eiliad i nodi ambell bwynt siarad ar eich nodyn gludiog.
Athro wedyn i ddewis un disgybl i siarad yn gyntaf.
Wedi iddynt siarad am funud, dylid canmol, cynnig sylwadau i wella a.y.b. cyn symud ymlaen at ddisgybl arall.
Cyfnod Sylfaen: Mae modd lleihau yr amser i'r' dasg i 10/20 eiliad. Sicrhewch bod amserydd gweledol i'r disgyblion.
Enghraifft: "Sut mae gofalu am blanhigyn/ anifail?" "Beth ddysgoch chi?"
CA2/3: Gellid cynyddu'r amser yn ol gallu'r disgyblion.
Enghraifft: "Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn effeithio delwedd pobl ifanc?". Hefyd byddai modd ei ddefnyddio fel ffordd o adolygu pwnc.