Gêm hwylus sy’n cynyddu ein dealltwriaeth o sut rydym yn addasu ein lleisiau a’n cyrff i gyfleu emosiwn neu theimladau wrth siarad.
Canllawiau:
•Cynllunio cyd-destun a phwrpas penodol yr ydych am i’ch dosbarth ei weithredu ac ymarfer.
•Trafod amrywiaeth eang o emosiynau.
Athro:
•Paratoi datganiadau gall ddysgwyr ei fynegi mewn sawl arddull wahanol.
•Modelu sut gallwn addasu llais a defnyddio’r corff i gyfleu emosiynau.
Dysgwyr:
•Rhaid i ddysgywr arddangos dealltwriaeth o rinweddau corfforol wrth fynegi eu hunain.
Yma mae modd i ganolbwyntio ar emosiynau penodol, ond hefyd mae rhyddid i fynegi rhain trwy lefaru datgaindau amrywiol.
Bydd hyn yn weithgaredd gwerthfawr tra'n gweithio gyda phlant CS a CA2, wrth geisio adnabod sut mae emosiynau a theimladau yn cael ei gyfleu trwy lafaredd.