Gwahanol fathau o siarad

Diffinio dysgu trwy siarad- Siarad Archwiliadol

Mae dysgu drwy siarad yn sgil gwahanol i ddysgu sut i siarad, ac mae annog hyn o fewn y dosbarth YN OGYSTAL Â dysgu'r sgil o sut i ddysgu drwy siarad yn fwriadol o fewn yn ein dosbarthiadau yn hanfodol er mwyn i'r disgyblion gael profiadau llafaredd cadarnhaol. Er enghraifft, gall ddysgu drwy siarad ddigwydd drwy ddadlau ac ystyried syniadau, ac mae strategaethau ar sut i gynorthwyo gyda hyn yn y drysorfa. Trwy ddysgu llafaredd mae'r disgyblion yn cael eu ymestyn a'u herio i ffurfio barn, sydd yn arwain at ddatblygu'r gallu o gyrraedd cytundeb gydag eraill. Bydd datblygu'r strategaethau yma o fewn siarad a llafaredd y disgyblion hefyd yn cynorthwyo eu sgiliau darllen ac ysgrifennu.


Beth yw siarad archwiliadol?

· Pawb yn gwrando'n astud

· Pobl yn holi cwestiynau

· Pobl yn rhannu gwybodaeth berthnasol

· Gall syniadau newid

· Rhesymau yn cael eu rhoi os yn herio pwynt

· Cyfrandiadau yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud

· Annog pawb i gyfrannu

· Parchu syniadau a barn

· Awyrgylch o ymddiriedaeth

· Cydweithio

· Grwpiau yn ceisio dod i benderfyniadau cytun

Sut mae'n edrych/ swnio?

Gall siarad archwiliadol fod yn anffurfiol. Mae'n ffordd o gasglu syniadau gall cael eu defnyddio mewn siarad cyflwyniadol. Mae siarad archwiliadol yn betrusgar ac yn anghyflawn wrth iddo alluogi disgyblion i gynnig syniadau, gweld sut mae'r syniadau yn swnio, derbyn barn eraill ar eu syniadau, i drefnu gwybodaeth a syniadau i batrymau gwahanol.

Profiadau siarad archwiliadol:

1. Datblygu gwybodaeth bynciol

2. Datblygu ac ehangu dealltwriaeth

3. Archwilio cysyniadau

4.Dysgu wrth eraill

5.Datblygu sgiliau ymholi a rhesymu