Gwella sgiliau gwrando trwy dasg pwrasol ar ddysgu mathau gwahanol o wrando.
Canllawiau
Athro:
Hwyluso siarad a sicrhau dealltwriaeth o ddysgu. Atgoffa disgyblion ynglŷn â rheolau trafod.
Camau:
Gosod disgyblion mewn i driawdau
Cyfeirio Disgybl B i siarad am 3 munud ar destun penodol
Mae angen i Ddisgybl A bod yn gwrandawr mawr (mae'r gwrandäwr mawr yn cymryd sylw o iaith corff, cyswllt llygaid, ayyb - maent yn dadansoddi popeth am y sgwrs / rhyngweithiad)
Disgybl C bydd y gwrandäwr bach (nhw sy'n canolbwyntio am y manylion - dyddiadau / ffeithiau /digwyddiadau ayyb)
Myfyrio a rhoi adborth i'r grŵp
Disgybl:
Disgybl A - Cymdeithasol ac emosiynol: Mae angen i Ddisgybl A gwrando'n weithredol tra'n ffocysu ar iaith corff, tôn a mynegiant wyneb y siaradwr. Defnyddio sgiliau dehongli er mwyn crynhoi teimladau'r siaradwr.
Disgybl B - Corfforol: Mynegi syniadau a barn am destun penodol.
Disgybl C: Gwybyddol - Gwerthuso syniadau a safbwyntiau Disgybl B yn feirniadol.
CA2 / CA3: Gellir ei ddefnyddio ar draws y cwricwlwm.
Enghraifft: Gwyddoniaeth - Trafod safbwyntiau ar roi organau.
Hanes - Safbwyntiau ar ddigwyddiadau hanesyddol.
Rhifedd - Trafod gysyniadau mathemategol penodol.