Rolau trafod
Pwrpas:
Dangos i ddisgyblion y mathau o gyfraniadau gallant wneud o fewn trafodaeth, yn ogystal â ffocysu trafodaeth yn effeithiol.
Canllawiau:
•Trafodaeth ar destun arbennig gyda disgyblion yn cael eu hannog i gyfrannu mewn ffyrdd gwahanol, gyda’r ffocws ar ymateb i eraill
•Gall disgyblion cyflawni mwy nag un rôl ar y tro er mwyn cyfoethogi’r drafodaeth
•Rolau: holwr/ chwilotwr, heriwr, datblygwr syniadau, symbylwr a chadeirydd, crynhöwr
Athro:
•Dewis testun trafod bod gan ddisgyblion digon o wybodaeth i’w trafod
•Esbonio’r rolau a sut i’w defnyddio
•Cyflwyno un neu ddau o’r cardiau yn unig ar y tro, ac yna ychwanegu mwy
Dysgwr:
•Cyfrannu at drafodaeth mewn gwahanol ffyrdd
•Sicrhau bod cyfraniadau yn rhyngweithio gyda chyfraniadau pobl eraill
enghreifftiau
Enghreifftiau:
• Dyniaethau –‘ A ydy bleidleisio yn bwysig?’ / ‘Pwy oedd ar fai am streic y glowyr yn 1984?’
• Gwyddoniaeth – ‘Mae egni adnewyddadwy yn hanfodol i’n dyfodol’ A ydych chi’n cytuno?