Mae’r berthynas rhwng llafaredd a iaith yn union yr un fath ar berthynas rhwng llythrennedd ac ysgrifennu a rhifedd a Mathemateg. Mae penderfynu dysgu gwersi llafar yn sicrhau bod y disgyblion yn deall bod cyd berthynas pendant rhwng siarad ac ysgrifennu. Mae’n bwysig deall felly bod darllen ac ysgrifennu yn 'arnofio ar fôr o lafaredd'. Y disgwyl ydi y bydd disgyblion sydd yn gallu mynegi eu hunain yn hyderus yn profi gwelliant yn eu gallu academaidd a’u lles. Dim ond trwy ddysgu a meithrin sgiliau llafaredd safonol y bydd pob disgyblion yng Nghymru yn darganfod eu llais.
Llafaredd yw’r gallu i brofi a deall amrywiaeth eang o ddulliau siarad, megis y defnydd o wahanol genres, ffurfiau, cyfrwng ac arddull mewn cywair addas. Llafaredd hefyd yw’r gallu i fynegi eich hun yn rhugl ac yn ramadegol gywir yn ogystal a bod yn wrandawr sensitif sydd yn gallu cefnogi, ychwanegu a herio sgwrs.
Rhannwyd y sgiliau llafaredd i bedwar llinyn llafar: Ieithyddol, Corfforol, Gwybyddol, Emosiynol a Chymdeithasol, er mwyn cefnogi athrawon a disgyblion i adnabod pa elfennau sydd yn arwain at siarad o safon uchel.
Beth yw siarad da?
Mae cyfathrebu llafar yn cynnwys amrywiaeth eang o sgiliau ac ymddygiad:
Beth yw'r gwahanol fathau o siarad?
Diffinio Dysgu Drwy Siarad - Siarad Archwiliadol
Mae dysgu drwy siarad yn sgil gwahanol i ddysgu sut i siarad. Mae annog dysgu drwy siarad yn ein dosbarthiadau yn hanfodol er mwyn i'r disgyblion dderbyn profiadau llafaredd cadarnhaol. Er enghraifft, gall ddysgu drwy siarad ddigwydd drwy ddadlau ac thrafod syniadau, ac mae strategaethau ar sut i gynorthwyo gyda hyn yn y drysorfa. Trwy ddysgu llafaredd mae'r disgyblion yn cael eu hymestyn a'u herio i ffurfio barn, sydd yn arwain at ddatblygu'r gallu o ddod i gytundeb gydag eraill. Bydd datblygu'r strategaethau yma o fewn siarad a llafaredd y disgyblion hefyd yn cynorthwyo eu sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Beth yw siarad archwiliadol?
· Pawb yn gwrando'n astud
· Pobl yn holi cwestiynau
· Pobl yn rhannu gwybodaeth berthnasol
· Ystyried syniadau newid
· Cynnig rhesymau os yn herio pwynt
· Cyfrandiadau yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud
· Annog pawb i gyfrannu
· Parchu syniadau a barn eraill
· Awyrgylch o ymddiriedaeth
· Cydweithio
· Grwpiau yn ceisio dod i benderfyniadau cytun
Diffinio dysgu i siarad- Siarad Cyflwyniadaol
O fewn y drysorfa mae dysgu i siarad wedi cael ei gategoreiddio i 4 llinyn: ieithyddol, corfforol, gwybyddol a emosiynol a chymdeithasol. Bydd y sgiliau yma o gymorth i ddisgyblion ac athrawon i adnabod elfennau sydd yn annog siarad safonol.
Siarad Cyflwyniadol (Presentational talk)
“The difference between the two functions of talk is that in presentational talk the speaker’s attention is primarily adjusting language content and manner to the needs of an audience and in exploratory talk the speaker is more concerned with sorting out his / her own thoughts.” (Barnes, 1992.)
Cyn eich bod yn gallu datblygu siarad cyflwyniadol mae’n bwysig bod y disgyblion eisioes wedi cael y profiad o siarad archwiliadol ac wedi cael cyfle i ddatblygu deallusrwydd dyfnach o’r math yma o siarad.
Dylai Siarad Cyflwyniadol gynnwys y canlynol :
· Dysgu sgiliau siarad penodol
· Paratoi ar gyfer cynulleidfa benodol
· Bod pwrpas i’r cyflwyniad
· Datblygu hunan hyder
Er mwyn codi statws llafaredd mae angen i’r disgybl dderbyn amrywiaeth o dasgau cyflwyno. Dylai yr amrywiaeth yma amrywio o ran y cyd-destun ac o ran y math o gynulleidfa y cyflwynir iddynt.
Siarad Archwiliadol a Siarad Cyflwyniadol
Mae gwahaniaeth rhwng y ddau fath yma o siarad. Wrth ddefnyddio siarad cyflwyniadol mae'r ffocws yn bennaf ar addasu iaith, cynnwys a dull i anghenion y gynulleidfa. Wrth ddefnyddio siarad archwiliadol mae'r siaradwr yn ymgeisio rhoi trefn ar ei feddyliau.
Mae dysgu llafar effeithiol yn digwydd pan mae myfyrwyr yn cael cyfle i drafod a datblygu eu dealltwriaeth drwy siarad, a phan roddir cyfle i ddysgu beth yw siarad effeithiol. Llyfr sy'n amlinellu ac yn rhoi trosolwg clir a chynhwysfawr o egwyddorion addysgu deialog yw: 'It's Good to Talk: Moving Towards Dialogic Teaching' by Daryn Egan.
Yn ei lyfr 'In Towards Dialogic Teaching' gan Robin Alexander, dywed bod angen y canlynol er mwyn addysg deialog:
· Cydweithio sy'n annog disgyblion i feddwl mewn ffyrdd gwahanol.
. Cwestiynau sy'n gofyn am atebion cymleth, tystiolaeth ac atebion y gellir eu datblygu.
· Adborth sy'n cyflwyno gwybodaeth, sy'n annog, ac dydd yn gwneud i berson feddwl yn ehangach.
· Cyfraniadau estynedig, yn hytrach na chyfraniadau pytiog. Cyfraniadau sy'n cydblethu, dyfynhau dealltwriaeth, ymchwil a gwybodaeth.
· Trafodaethau a dadleuon sy'n procio ac yn herio yn hytrach na derbyn dadleuon heb eu cwestiynu.
· Ymgysylltiad proffesiynol gyda'r testun sy'n cyffroi ac yn codi safon trafodaethau dosbarth.
· Trefniadaeth, hinsawdd a pherthnasau o fewn y dosbarth sy'n gwneud hyn oll yn bosibl.
Diagnosis Llafaredd yn y dosbarth
Yn y tabl isod, mae proses sy’n cefnogi athrawon i adnabod anghenion llafaredd ymysg disgyblion eu dosbarth. Mae'r tabl hefyd yn cynorthwyo arweinwyr i dargedu ardaloedd sydd angen eu datblygu ar draws ysgol gyfan.
Yma, mae angen ystyried pwrpas siarad, sut caiff ei strwythuro a’i gefnogi, yn ogystal â sut mae disgyblion yn myfyrio ar eu sgiliau llafar.