Gêm syml ble mae angen i’r dosbarth gyfrif o un i ugain, gyda dim ond un person yn siarad ar y tro.
Canllawiau:
•Mae gofyn bod y dysgwyr yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei ddweud gan eraill, ac yn ymateb yn briodol.
•Rhaid i ddysgwyr ystyried cynnwys eu llafaredd ac eraill o’u cwmpas.
Athro:
•Angen paratoi cynnwys sy’n berthnaosl i’r pwnc, mynnu sylw a diddordeb y dysgwyr.
Dysgwyr:
•Gwarndo, canolbwyntio ac ymateb yn briodol ar lafar.
Mae modd addasu’r gêm yma i gynnwys geirfa, prosesau gwyddonol neu cyfarwyddiadau. Yr elfen gymdeithasol sy’n herio’r dysgwyr, sy’n mynnu eu bod yn ymwybodol o beth i’w ddweud a phryd.