Canllawiau
Mae’r Athro yn:
•darparu adnoddau ar gyfer eu trefnu.
•cynnig banc o eirfa berthnasol ar gyfer mynegi barn a thrafod.
•cyfeirio ac atgoffa disgyblion o ganllawiau trafod. (Gweler Poster)
Mae’r dysgwr yn:-
•cytuno ar Feini Prawf Llwyddiant ar gyfer y trefnu safleoedd
•parchu syniadau eraill.
•adeiladu, herio, crynhoi, egluro a phrocio syniadau ei gilydd
•cyfiawnhau ei dewis o safle
•fodlon newid/ addasu eu syniad
Dyniaethau – Trefnu ffynonellau amrwyiol gan gyfeirio at ei dibynadwyedd.
Iaith – Cynnig agoriadau a pharagraffau o lyfrau a’u trefnu o’r mwyaf atyniadol i’r lleiaf atyniadol. Syniad arall yw trefnu cymeriadau o destun maent wedi astudio, e.e pwy yw’r cymeriad mwyaf dibynadwy.
Mathemateg -Cynnig engreifftiau gwahanol o sut mae person wedi datrys problem ac yna mynd ati i drefnu o’r mwyaf effeithiol i’r lleiaf effeithiol.
Gweithgareddau CBAC – Diemwnt (Gweler Banc Adnoddau)