Pwrpas:
Annog trafod cysyniad newydd, defnyddio geirfa pynciol o fewn cyd-destun a rhesymu trefn digwyddiad/proses
CANLLAWIAU
•Rhannu’r dysgwyr mewn i grwpiau addas oddeutu 3-6.
•Cyflwyno cyfres o luniau heb eu trefnu.
•Gadael i’r dysgwyr drafod a threfnu’r lluniau. Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen, gellir cyflwyno patrymau brawddeg a geirfa allweddol iddynt ddefnyddio.
•Erbyn diwedd y drafodaeth, dylai’r disgyblion ddod i gytundeb ar y drefn a medru adrodd nôl i’r dosbarth.
•
Athro:
•Paratoi lluniau addas i’r disgyblion.
•Creu sleid o batrymau brawddeg a geirfa allweddol er mwyn eu cyflwyno ar adeg briodol yn y drafodaeth.
Disgybl:
•Defnyddio gwybodaeth blaenorol i helpu cynnal trafodaeth i drefnu’r lluniau.
•Defnyddio’r patrymau brawddeg a geirfa er mwyn gwella safon y drafodaeth.
•Cyrraedd cytundeb ar y drefn er mwyn medru adrodd nôl i’r dosbarth.
1. •Gwyddoniaeth CA3- Gweler yr enghraifft gyferbyn o luniau a ddefnyddiwyd er mwyn annog y dysgwyr i drafod ‘Detholiad Naturiol’. Wedi I’r drafodaeth ddechrau, cyflwynwyd geirfa fel addasu, geneteg, dethol naturiol, ar hap, amrywiadau, cuddliw, ysglyfaeth iddynt i ddefnyddio fel rhan o’r drafodaeth.